Neidio i'r prif gynnwy

Yng Nghymru, rydym yn ymdrin ag apeliadau cynllunio, datblygiadau o arwyddocâd cenedlaethol, archwilio cynlluniau lleol a gwaith achos arall yn ymwneud â chynllunio a gwaith achos arbenigol a ran Gweinidogion Cymru.

Mae Penderfyniadau Cynllunio a'r Amgylchedd Cymru (PEDW) yn rheoli gwaith achos sy'n ymwneud â datblygu a defnyddio tir er budd y cyhoedd.

Rydym yn delio â: 

  • apeliadau cynllunio a gorfodi
  • ceisiadau am Ddatblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol (DNS)
  • Cynlluniau Datblygu Strategol a Lleol (CDSau a CDLlau)
  • prosiectau seilwaith mawr
  • apeliadau amgylcheddol
  • gorchmynion prynu gorfodol
  • systemau draenio cynaliadwy
  • tir comin
  • hawliau tramwy
  • gwasanaethau stopio ac adfer
  • cyngor a hyfforddiant

Mae gennym dîm o 20 o Arolygwyr a 25 o staff cymorth. 

Mae arolygwyr yn cymryd cyfrifoldeb unigol absoliwt am eu penderfyniadau.

Ni ddylid cysylltu ag arolygwyr yn uniongyrchol. Ar faterion gwaith achos, byddwch yn cael enw'r swyddog achos. I eraill, cysylltwch â'n e-bost/llinell ymholiadau cyffredinol.