Neidio i'r prif gynnwy

Gwybodaeth ar sut i gael mynediad i wybodaeth a gedwir gennym.

Mae gennych yr hawl i ofyn am wybodaeth a gedwir gennym. Cyn i chi wneud cais, gallwch edrych i weld p'un ai'r ydym wedi cyhoedd eisoes y wybodaeth sydd ei hangen arnoch.

Nid yw'r Arolygiaeth Gynllunio'n awdurdod cyhoeddus yn ei rhinwedd ei hun, felly gallwch chwilio gyda chynlluniau cyhoeddi ein rhiant-adrannau.

Ceisiadau am wybodaeth

Gallwch ofyn am wybodaeth o dan y:

  • Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth
  • Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol
  • Ddeddf Diogelu Data

Gofyn am wybodaeth o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth

Gallwch ofyn am unrhyw wybodaeth sydd wedi’i chofnodi a’i chadw gan awdurdodau cyhoeddus o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth. Os byddwch yn gofyn am wybodaeth sydd gennym amdanoch chi, byddwn yn ymdrin â’ch cais o dan y Ddeddf Diogelu Data. Caiff ceisiadau am wybodaeth amgylcheddol eu hystyried o dan y Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol.

Fel arfer mae’n rhaid i ni ymateb i’ch cais o fewn 20 diwrnod gwaith iddo ddod i law. Os na allwn roi ymateb terfynol o fewn y cyfnod hwnnw, byddwn yn ysgrifennu atoch yn esbonio’r rhesymau dros yr oedi. Byddwn yn rhoi gwybod i chi am hynt a helynt eich cais.

Gwneud cais

Mae’n rhaid cyflwyno ceisiadau am wybodaeth yn ysgrifenedig. Dylech roi enw a chyfeiriad ar gyfer gohebiaeth (gall hyn gynnwys cyfeiriad e-bost) a dylech ddisgrifio’r wybodaeth  y gofynnir amdani’n glir.

Gellir gwneud ceisiadau i'n tîm trwy Cymru@planninginspectorate.gov.uk.

Eithriadau

Mae’r Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth yn caniatáu cadw rhywfaint o wybodaeth yn ôl, er mwyn diogelu buddiannau sawl un. Byddwn yn ymdrin â cheisiadau am wybodaeth yn unol â’n siarter gwybodaeth  a lle bo eithriad yn berthnasol, byddwn yn rhoi gwybod yn ysgrifenedig i chi am ein penderfyniad i wrthod, ynghyd â’r rhesymau dros wrthod a manylion am eich hawl i apelio.

Gallai eithriadau fod yn berthnasol (ond heb fod yn gyfyngedig) i feysydd lle bo’r wybodaeth y gofynnir amdani:

  • ar gael eisoes neu fod bwriad iddi fod ar gael
  • yn cynnwys eich data personol eich hun (caiff ceisiadau eu hystyried o dan y Ddeddf Diogelu Data) neu drydydd partïon eraill
  • yn wybodaeth amgylcheddol (caiff ceisiadau eu hystyried o dan y Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol)
  • ar draul cynnal materion cyhoeddus yn effeithiol

Ystyrir bod rhai eithriadau ‘yn derfynol’ o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth, h.y. nid oes modd rhyddhau’r wybodaeth mewn unrhyw amgylchiadau. Ond yn y rhan fwyaf o achosion, mae angen cynnal prawf ‘budd y cyhoedd’ yn gyntaf, cyn bod modd cadw’r wybodaeth yn ôl. Mae hyn yn golygu, os ystyrir ei bod er budd y cyhoedd, y caiff y wybodaeth ei rhyddhau.

Mae rhagor o wybodaeth am y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth, gan gynnwys rhagor o wybodaeth am sut i wneud ceisiadau ar Gwefan Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth (dolen allanol).

Gwneud Cais am wybodaeth o dan y Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol

Gallwch wneud cais am wybodaeth am yr amgylchedd o dan y Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol. Mae diffiniad ‘gwybodaeth amgylcheddol, a roddir yn y Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol, yn cynnwys gwybodaeth yn ymwneud â chyflwr elfennau’r amgylchedd (fel aer, dŵr, tir a safleoedd naturiol) a ffactorau a mesurau sy’n effeithio ar yr elfennau hyn neu sy’n debygol o wneud hynny.

Mae gwybodaeth rydym yn ei chadw sy’n ymwneud â phenderfyniadau cynllunio defnydd tir yn debygol o ddod o dan y Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol.

 Fel arfer, mae’n rhaid i ni ymateb i’ch cais o fewn 20 diwrnod gwaith iddo ddod i law. Os na allwn roi ymateb terfynol o fewn y cyfnod hwnnw, oherwydd bod y cais yn gymhleth ac yn swmpus, gallwn ymestyn y terfyn amser ar gyfer ymatebion hyd at 40 diwrnod gwaith o dderbyn y cais. Byddwn yn rhoi gwybod i chi am hynt a helynt eich cais.

Gwneud cais 

Gallwch gyflwyno cais o dan y Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol yn ysgrifenedig (gan gynnwys ar ffurf neges e-bost) neu dros y ffôn. Dylech ddisgrifio’r wybodaeth y gofynnir amdani a rhoi cyfeiriad ar gyfer gohebiaeth. Gallwch gyflwyno ceisiadau i’n Tîm Gwasanaethau Cwsmeriaid

Eithriadau 

Mae’r Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol yn caniatáu cadw rhywfaint o wybodaeth yn ôl er mwyn diogelu buddiannau sawl un. Lle bo hyn yn berthnasol, byddwn yn rhoi gwybod i chi yn ysgrifenedig am ein penderfyniad i wrthod, ynghyd â’r rhesymau dros wrthod a manylion am yr hawl i apelio.

Mae mathau o wybodaeth lle y gallai eithriadau fod yn berthnasol, ond nad ydynt yn gyfyngedig iddynt, yn cynnwys y canlynol:  

  • deunydd sydd wrthi’n cael ei gwblhau neu ddogfennau heb eu gorffen
  • cyfathrebu mewnol
  • data personol amdanoch chi eich hun a thrydydd partïon eraill
  • lle y byddai datgelu’n effeithio’n negyddol ar gwrs cyfiawnder

Yn achos pob eithriad,  mae angen cynnal prawf ‘budd y cyhoedd’ yn gyntaf, cyn bod modd cadw’r wybodaeth yn ôl. Mae hyn yn golygu, os ystyrir ei bod er budd y cyhoedd, y caiff y wybodaeth ei rhyddhau.

Mae rhagor o wybodaeth am y Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol ar gael o wefan  Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth

 

Gwneud Cais am wybodaeth o dan y Ddeddf Diogelu Data

O dan y Ddeddf Diogelu Data, mae gennych yr hawl i ganfod p’un a ydym yn cadw unrhyw ddata personol amdanoch chi, ac os felly, beth ydyw.

Gwneud cais

Dylech anfon ceisiadau am wybodaeth am eich data personol (sydd hefyd yn cael eu galw’n geisiadau mynediad testunol) at ein Tîm Gwasanaethau Cwsmeriaid. Dylech ddatgan eich enw, eich cyfeiriad a disgrifio’n glir pa wybodaeth sydd ei heisiau arnoch.

Cyn dilysu eich cais, mae’n bosibl y byddwn yn gofyn am ffi (£10 fel arfer), y bydd angen prawf pellach o bwy ydych neu’n gofyn am ragor o wybodaeth gennych er mwyn adnabod y wybodaeth y gofynnir amdani. Os felly, byddwn yn gofyn am hyn mewn da bryd. O’i ddilysu, mae’n rhaid i ni ymateb o fewn 40 diwrnod gwaith.

Os ydych yn gwneud cais am ddata distrwythur, mae’n bosibl y byddwn yn gwrthod y cais lle byddwn yn amcangyfrif bod y gost o fodloni eich cais yn fwy na £600.

Hawliau diogelu data eraill

Mewn rhai amgylchiadau, mae gennych yr hawl i atal prosesu eich manylion personol ymhellach, neu i orchymyn unioni, rhwystro neu ddileu data personol anghywir. Gallwch wneud cais am iawndal hefyd am niwed a gofid a achosir gan dorri telerau’r Ddeddf.

Mae rhagor o wybodaeth am y Ddeddf Diogelu Data ar gael ar wefan Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth.

Siarter Gwybodaeth

Gweler hefyd ein Siarter Gwybodaeth am ragor o fanylion am sut rydym yn ymdrin â gwybodaeth bersonol a gwybodaeth arall ac yn ei darparu.

Ffioedd

Mae’r rhan fwyaf o geisiadau am wybodaeth o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth neu’r Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol yn debygol o fod am ddim. Fodd bynnag, gallai fod amgylchiadau lle byddwn yn gofyn am ffi. Mae’r polisi hwn yn esbonio sut caiff unrhyw ffi ei chyfrifo a sut caiff ei chyfleu i chi.

Caiff ffïoedd eu pennu yn unol â Rheoliadau Rhyddid Gwybodaeth a Diogelu Data (Terfyn Priodol a Ffïoedd) 2004,  Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol, a’r arweiniad perthnasol a roddir gan  Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth, y  Gweinidog Cyfiawnder  a Defra.

Ceisiadau o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth

Ni fyddwn yn codi tâl arnoch am gydymffurfio â cheisiadau lle yr amcangyfrifir bod costau, y gallwn eu hystyried, yn llai na £600 (y terfyn priodol).

Lle yr amcangyfrifwn fod cost cydymffurfio â chais yn fwy na’r terfyn priodol, nid oes gennym unrhyw rwymedigaeth i fodloni eich cais. O wrthod eich cais ar sail hyn, a lle bo’n bosibl, byddwn yn rhoi cyngor a chymorth i’ch helpu i leihau cwmpas eich cais. Lle ein bod yn dewis bodloni ceisiadau sy’n uwch na’r terfyn priodol, gall y ffi y gofynnir amdani adlewyrchu cyfanswm y costau yr aethpwyd iddynt wrth ymdrin â’ch cais.

Ym mhob achos, mae’n bosibl y byddwn yn codi tâl am atgynhyrchu a rhannu gwybodaeth gyda chi, er enghraifft, costau postio a llungopïo.

Er y byddwn yn ystyried unrhyw fformat o’ch dewis ar gyfer y wybodaeth y gofynnir amdani, mae’n bosibl y byddwn yn sicrhau ei bod ar gael mewn fformat arall lle bydd yn rhesymol gwneud hynny. Mae taliadau nodweddiadol wedi’u hamlinellu yn yr amserlen taliadau isod.

Ceisiadau o dan y Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol

Mae’n bosibl y byddwn yn codi tâl arnoch am y costau rhesymol yr aethpwyd iddynt wrth fodloni eich cais. Nid oes unrhyw reoliadau ar ffïoedd, ond er mwyn cysondeb, ein nod yw dilyn agwedd debyg i’r un sy’n cael ei defnyddio ar gyfer ceisiadau sy’n cael eu gwneud o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth.

Ni chaiff unrhyw dâl ei godi i weld dogfennau ar ein gwefan, nac i edrych ar wybodaeth amgylcheddol y mae’n ofynnol i ni sicrhau ei bod ar gael.

Mae’n bosibl y byddwn yn gwrthod ceisiadau ‘afresymol amlwg’ sy’n rhoi baich sylweddol ac afresymol ar ein hadnoddau. O wrthod eich cais ar sail hyn, a lle bo’n bosibl, byddwn yn rhoi cyngor a chymorth er mwyn helpu i leihau cwmpas eich cais.

Cynigion Seilwaith Cenedlaethol

Mae rhestr o geisiadau a gwybodaeth a dogfennau sy’n berthnasol i brosiectau unigol ar gael i’w gweld yn rhad ac am ddim ar y gofrestr statudol  sydd ar gael ar ein gwefan.

Am ffi, gall y datblygwr roi copïau i chi o rai o ddogfennau’r cais neu bob un ohonynt gan gynnwys datganiadau amgylcheddol,. Y dull mwyaf priodol, ac rydym yn disgwyl defnyddio’r dull cyflymaf o gael copïau o ddogfennau’r cais, fydd gofyn i’r datblygwr amdanynt.

Rhoi gwybod am ffïoedd

Lle bo angen ffi arnom, byddwn yn anfon ‘hysbysiad ffïoedd’ atoch yn rhoi gwybod i chi am faint sydd angen i chi ei dalu cyn y gallwn roi’r wybodaeth sydd ei heisiau arnoch. Pan fyddwch yn talu’r ffi, byddwn yn rhoi’r wybodaeth, yn amodol ar unrhyw eithriadau/amodau perthnasol.

Bydd saib i’r terfyn amser statudol ar gyfer ymdrin â chais wedi i hysbysiad ffïoedd gael ei roi a bydd yn dechrau eto wedi i’r ffi ddod i law.

Os byddwch yn anfodlon ar y ffordd y cafodd unrhyw ffi ei chyfrifo, neu’n anfodlon ar benderfyniad i wrthod eich cais, gallwch ofyn am adolygiad mewn perthynas â’r ffordd yr ymdriniwyd â’ch cais.

Atodlen Codi Tâl

Mae taliadau nodweddiadol ar gyfer rhoi gwybodaeth fel a ganlyn:

  • Llungopïo A4 – 10c am bob tudalen o lungopïo du a gwyn. 
  • Llungopïo A3 – 20c am bob tudalen o lungopïo du a gwyn.
  • Postio\pacio\gwasanaeth cludo – am gost.
  • Caiff tâl am amser staff (lle bo’n berthnasol) ei godi ar gyfradd o £25 yr awr

Sylwer nad oes gennym y cyfleusterau i wneud llungopïo swmpus iawn a gallai fod angen i ni ddefnyddio asiantaeth allanol i wneud hynny. Lle mai felly yw hi, bydd unrhyw dâl yn adlewyrchu’r gost i ni.