Neidio i'r prif gynnwy

Canllawiau ar ryddhad Treth Trafodiadau Tir cyllid eiddo arall.

Cyhoeddwyd gyntaf:
5 Ebrill 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Rhowch adborth i ni ar y canllawiau hyn

Er mwyn ein helpu i wella'r canllawiau hyn, rhowch adborth i ni (mae’n cymryd 30 eiliad).

DTTT/7017 Rhyddhadau cyllid eiddo arall

(Atodlen 10)

Lle mae trefniadau cyllid eiddo eraill wedi’u defnyddio i ariannu pryniant, mae rhyddhadau ar gael i osgoi trethu’r trafodiad yn fwy nag a fyddai wedi digwydd wrth ddefnyddio cynnyrch morgais arferol sy’n dwyn llog.

Mae rhyddhad ar gael ar gyfer trafodiadau penodol lle mae un o dair set wahanol o drefniadau cyllid eiddo eraill ar waith:

  • lle mae sefydliad ariannol yn prynu eiddo, yn ei lesio neu is-lesio wedyn i berson ac yn cytuno y bydd ar ddiwedd y cyfnod hwnnw’n trosglwyddo’r eiddo i’r person hwnnw;
  • lle mae sefydliad ariannol neu berson yn prynu eiddo fel tenantiaid ar y cyd llesiannol; neu
  • lle mae sefydliad ariannol yn prynu eiddo ac yn ei ailwerthu i berson, a’r person yn cael benthyg rhan neu’r cyfan o’r pris prynu gan y sefydliad ariannol ac yn rhoi morgais i’r sefydliad ariannol ar yr eiddo hwnnw

DTTT/7018 Rhyddhad cyllid eiddo arall sy’n ymwneud â les neu is-les

(Paragraff 2 Atodlen 10)

Mae rhyddhad ar gael lle mae trefniadau wedi’u gwneud rhwng sefydliad ariannol a pherson lle mae:

  • sefydliad ariannol yn prynu neu’n lesio eiddo, boed hwnnw’n brif fuddiant neu’n gyfran anrhanedig o brif fuddiant;
  • os mai cyfran anrhanedig yw’r buddiant y mae’r sefydliad ariannol wedi’i gaffael, rhaid i’r prif fuddiant gael ei ddal gan y sefydliad ariannol a’r person fel tenantiaid ar y cyd llesiannol;
  • yr eiddo’n cael ei roi ar les neu ar is-les i’r person; a
  • lle mae trefniadau wedi’u gwneud i’r holl fuddiant a brynwyd gan y sefydliad ariannol yn yr eiddo gael ei drosglwyddo i’r person ar ddiwedd cyfnod y trefniadau cyllid eraill

O dan y trefniant, gellir cael darpariaeth hefyd i gyfrannau yn yr eiddo gael eu trosglwyddo i’r person fesul cam yn ystod y cyfnod.

Os yw amodau penodol wedi’u bodloni, mae lesio, trosglwyddo’r eiddo ac unrhyw drosglwyddo fesul cam ar gyfrannau anrhanedig yn yr eiddo yn cael eu rhyddhau rhag treth. Drwy ddarparu’r rhyddhadau hyn, bydd yr un swm o dreth yn daladwy ag a fyddai’n daladwy pe byddai cynnyrch morgais arferol sy’n dwyn llog wedi cael ei ddefnyddio i ariannu’r pryniant.

Fel arfer, bydd y pryniant cychwynnol o’r eiddo (sy’n cael ei alw’n ‘drafodiad cyntaf’ yn y ddeddfwriaeth) yn drethadwy (fel y byddai mewn achos lle mae person yn prynu eiddo â chynnyrch morgais arferol sy’n dwyn llog). Fodd bynnag, os mai’r gwerthwr yw’r person neu sefydliad ariannol a oedd eisoes yn dal yr eiddo o dan drefniadau o’r math uchod a wnaed â’r person, bydd y pryniant cychwynnol yn cael ei ryddhau rhag treth hefyd. Mae’r rhyddhad hwn yn cael ei ddarparu fel na fydd treth i’w thalu fel y byddai wrth ddefnyddio cynnyrch ailforgeisio arferol sy’n dwyn llog.

Bydd y trefniadau cyllid eiddo eraill yn ei gwneud yn ofynnol bod les yn cael ei rhoi i’r person o’r buddiant y mae’r sefydliad ariannol yn berchen arno. Mae’r trafodiad hwn yn ffurfioli meddiant ar yr eiddo gan y person. Mae hefyd yn creu’r ffrwd incwm i’r sefydliad ariannol (ar ffurf rhenti) ac i’r person i wneud taliadau cyfalaf i’r sefydliad ariannol er mwyn lleihau swm y cyllid y mae’r sefydliad ariannol yn ei ddarparu (os yw gostyngiad yn y modd hwn yn rhan o’r trefniadau). Mae’r trafodiad hwn lle mae’r person yn caffael les gan y sefydliad ariannol yn cael ei alw’n ‘ail drafodiad’ yn y ddeddfwriaeth.

Ar ddiwedd neu yn ystod y cyfnod y mae’r trefniadau mewn grym, gellir trosglwyddo’r buddiant y mae’r sefydliad ariannol yn berchen arno o’r sefydliad ariannol i’r person. Mae’r trafodiad hwn, neu gyfres o drafodiadau, yn cael ei ryddhau rhag TTT. ‘Trafodiad pellach’ yw’r enw ar y trafodiadau hyn yn y ddeddfwriaeth.

Dim ond os cydymffurfiwyd â darpariaethau DTTT a DCRhT mewn perthynas â’r trafodiad cyntaf y gellir hawlio rhyddhad ar gyfer yr ail drafodiad. Yn yr un modd, dim ond os cydymffurfiwyd â darpariaethau DTTT a DCRhT mewn perthynas â’r trafodiad cyntaf a’r ail drafodiad y gellir hawlio rhyddhad ar gyfer trafodiad pellach.

Nid yw trafodiadau pellach i gael eu trin fel rhai:

  • sydd wedi’u cyflawni’n sylweddol oni bai fod y trafodiad terfynol wedi’i wneud, a nes ei fod wedi’i wneud (fel bod y rheolau ynghylch cyflawni’n sylweddol yn cael eu datgymhwyso); neu
  • sydd yn rhoi opsiwn o dan y rheolau ynghylch opsiynau a hawliau rhagbrynu yn adran 15 o DTTT

Mae hyn yn sicrhau, os ceir nifer o drafodiadau pellach, na fydd angen hysbysu ACC am bob un ohonynt, ond mae’n bosibl y bydd angen ei hysbysu am y trafodiad terfynol sy’n trosglwyddo’r buddiant (neu weddill y buddiant) sy’n cael ei ddal gan y sefydliad ariannol i’r person.

Enghraifft 1

Mae Mr a Mrs A yn dymuno prynu eu cartref newydd ac ariannu’r pryniant drwy drefniant cyllid eiddo arall. Mae ganddynt £50,000 yn barod i dalu blaendal ac maent wedi penderfynu ar dŷ y maent am ei brynu am £200,000. Mae eu trefniadau ariannu wedi cael eu cymeradwyo’n barod gan sefydliad ariannol (‘SA’) sy’n darparu cyllid eiddo arall. Mae Mr a Mrs A yn rhoi gwybod i SA am yr eiddo y maent am ei brynu. Mae SA a Mr a Mrs A yn denantiaid ar y cyd.

Gan fod yr eiddo i’w gaffael gan berson heblaw Mr a Mrs A, nid oes rhyddhad ar gyfer y trafodiad cyntaf.

O dan delerau’r trefniant, mae’n ofynnol i SA roi les i Mr a Mrs A sy’n darparu mai nhw a neb arall fydd yn cael mwynhau’r eiddo. Mae rhyddhad ar gael ar gyfer yr ail drafodiad hwn.

Mae’r les yn darparu y bydd Mr a Mrs A yn talu rhent yn fisol. Mae’r rhent hwnnw’n cynnwys swm sy’n darparu elfen o elw i SA a hefyd yn lleihau buddiant SA yn yr eiddo. Felly bob mis ceir trafodiad pellach sy’n adlewyrchu’r ffaith bod rhan fach o fuddiant SA yn cael ei throsglwyddo i Mr a Mrs A. Ni fydd angen rhoi hysbysiad am y trafodiadau hyn nes cyrraedd y trosglwyddiad olaf a fydd yn drafodiad hysbysadwy. Mae’r trafodiad pellach terfynol hwnnw’n hysbysadwy a bydd yn adlewyrchu’r ffaith nad oes gan SA fuddiant yn yr eiddo bellach.

Enghraifft 2

Mae Mrs B yn berchen ar ei chartref ac nid yw wedi sicrhau unrhyw ddyled arno. Mae’n dymuno rhyddhau £100,000 o’r ecwiti yn y cartref ac mae am wneud hyn drwy drefniant cyllid eiddo arall. Mae’r cartref yn werth £300,000. Mae Mrs B yn gwneud trefniadau â SA sy’n darparu cyllid eiddo arall.

Mae Mrs B yn trosglwyddo buddiant yn yr eiddo sy’n werth £100,000 i SA. Nawr mae SA a Mrs B yn denantiaid ar y cyd. Gan fod SA yn caffael gan ‘y person’ (Mrs B), mae rhyddhad ar gael i SA ar y trafodiad cyntaf hwnnw.

O dan delerau’r trefniant, mae’n ofynnol i SA roi les i Mrs B sy’n darparu mai hi yn unig sy’n cael mwynhau’r eiddo. Mae rhyddhad ar gael ar yr ail drafodiad hwn.

Mae’r les yn darparu y bydd Mrs B yn talu rhent yn fisol. Mae’r rhent hwnnw’n cynnwys swm sy’n darparu elfen o elw i SA a hefyd yn lleihau buddiant SA yn yr eiddo. Felly bob mis ceir trafodiad pellach sy’n adlewyrchu’r ffaith bod rhan fach o fuddiant SA yn cael ei throsglwyddo i Mrs B. Ni fydd angen rhoi hysbysiad am y trafodiadau hyn nes cyrraedd y trosglwyddiad olaf a fydd yn drafodiad hysbysadwy. Mae’r trafodiad pellach terfynol hwnnw’n hysbysadwy a bydd yn adlewyrchu’r ffaith nad oes gan SA fuddiant yn yr eiddo bellach.

DTTT/7019 Rhyddhad cyllid eiddo arall lle mae tir yn cael ei werthu i sefydliad ariannol a’i ailwerthu i berson

Mae rhyddhad ar gael lle mae sefydliad ariannol yn prynu eiddo ac yn ei werthu i berson, a’r person hwnnw’n rhoi morgais cyfreithiol ar yr eiddo o blaid y sefydliad ariannol.

Mae dau drafodiad tir yn digwydd o dan y trefniadau hyn; cydeffaith y rhyddhadau yw bod y swm o TTT sydd i’w godi am y caffaeliad drwy’r trefniadau hyn yn dod i’r un swm a fyddai’n daladwy ar bryniant sydd wedi’i ariannu â chynnyrch morgais arferol sy’n dwyn llog.

Er mwyn hawlio’r rhyddhad hwn, rhaid gwneud trefniadau rhwng y person a’r sefydliad ariannol fel a ganlyn:

  • mae’r sefydliad ariannol yn prynu prif fuddiant mewn tir neu gyfran anrhanedig mewn prif fuddiant;
  • mae’r sefydliad yn gwerthu’r buddiant hwnnw i’r person, hynny yw, mae’r sefydliad yn gwerthu’r cyfan o’r prif fuddiant neu gyfran anrhanedig yr oedd wedi’i gaffael i’r person;
  • mae’r person yn rhoi morgais ar y buddiant hwnnw i’r sefydliad ariannol.
  • Fel arfer bydd TTT yn cael ei chodi ar y trafodiad cyntaf (prynu prif fuddiant mewn tir gan y sefydliad ariannol) ond gall y sefydliad ariannol hawlio rhyddhad os mai’r gwerthwr yw:
  • y person sy’n gwneud y trefniadau; neu
  • sefydliad ariannol arall a oedd wedi caffael y buddiant o dan drefniadau a ddisgrifiwyd uchod a bod y trefniadau wedi’u gwneud rhyngddo a’r person

Gellir hawlio rhyddhad rhag TTT ar ôl gwerthu’r eiddo gan y sefydliad ariannol i’r person, os cydymffurfiwyd â’r holl ofynion sy’n ymwneud â’r trafodiad cyntaf. Mae hyn yn cynnwys talu unrhyw TTT sy’n ddyledus ar y trafodiad cyntaf. Y rheswm am hyn yw y bydd y person sy’n cael y cyllid gan y sefydliad ariannol wedi talu TTT eisoes mewn gwirionedd wrth brynu’r eiddo un ai cyn y trosglwyddiad i’r sefydliad ariannol neu pan brynodd y sefydliad yr eiddo gan werthwr trydydd parti.

Pan fydd rheolau disodli prif breswylfa wedi’u bodloni yn dilyn trafodiad sy'n ddarostyngedig i gyfraddau uwch, y sefydliad ariannol sy'n gorfod gwneud yr hawliad am ad-dalu cyfran cyfraddau uwch y trafodiad trwy ddiwygio'r ffurflen dreth yn unol â hynny, yn hytrach na'r person sy'n cael y cyllid gan y sefydliad ariannol. Mae hyn am mai'r sefydliad ariannol a ffeiliodd y ffurflen dreth, yn hytrach na'r unigolyn, ac mai’r sefydliad ariannol a dalodd y dreth ddatganoledig a gall felly wneud cais am ad-daliad. Gweler ein canllaw yn DTTT/8090 ar y rheolau ar ddisodli prif breswylfeydd.

Enghraifft 1

Mae Mr A yn dymuno prynu ei gartref newydd ac mae am ariannu’r pryniant drwy drefniant cyllid eiddo arall. Mae ganddo £30,000 yn barod i dalu blaendal ac mae wedi penderfynu ar dŷ y mae am ei brynu am £250,000. Mae ei drefniadau ariannu wedi cael eu cymeradwyo eisoes gan SA sy’n darparu cyllid eiddo arall ac mae wedi hysbysu’r SA am yr eiddo y mae’n dymuno ei brynu.

O dan y trefniadau sydd wedi’u gwneud, bydd yr eiddo’n cael ei gaffael am £250,000 gan y gwerthwr trydydd parti. Mae’r pryniant yn cael ei ariannu drwy ddefnyddio blaendal o £30,000 gan Mr A a chyllid o £220,000 gan SA.

Gan fod yr eiddo i gael ei gaffael gan berson heblaw Mr A, ni fydd rhyddhad ar y trafodiad cyntaf.

DTTT/7020 Sefyllfaoedd lle na ellir hawlio rhyddhad

(Paragraffau 5 a 6 atodlen 10)

Ni ellir hawlio rhyddhad lle mae’r canlynol yn gymwys neu lle gallant fod yn gymwys:

  • ni all rhyddhad grŵp, rhyddhad atgyfansoddi na rhyddhad caffael fod ar gael ar gyfer y trafodiad cyntaf (hyd yn oed os yw’r rhyddhad wedi’i dynnu’n ôl);
  • ni all y trefniadau cyllid eiddo eraill gynnwys trefniadau neu unrhyw drefniadau cysylltiedig i rywun gaffael rheolaeth ar y sefydliad ariannol hyd yn oed os yw’r trefniadau’n amodol;
  • ni chydymffurfiwyd â’r holl ofynion sy’n ymwneud â’r trafodiad cyntaf a’r ail drafodiad, yn cynnwys talu unrhyw TTT sy’n ddyledus ar y trafodiad cyntaf;
  • ar unrhyw adeg ar ôl rhoi’r les (neu is-les) (yr ail drafodiad) a’r trafodiadau pellach, nid oedd y sefydliad ariannol yn dal y buddiant a gaffaelwyd gan y trafodiad cyntaf ac nid oedd y person yn dal y les (neu is-les) a roddwyd gan y sefydliad ariannol yn yr ail drafodiad

DTTT/7021 Buddiant sy’n cael ei ddal gan sefydliad ariannol i’w drin fel buddiant esempt

(paragraff 7 Atodlen 10)

Mae buddiant sy’n cael ei ddal gan sefydliad ariannol o ganlyniad i’r ‘trafodiad cyntaf’ (caffael prif fuddiant mewn tir neu gyfran anrhanedig mewn prif fuddiant gan y sefydliad ariannol) yn fuddiant esempt. Felly ni fydd TTT yn cael ei chodi ar unrhyw drafodiad sy’n trosglwyddo’r buddiant hwnnw ac nid oes rhaid hysbysu ACC am drafodiad o’r fath. Mae hyn yn caniatáu i fuddiant a ddelir gan y sefydliad ariannol gael ei drosglwyddo i sefydliad ariannol arall lle mae’r un trefniadau cyllid eiddo eraill wedi’u gwneud, gan ddarparu trefniant treth i ddefnyddwyr a darparwyr trefniadau o’r fath sy’n debyg i’r rheini a geir pan fydd person yn symud o un cynnyrch morgais sy’n dwyn llog i un arall gyda benthyciwr gwahanol.

Fodd bynnag, nid yw’r rheol hon yn peri bod y trafodiad cyntaf ei hun nac unrhyw drafodiadau pellach yn drafodiad tir sy’n ymwneud â buddiant esempt. Bydd rhyddhad ar gael ar gyfer y trafodiadau hyn, ond bydd yn ofynnol o hyd fod ACC yn cael ei hysbysu am y trafodiadau.

Bydd y buddiant yn peidio â bod yn fuddiant esempt:

  • os bydd y les neu is-les (yr ail drafodiad) yn peidio â chael effaith, er enghraifft wrth gyrraedd y pwynt terfynu neu os yw’r les yn cael ei therfynu’n gynnar; neu
  • os bydd y trafodiad pellach (hawl person i’w gwneud yn ofynnol i’r sefydliad drosglwyddo’r prif fuddiant a brynodd y sefydliad o dan y trafodiad cyntaf) yn peidio â chael effaith neu’n cael ei gyfyngu

DTTT/7022 Diffinio

(Paragraffau 3(1)(b), 6(3), 8 a 9 Atodlen 10)

At ddibenion y rhyddhadau hyn:

  • mae i ‘sefydliad ariannol’ (‘financial institution’) yr ystyr a roddir iddo yn adran 564B o Ddeddf Treth Incwm 2007, ond nid yw’n cynnwys person a gafodd ganiatâd i wneud cytundebau credyd a chontractau ar gyfer llogi nwyddau (adran 564B(1)(d) o Ddeddf Treth Incwm 2007);
  • mae ‘trefniadau’ yn cynnwys unrhyw gytundeb, dealltwriaeth, cynllun, trafodiad neu gyfres o’r pethau hynny pa un a ellir ei orfodi’n gyfreithiol neu beidio; 
  • mae i ‘morgais cyfreithiol’ (‘legal mortgage’) yr ystyr a roddir iddo yn adran 205(1)(xvi) o Ddeddf Cyfraith Eiddo 1925;
  • lle mae’r person dan sylw wedi marw, mae cyfeiriadau at berson i’w darllen fel cyfeiriadau at gynrychiolwyr personol y person;
  • ystyr ‘trefniadau cysylltiedig’ yw unrhyw drefniadau sydd wedi’u gwneud mewn cysylltiad â gwneud y trefniadau cyllid eraill (yn cynnwys trefniadau sy’n ymwneud ag un neu ragor o bersonau sy’n bartïon i’r trefniadau cyllid eraill);
  • mae Adran 1124 o Ddeddf Treth Gorfforaeth 2010 (c. 4) yn gymwys ar gyfer pennu pwy sy’n rheoli’r sefydliad ariannol perthnasol