Neidio i'r prif gynnwy

Rydym yn sefydliad sy'n adolygu'n barhaus y ffordd rydym yn gweithio er mwyn darparu gwasanaeth gwell, ac i'n helpu i wneud hyn, rydym yn mesur ein perfformiad yn ôl set o dargedau.

Prydlondeb

  • Penderfynu ar 85% o'r holl apeliadau cynllunio a bennir drwy sylwadau ysgrifenedig (rhan 1 a rhan 3 Rheoliadau 2017) o fewn 8 wythnos ar gyfer 2017/18
  • Penderfynu ar 85% o'r holl apeliadau cynllunio a bennir drwy sylwadau ysgrifenedig (rhan 2) o fewn 16 wythnos (mis Ebrill i fis Tachwedd)
  • Penderfynu ar 85% o'r holl apeliadau cynllunio a bennir drwy sylwadau ysgrifenedig (rhan 4) o fewn 15 wythnos (mis Rhagfyr i fis Mawrth)
  • Penderfynu ar 85% o'r holl apeliadau cynllunio a bennir drwy wrandawiadau o fewn 22 wythnos (mis Ebrill i fis Tachwedd)
  • Penderfynu ar 85% o'r holl apeliadau cynllunio a bennir drwy wrandawiadau o fewn 21 wythnos (mis Rhagfyr i fis Mawrth)
  • Penderfynu ar 85% o'r holl apeliadau cynllunio a bennir drwy ymchwiliadau o fewn 30 wythnos (mis Ebrill i fis Tachwedd)
  • Penderfynu ar 85% o'r holl apeliadau cynllunio a bennir drwy ymchwiliadau o fewn 29 wythnos (mis Rhagfyr i fis Mawrth)
  • Penderfynu ar 85% o'r holl apeliadau gorfodi a bennir drwy sylwadau ysgrifenedig o fewn 3 wythnos (mis Ebrill i fis Tachwedd)
  • Penderfynu ar 85% o'r holl apeliadau gorfodi a bennir drwy sylwadau ysgrifenedig o fewn 28 wythnos (mis Rhagfyr i fis Mawrth)
  • Penderfynu ar 85% o'r holl apeliadau gorfodi a bennir drwy wrandawiadau ac ymchwiliadau o fewn 41 wythnos

Ansawdd

  • Mae 99% o benderfyniadau gan arolygwyr yn rhydd o unrhyw gŵyn a gadarnheir neu her gyfreithiol lwyddiannus

Gwybodaeth

Rydym yn cynnal arolygon bodlonrwydd cwsmeriaid ynghylch ein perfformiad. Defnyddir canlyniadau'r arolygon hyn i helpu gwella'r gwasanaeth a ddarparwn.