Neidio i'r prif gynnwy

Defnyddiwch y ffurflen hon i ychwanegu defnyddwyr eraill at gyfrif ar-lein eich sefydliad.

Darllen manylion ar y ddalen hon

Cyhoeddwyd gyntaf:
20 Chwefror 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Dogfennau

Yhwanegu defnyddwyr eraill , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 200 KB

PDF
200 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Manylion

Ychwanegu defnyddwyr eraill at gyfrif ar-lein 

Dylai gweinyddwr y cyfrif ar-lein ddefnyddio’r ffurflen hon er mwyn:

  • ychwanegu defnyddwyr eraill at gyfrif ar-lein eich sefydliad neu enwebu gweinyddwyr eraill er mwyn iddyn nhw gymeradwyo defnyddwyr eraill hefyd.  
  • tynnu defnyddwyr a gweinyddwyr (er enghraifft os bydd rhywun yn gadael eich sefydliad).

Mae angen i’r defnyddwyr eraill greu eu cyfrif ar-lein eu hunain i gael mynediad i ddangosfwrdd eich sefydliad gan ddefnyddio rhif cofrestru eich sefydliad, sydd wedi’i gynnwys yn y llythyr at weinyddwr y cyfrif ar-lein.

Ewch i: Ychwanegu defnyddwyr eraill

Am resymau diogelwch, dylech gadw’r ffurflen hon a’i hanfon at cymorthdefnyddwyr@acc.llyw.cymru o gyfrif e-bost un o weinyddwyr y sefydliad. 

Bydd angen i chi gynnwys:

  • eich enw
  • enw eich sefydliad
  • rhif cofrestru eich sefydliad

Sut rydym yn defnyddio eich gwybodaeth

Gweler ein polisi preifatrwydd ynglŷn â sut rydym yn defnyddio'r wybodaeth y byddwch yn ei rhoi i ni.

Drwy ddarparu eich cyfeiriad e-bost rydych chi’n cydsynio i’r Awdurdod ohebu â chi drwy e-bost.

Gweler cysylltu ag ACC drwy e-bost.