Neidio i'r prif gynnwy

Canllawiau ar ryddhad Treth Trafodiadau Tir ar gyfer ymgorffori partneriaethau atebolrwydd cyfyngedig.

Cyhoeddwyd gyntaf:
16 Mawrth 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Rhowch adborth i ni ar y canllawiau hyn

Er mwyn ein helpu i wella'r canllawiau hyn, rhowch adborth i ni (mae’n cymryd 30 eiliad).

DTTT/7034 Rhyddhad ar gyfer ymgorffori partneriaeth atebolrwydd cyfyngedig

(Atodlen 12)

Lle mae’r tri amod canlynol wedi’u bodloni, gellir hawlio rhyddhad rhag TTT ar drafodiad tir sy’n trosglwyddo buddiant trethadwy o berson (y trosglwyddwr) i bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig mewn cysylltiad â’i hymgorffori.

Ystyr ‘partneriaeth atebolrwydd cyfyngedig’ yw un a ffurfiwyd o dan Ddeddf Partneriaethau Atebolrwydd Cyfyngedig 2000. Mae’n bwysig nodi bod y darpariaethau trosiannol sydd yn Atodlen 2 i Reoliadau Partneriaethau Atebolrwydd Cyfyngedig (Cymhwyso Deddf Cwmnïau 2006) 2009 yn sicrhau bod partneriaeth atebolrwydd cyfyngedig a ymgorfforwyd o dan Ddeddf Partneriaethau Atebolrwydd Cyfyngedig (Gogledd Iwerddon) 2002 i gael ei thrin fel pe byddai wedi’i hymgorffori o dan Ddeddf Partneriaethau Atebolrwydd Cyfyngedig 2000.

Y tri amod yw:

  • amod A – nad yw’r dyddiad y mae’r trafodiad yn cael effaith fwy na blwyddyn ar ôl dyddiad ymgorffori’r bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig.
  • amod B – bod y gwerthwr, ar yr adeg berthnasol:
    • yn bartner mewn partneriaeth sy’n cynnwys yr holl bersonau sy’n aelodau o’r bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig, neu a fydd yn aelodau ohoni (a neb arall); neu
    • yn dal y buddiant trethadwy fel enwebai neu ymddiriedolwr noeth i un partner neu ragor mewn partneriaeth o’r fath
  • amod C – bod cyfrannau’r buddiannau sy’n cael eu dal gan y partneriaid:
    • yr un fath cyn ac ar ôl y trafodiad, neu
    • lle maent yn wahanol, nad yw’r gwahaniaethau wedi codi fel rhan o drefniadau y mae osgoi atebolrwydd i dreth yn brif ddiben iddynt, neu’n un o’u prif ddibenion

At ddibenion y rhyddhad hwn, ystyr ‘adeg berthnasol’ yw:

  • os oedd y trosglwyddwr wedi caffael y buddiant trethadwy ar ôl ymgorffori’r bartneriaeth, yr adeg yn union ar ôl caffael y buddiant trethadwy hwnnw ganddo, neu 
  • fel arall, yn union cyn ymgorffori’r bartneriaeth