David Holt

Mae David Holt yn Gyfarwyddwr Anweithredol gyda'r Arolygiaeth Gynllunio.

Penodwyd David Holt yn Gyfarwyddwr Anweithredol ym mis Ionawr 2016. Mae David yn gyfrifydd rheoli siartredig gyda phrofiad helaeth fel cyfarwyddwr cyllid ar lefel bwrdd mewn ystod eang o sectorau yn y DU a thramor, gan gynnwys cyfnodau gydag Unilever a Coats Plc. Yn fwyaf diweddar, bu’n Gyfarwyddwr Cyllid gyda Land Securities Plc, gan adael yn 2014.

Ar hyn o bryd mae’n dal nifer o swyddi anweithredol gyda sefydliadau gwahanol, gan gynnwys Corfforaeth Datblygu Ebbsfleet, lle mae’n Ddirprwy Gadeirydd ac yn gadeirydd y pwyllgor archwilio, ac Ymddiriedolaeth Sefydledig GIG Tavistock a Portman, lle mae’n uwch gyfarwyddwr annibynnol a hefyd yn cadeirio’r pwyllgor archwilio.