Neidio i'r prif gynnwy

Mae Penderfyniadau Cynllunio a'r Amgylchedd Cymru'n ymrwymo i gynorthwyo datblygu cynaliadwy trwy ddarparu gwasanaeth agored, teg a diduedd sy’n cwrdd ag anghenion ein holl gwsmeriaid.

Ein haddewidion i chi – byddwn yn:

  • bod yn gymwynasgar ac yn gwrtais ac yn eich trin â chwrteisi a pharch bob amser
  • gwrando ac yn ymateb i’ch pryderon, ymddiheuro a dysgu o’n camgymeriadau, ac yn defnyddio eich adborth i wella ein ffordd o wneud pethau pan fo hynny’n bosibl
  • penderfynu ar bob achos yn effeithlon a chyn gynted â phosibl
  • sicrhau bod arweiniad ar gael i’ch helpu i ddeall y broses a’r amserlen
  • sicrhau bod achosion yn cael eu trin gan bobl sydd â’r lefel gywir o brofiad ac arbenigedd;
  • gwneud penderfyniadau rhesymegol sy’n cwmpasu’r prif faterion i gyd ac sy’n seiliedig ar bolisïau lleol a chenedlaethol cyhoeddedig a bod yr holl dystiolaeth yn cael ei gyflwyno erbyn y terfyniadau amser a osodwyd
  • hyrwyddo ac annog defnyddio’r Gymraeg wrth ddelio â’i swyddogaethau yng Nghymru.

Yn gyfnewid am hyn – rydym yn gofyn i chi:

  • ddarllen y canllawiau rydym yn eu rhyddhau a’n hysbysu os yw rhywbeth yn aneglur
  • darparu’r wybodaeth mewn ffordd gyflawn, gryno a chywir yn unol â'r amserlen neu derfynau amser eraill, gan ddefnyddio ein gwasanaeth ar-lein pan fydd hynny’n bosibl;
  • deall efallai na fyddwch yn cael y canlyniad rydych yn dymuno ei gael
  • trin ein staff â chwrteisi a pharch, a derbyn na fyddwn yn caniatáu ymddygiad anghwrtais neu ddifrïol trwy unrhyw fodd o gyfathrebu
  • ein hysbysu os yw ein gwasanaeth yn ddiffygiol a rhoi cyfle i ni unioni hyn
  • deall na allwn (a) eich cynghori ar sut i ddadlau eich achos, (b) gynnig cyngor cyfreithiol, na  (c) newid penderfyniad ar achos ar ôl ei wneud.