Amcangyfrifon y Dreth Trafodiadau Tir ar gyfer Mai 2018.

Gweler y manylion

Cyhoeddwyd gyntaf:
19 Mehefin 2018
Diweddarwyd diwethaf:

Dogfennau

Ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir: Mai 2018
, math o ffeil: PDF, maint ffeil: 626 KB

PDF
626 KB
Efallai na fydd y ffeil hon yn hygyrch. Cais am fformat gwahanol. Os mae arnoch chi angen fersiwn o’r ddogfen hon mewn fformat mwy hygyrch, e-bostiwch digital@llyw.cymru. Cofiwch ddweud wrthym y math o fformat sydd ei angen arnoch chi. Byddai’n help mawr i ni os gallech chi ddweud wrthym ba fath o dechnoleg gynorthwyol rydych yn ei defnyddio hefyd.

Manylion

Mae'r ystadegau a gynhwyswyd yn y datganiad hwn wedi eu diweddaru, ac maent ar gael ar StatsCymru.

Y datganiad ystadegol hwn yw’r ystadegau swyddogol ar gyfer y Dreth Trafodiadau Tir.

Amodol yw’r amcangyfrifon cychwynnol hyn. Byddwn ni’n adolygu’r amcangyfrifon hyn yn y cyhoeddiad misol nesaf ar yr ystadegau ar 26 Gorffennaf. Y rheswm am hyn yw bod sefydliadau’n dal I fod yn gallu adrodd ynghylch trafodiadau pellach ar gyfer mis Mai. Mae gan sefydliadau 30 diwrnod ar ôl dyddiad y trafodiad i roi gwybod amdanynt i ACC.

Pwyntiau allweddol o’r datganiad ystadegol hwn

Ar gyfer trafodiadau TTT hysbysadwy gyda dyddiad dod i rym ym mis Mai 2018:

  • 4,450 o drafodiadau hysbysadwy wedi’u hadrodd ar gyfer y Dreth Trafodiadau Tir, gyda chyfanswm o £13.5 miliwn o dreth yn ddyledus 
  • 3,080 o drafodiadau preswyl ar gyfer y Dreth Trafodiadau Tir ar y brif gyfradd, gyda 1.000 o drafodiadau'r Dreth ar y gyfradd uwch, sy’n golygu cyfanswm o £10.1 miliwn o dreth yn ddyledus o’u cyfuno, a
  • 360 o drafodiadau TTT amhreswyl, gan arwain at £3.3 miliwn o dreth yn ddyledus. 
  • Ar ddiwedd 13 Mehefin, roedd 1,577 o sefydliadau wedi cofrestru ar gyfer cyflwyno’r Dreth Trafodiadau Tir ar-lein, gyda chyfanswm o 4,023 o ddefnyddwyr ar-lein wedi’u cofrestru.