Neidio i'r prif gynnwy

Amcangyfrifon y Dreth Trafodiadau Tir ar gyfer Ebrill 2018.

Y datganiad ystadegol hwn yw’r ystadegau swyddogol ar gyfer y Dreth Trafodiadau Tir.

Amodol yw’r amcangyfrifon cychwynnol hyn. Byddwn ni’n adolygu’r amcangyfrifon hyn yn y cyhoeddiad misol nesaf ar yr ystadegau ar 19 Mehefin. Y rheswm am hyn yw bod sefydliadau’n dal I fod yn gallu adrodd ynghylch trafodiadau pellach ar gyfer mis Ebrill. Mae gan sefydliadau 30 diwrnod ar ôl dyddiad y trafodiad i roi gwybod amdanynt i ACC.

Pwyntiau allweddol

Ar ddiwedd 10 Mai 2018, roedd:

  • 3,940 o drafodiadau hysbysadwy wedi’u hadrodd ar gyfer y Dreth Trafodiadau Tir, gan ddod i rym yn Ebrill 2018, gyda chyfanswm o £12.0 miliwn o dreth yn ddyledus
  • 2,640 o drafodiadau preswyl ar gyfer y Dreth Trafodiadau Tir ar y brif gyfradd, gyda 920 o drafodiadau'r Dreth ar y gyfradd uwch, sy’n golygu cyfanswm o £8.6 miliwn o dreth yn ddyledus o’u cyfuno
  • 380 o o drafodiadau amhreswyl a chymysg (sef eiddo sy’n amhreswyl ac yn breswyl o ran natur) ar gyfer y Dreth, gan arwain at £3.4 miliwn o dreth yn ddyledus; a
  • 1475 o sefydliadau wedi cofrestru ar gyfer cyflwyno’r Dreth ar-lein (ar hyn o bryd gyda chyfanswm o 3554 o ddefnyddwyr ar-lein wedi’u cofrestru).

Adroddiadau

Ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir: Ebrill 2018 , Saesneg yn unig, math o ffeil: PDF, maint ffeil: 767 KB

PDF
Saesneg yn unig
767 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Cyswllt

Dave Jones

Rhif ffôn: 03000 254 729

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Media

Rhif ffôn: 03000 254 770

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.