Neidio i'r prif gynnwy

Canllawiau ar ryddhad Treth Trafodiadau Tir (atodlen 13) ar gyfer caffaeliadau sy’n ymwneud ag anheddau lluosog.

Cyhoeddwyd gyntaf:
1 Mehefin 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Rhowch adborth i ni ar y canllawiau hyn

Er mwyn ein helpu i wella'r canllawiau hyn rhowch adborth i ni (mae’n cymryd 30 eiliad).

DTTT/7035 Rhyddhad ar gyfer caffaeliadau sy’n ymwneud ag anheddau lluosog

Mae'r rhyddhad hwn ar gael pan mae trethdalwr yn prynu nifer o anheddau yng Nghymru gan yr un gwerthwr naill ai ar ffurf un trafodiad sydd â’r un dyddiad dod i rym neu fel nifer o drafodiadau cysylltiol (mae trafodiadau’n gysylltiol pan fyddant yn ffurfio rhan o un cynllun, trefniant neu gyfres o drafodiadau rhwng yr un prynwr a gwerthwr neu unigolion sy'n gysylltiedig â nhw).

Wrth wneud cais am ryddhad ar gyfer anheddau lluosog, bydd angen i'r trethdalwr ddefnyddio'r cyfraddau uwch ar gyfer eiddo preswyl pan fydd y rheolau ynghylch cyfraddau uwch ar gyfer eiddo preswyl yn berthnasol i'r trafodiad, neu'r prif gyfraddau ar gyfer eiddo preswyl pan nad yw’r rheolau ynghylch cyfraddau uwch ar gyfer eiddo preswyl yn berthnasol (h.y. trafodiad eiddo defnydd cymysg).

Pan hawlir y rhyddhad, penderfynir ar swm y dreth trafodiadau tir sy’n berthnasol i’r gydnabyddiaeth sydd i'w phriodoli i fuddiannau yn yr anheddau drwy gyfeirio at faint o'r gydnabyddiaeth gyfan y gellir ei phriodoli i'r anheddau, wedi’i rannu â nifer yr anheddau (i bennu'r gydnabyddiaeth gymedrig sydd i'w phriodoli i'r anheddau). Os bydd swm y dreth a gyfrifir drwy’r dull hwn yn llai nag 1% o’r gydnabyddiaeth a roddir, mae’r rheol isafswm treth yn dod i rym i sicrhau bod cyfradd dreth effeithiol o 1% o leiaf yn cael ei defnyddio gyda thrafodiadau sy’n ymwneud ag anheddau lluosog.

Maint y dreth trafodiadau tir sy'n berthnasol i'r gydnabyddiaeth sydd i'w phriodoli i fuddiannau mewn tir heblaw anheddau (os o gwbl) yw’r swm a fyddai’n berthnasol yn niffyg y rhyddhad.

Nid yw uwchfuddiannau lesddaliad a rhydd-ddaliad mewn anheddau sy’n ddarostyngedig i lesoedd a roddir am gyfnod cychwynnol o 21 mlynedd neu fwy yn gymwys i gael rhyddhad.

Mae’r rhyddhad yn cynnwys pryniannau ‘oddi ar y cynllun’ pan mae’n bosib nad yw'r gwaith o adeiladu neu addasu’r eiddo ar gyfer defnydd preswyl wedi cychwyn erbyn y dyddiad y bydd y trafodiad yn cael effaith.

Bydd y rhan fwyaf o bryniannau anheddau lluosog yn ddarostyngedig i’r cyfraddau sy’n berthnasol i drafodiadau eiddo preswyl cyfraddau uwch.

Mae rhyddhad anheddau lluosog yn rhyddhad rhannol gan y bydd elfen o’r dreth trafodiadau tir bob amser yn daladwy yng nghyswllt y trafodiad. Dylid defnyddio cod rhyddhad 50 yn ffurflen dreth y trethdalwr er mwyn hawlio’r rhyddhad.

DTTT/7036 Trafodiadau y mae’r rhyddhad yn berthnasol iddynt

(paragraff 3)

Rheol gyffredinol

Gellir hawlio rhyddhad pan fo'r trafodiad yn 'drafodiad perthnasol’. Mae trafodiad perthnasol yn un lle mae prif destun y trafodiad yn cynnwys:

  • buddiant mewn o leiaf dwy annedd neu fuddiant mewn o leiaf dwy annedd ac eiddo arall (er enghraifft, eiddo amhreswyl)
  • buddiant mewn un annedd, neu fuddiant mewn un annedd ac eiddo arall, a bod y trafodiad hwnnw’n un o nifer o drafodiadau cysylltiol, a bod y trafodiad cysylltiol yn cynnwys buddiant mewn o leiaf un annedd arall.

Mae 'buddiant mewn annedd’ at ddibenion y rhyddhad hwn yn golygu unrhyw fuddiant trethadwy mewn annedd neu dros annedd; felly, mae’n rhaid i bob annedd y mae'r rhyddhad hwn yn berthnasol iddo fod yng Nghymru.

Eithriadau

Ni ellir hawlio rhyddhad anheddau lluosog pan allai'r trafodiad fod yn gymwys i gael rhyddhad ar gyfer trafodiadau yr ymrwymir iddynt gan bersonau sy’n arfer hawliau ar y cyd. Yn ogystal, nid yw rhyddhad anheddau lluosog ar gael pan ellir hawlio rhyddhad grŵp, rhyddhad ailadeiladu a chaffael neu ryddhad elusennau ar gyfer y trafodiad, hyd yn oed os na hawlir y rhyddhad neu os bydd y rhyddhad yn cael ei dynnu’n ôl.

Yn achos annedd sy’n ddarostyngedig i les a roddwyd am dymor o fwy na 21 o flynyddoedd, ni chaiff unrhyw uwchfuddiant mewn perthynas â’r les honno ei drin fel buddiant mewn annedd at ddibenion y rhyddhad ac felly ni ellir cynnwys y buddiant hwnnw wrth gyfrifo nifer yr anheddau sydd wedi’u prynu gan y trethdalwr.

Ond, nid yw'r rheol les 21 mlynedd yn berthnasol yn yr achosion canlynol:

  • os mai corff cymwys yw'r gwerthwr at ddibenion y rhyddhad sy’n berthnasol i lesoedd perchnogaeth a rennir

neu

  • os gwneir y trafodiad o dan drefniant gwerthu ac adlesu
  • os rhoi buddiant lesddaliad yw’r gwerthiant hwnnw, ac
  • os bydd elfen adlesu'r trefniant hwnnw’n cael ei rhyddhau rhag treth drwy hawlio rhyddhad gwerthu ac adlesu.

Enghraifft 1

Mae Mr A yn prynu pum buddiant mewn bloc o bedair fflat oddi wrth yr un gwerthwr. Mae’n prynu'r lesddaliad ar bob un o'r pedair fflat, ac mae bob un ohonynt yn para am 99 mlynedd; mae’n prynu'r rhydd-ddaliad dros yr adeilad i gyd sy'n cynnwys y pedair fflat. Gan fod y lesoedd wedi’u rhoi am gyfnod o fwy na 21 o flynyddoedd, ni ellir trin yr uwchfuddiant, sef y rhydd-ddaliad yn yr achos hwn, fel buddiant mewn annedd at ddibenion rhyddhad anheddau lluosog ac felly ni ellir cynnwys y buddiant hwnnw wrth gyfrifo nifer yr anheddau sydd wedi’u prynu gan y trethdalwr.

Enghraifft 2

Mae Ms B yn prynu 3 buddiant mewn anheddau oddi wrth yr un gwerthwr. Mae’r cyntaf a’r ail yn fuddiannau lesddaliad gyda 95 o flynyddoedd yn weddill mewn dwy fflat nad ydynt yn ddarostyngedig i unrhyw is-lesoedd. Y trydydd yw'r buddiant rhydd-ddaliad mewn tŷ sy’n ddarostyngedig i les i drydydd parti digyswllt a gafodd ei rhoi’n wreiddiol am 125 o flynyddoedd. Mae Ms A felly wedi prynu dau fuddiant a allai fod yn gymwys i gael y rhyddhad anheddau lluosog ac un buddiant mewn annedd sy’n cael ei thrin fel eiddo arall at ddibenion y rhyddhad hwn.

DTTT/7037 Termau allweddol a diffiniadau

(paragraff 4)

Ystyr ‘priodoli’ yw priodoli ar sail dosraniad teg a rhesymol.

Y ‘gydnabyddiaeth sydd i’w phriodoli i anheddau’ ar gyfer trafodiad annedd unigol yw hynny o’r gydnabyddiaeth drethadwy sydd i'w phriodoli i’r annedd honno, ac ar gyfer trafodiad anheddau lluosog, hynny o’r gydnabyddiaeth drethadwy sydd i’w phriodoli i’r anheddau i gyd.

‘Y gydnabyddiaeth sy’n weddill’ yw’r gydnabyddiaeth drethadwy ar gyfer y trafodiad llai’r gydnabyddiaeth sydd i’w phriodoli i anheddau.

Mae ‘trafodiad annedd unigol’ yn drafodiad y mae ei brif destun yn fuddiant mewn un annedd, neu’n fuddiant mewn un annedd ac eiddo arall.

Mae ‘trafodiad anheddau lluosog’ yn drafodiad y mae ei brif destun yn fuddiant mewn o leiaf ddwy annedd neu’n fuddiant mewn o leiaf ddwy annedd ac eiddo arall.

Pan fydd trethdalwr yn prynu eiddo sy'n cynnwys prif dŷ ac anecs er mwyn hawlio rhyddhad anheddau lluosog mae'n bwysig bod y prif dŷ a'r anecs yn cwrdd â'r meini prawf o fod yn annedd. Mae rhagor o ganllawiau i’w cael yn LTTA/8080.

DTTT/7038 Cyfrifo Faint o Dreth Trafodiadau Tir sydd i'w thalu: Pennu’r dreth sy’n gysylltiedig â chydnabyddiaeth sydd i’w phriodoli i anheddau

Pan wneir hawliad am ryddhad anheddau lluosog (MDR), bydd y dreth sy'n ddyledus ar drafodiad yn gyfanswm 2 swm:

  • 'treth sy'n gysylltiedig â'r gydnabyddiaeth sydd i’w phriodoli i anheddau' a lle y bo'n berthnasol,
  • 'treth sy’n gysylltiedig â'r gydnabyddiaeth sy'n weddill'

Gallwch ddefnyddio ein cyfrifiannell MDR i’ch helpu i gyfrifo faint o TTT sy'n daladwy gyda hawliad am y rhyddhad.

Mae pedwar cam i’w ddilyn ar gyfer pennu'r swm treth hwn.

  1. Pennu swm y dreth a fyddai'n daladwy ar y gydnabyddiaeth a roddir am gyfanswm yr anheddau yng Nghymru. Pennir swm y dreth sy'n ddyledus drwy rannu'r gydnabyddiaeth â nifer yr anheddau a brynwyd. Yna pennu'r dreth sy’n ddyledus am y pryniant tybiannol hwnnw o un annedd.

    Fel arfer, y cyfraddau sy'n berthnasol ar gyfer y rhan hon o'r cyfrifiad treth fydd y cyfraddau uwch ar gyfer trafodiadau eiddo preswyl. Ym mhob achos arall, dylid defnyddio'r prif gyfraddau preswyl ar gyfer yr anheddau, er enghraifft pan fo’r anheddau'n rhan o drafodiad eiddo defnydd cymysg.

    Pan gaiff 6 neu fwy o anheddau eu prynu, gall y trethdalwr hawlio rhyddhad anheddau lluosog, a byddai cyfanswm yr anheddau yn ddarostyngedig i gyfraddau preswyl uwch. Os na fydd rhyddhad anheddau lluosog yn cael ei hawlio, bydd cyfraddau eiddo amhreswyl yn berthnasol i’r gydnabyddiaeth gyfan.
     
  2. Lluoswch swm y dreth a bennwyd yng ngham 1 â nifer yr anheddau.
     
  3. Y swm a bennwyd yng ngham 2 fydd swm y dreth sy'n daladwy am brynu’r anheddau (gall Treth Trafodiadau Tir ychwanegol fod yn ddyledus ar gyfer y trafodiad os oes cydnabyddiaeth sy'n weddill hefyd sy'n rhan o'r un trafodiad). Ond, ar gyfer trafodiadau cysylltiol sy’n ymwneud ag anheddau, defnyddiwch gam 4 hefyd.
     
  4. Rhaid lluosi swm y dreth a bennwyd yng ngham 2 â CA ÷ CCA
    pan mai:
    • CA yw’r gydnabyddiaeth sydd i’w phriodoli i'r anheddau ar gyfer y trafodiad perthnasol, a
    • CCA yw cyfanswm cydnabyddiaeth yr anheddau

'Cyfanswm cydnabyddiaeth yr anheddau' yw:

  • ar gyfer trafodiad nad yw'n un o nifer o drafodiadau cysylltiol, y gydnabyddiaeth sydd i’w phriodoli i anheddau ar gyfer y trafodiad hwnnw
  • ar gyfer trafodiad sy'n un o nifer o drafodiadau cysylltiol:
    • cyfanswm y gydnabyddiaeth sydd i’w phriodoli i anheddau ar gyfer y trafodiad hwnnw, ynghyd â’r
    • holl drafodiadau eraill sy'n drafodiadau cysylltiol, ynghyd â
    • hynny o'r gydnabyddiaeth drethadwy ar gyfer unrhyw drafodiad cysylltiol arall (boed yn drafodiadau perthnasol ai peidio) nad yw wedi'i gynnwys yn y naill neu'r llall o'r 2 swm o gydnabyddiaeth uchod, ond sydd i’w phriodoli i'r un anheddau sydd wedi’u cynnwys yn y cyfrifiadau

Ystyr 'cyfanswm yr anheddau' yw nifer yr anheddau y cyfeirir atynt wrth gyfrifo cyfanswm cydnabyddiaeth yr eiddo.

Pan fo hynny'n berthnasol, rhaid i'r trethdalwr hefyd ystyried yr isafswm treth. Os yw swm y dreth a gyfrifir uchod yn llai na'r swm hwnnw, y swm hwnnw o Dreth Trafodiadau Tir sy'n daladwy yn hytrach na’r swm sy’n seiliedig ar y cyfrifiad.

Enghraifft 1

  • Mae Mr A yn prynu 3 annedd gan B Cyf ar yr un dyddiad dod i rym (1 Ionawr 2022).
  • Mae Mr A eisoes yn berchen ar ei gartref ei hun a'r 3 annedd yw'r eiddo cyntaf iddo’u prynu wrth iddo adeiladu portffolio prynu i osod. Felly mae'n atebol am dalu’r cyfraddau sy'n berthnasol i drafodiadau eiddo preswyl cyfraddau uwch.
  • Cwblhaodd Mr A a B Cyf un contract ar gyfer gwerthu a phrynu pob un o'r 3 fflat, ac mae'r fflatiau wedi’u prisio'n unigol yn y contract hwnnw, sef £80,000, £95,000 a £107,000. 

Gan nad oes yr un trafodiad cysylltiol a dim cydnabyddiaeth sy'n weddill, dim ond camau 1 i 3 sy'n berthnasol.

  1. Rhaid i’r gydnabyddiaeth drethadwy gael ei rhannu â nifer yr anheddau. Y ffigurau perthnasol yw; y gydnabyddiaeth drethadwy yw £282,000, nifer yr anheddau yw 3. Y gydnabyddiaeth gyfartalog ar gyfer pob annedd yw £94,000. Yna cyfrifir y dreth sy'n ddyledus ar y swm hwnnw. Gan ddefnyddio'r cyfraddau sydd mewn grym ar 22 Rhagfyr 2020, y swm sy’n ddyledus yw £3,760.
  2. Mae’n rhaid lluosi'r swm yng ngham 1 â chyfanswm yr anheddau (nifer yr anheddau a brynwyd yn y trafodiad hwn). Felly’r swm yw £3,760 x 3 = £11,280.
  3. Y dreth sy’n ddyledus = £11,280.

Enghraifft 2

  • Mae B Cyf o enghraifft 1 uchod yn cwblhau bloc arall o fflatiau ac mae Mr A yn prynu 2 fflat arall yn y bloc hwnnw ar 15 Ionawr 2022.
  • Mae'r trafodiadau yn enghreifftiau 1 a 2 yn drafodiadau cysylltiol.
  • Mae'r fflatiau newydd yn costio £125,000 a £185,000 yn y drefn honno ac yn cael eu prynu gyda'i gilydd mewn un trafodiad.
  • Mae'r enghraifft yn rhagdybio nad yw'r bandiau a’r cyfraddau treth wedi newid ers 22 Rhagfyr 2020.

Rhaid defnyddo pob un o'r 4 cam ar gyfer y trafodiad newydd.

  1. Rhaid rhannu cyfanswm cydnabyddiaeth yr anheddau â nifer yr anheddau. Y ffigurau perthnasol yw: cyfanswm cydnabyddiaeth yr anheddau yw £282,000 + £125,000 + £185,000 = £592,000, mae nifer yr anheddau bellach yn 5. Mae’r gydnabyddiaeth gyfartalog ar gyfer pob annedd bellach yn £118,400. Yna cyfrifir y dreth sy'n ddyledus ar y swm hwnnw. Y dreth sy’n ddyledus yw £4,736.
  2. Rhaid lluosi’r swm yng ngham 1 â chyfanswm yr anheddau (nifer yr anheddau a brynwyd yn y trafodiad hwn). Felly’r swm yw £4,736 x 5 = £23,680.
  3. Y dreth sydd i’w thalu ar y trafodiadau cysylltiol yw £23,680. Gan fod yna drafodiadau cysylltiol, rhaid defnyddio cam 4 i gyfrifo'r dreth sydd i’w thalu ar y trafodiad presennol.
  4. Rhaid lluosi swm y dreth a bennwyd gan gam 2 â CA/CCA. Yn yr achos hwn, y ffigur ar gyfer CA yw £310,000 (£125,000 + £185,000) a £592,000 ar gyfer CCA. Y swm felly yw: (310,000 ÷ 592,000) x £23,680 = £12,400.

Dyma swm y dreth y dylid ei hunanasesu ar y ffurflen dreth ar gyfer yr ail drafodiad lle prynwyd y 2 fflat newydd. Yn yr achos hwn, nid oes angen ffurflen dreth trafodiadau tir arall ar gyfer y trafodiad cyntaf (pan brynwyd y 3 fflat) gan fod y dreth sydd i’w thalu ar yr ail ffurflen dreth (£12,400) wedi'i hychwanegu at y dreth a hunanaseswyd ar y ffurflen dreth gyntaf (£11,280) yn gwneud cyfanswm y dreth sydd i’w thalu ar gyfer y 2 drafodiad (£23,680).

Enghraifft 3

Defnyddio'r rheol isafswm taliad treth o 1%

  • Mae Ms C yn prynu 2 annedd gan Mr a Mrs D 2, a dim eiddo arall, mewn un trafodiad.
  • Y gydnabyddiaeth a roddir ar gyfer y trafodiad yw £270,000
  • Mae gwerth unigol yr anheddau ar y farchnad yn £190,000 ac £80,000.
  • Nid yw Ms C yn berchen ar unrhyw anheddau eraill a bydd yn byw yn y cartref drutach fel ei phrif breswylfa. Mae'r annedd llai costus ar dir yr annedd drutach.
  • Mae’r amodau ar gyfer esemptiad is-anheddau atodol sydd yn y rheolau trafodiadau eiddo preswyl cyfraddau uwch yn cael eu bodloni. Felly, ni fydd y cyfraddau uwch yn berthnasol i'r trafodiad.

Gan ddefnyddio'r camau amrywiol, byddai'r dreth sy’n ddyledus yn £0. Gan fod y gydnabyddiaeth gyfartalog a roddir am y 2 annedd yn £135,000 ac mai’r gyfradd dreth berthnasol yw 0%.

Ond bydd y rheol isafswm treth yn berthnasol yn yr achos hwn gan fod y Dreth Trafodiadau Tir ar y gydnabyddiaeth a roddir yn llai nag 1% o swm y gydnabyddiaeth. Felly, mae'r rheol isafswm cydnabyddiaeth yn golygu mai swm y dreth sydd i'w hunanasesu yw £2,700 (£270,000 x 1%).

Pe na bai Ms C wedi hawlio rhyddhad anheddau lluosog, byddai'r dreth sy'n ddyledus yn cael ei chyfrifo yn ôl prif gyfraddau’r Dreth Trafodiadau Tir. Gan ddefnyddio'r cyfraddau, mewn grym ar 10 Hydref 2022, byddai wedi bod angen i Ms C hunanasesu ei threth sy’n ddyledus fel £2,700 ((£0 i £225,000 x 0% = £0) + (£225,001 i £270,000 x 6% = £2,700)).

DTTT/7039 Cyfrifo faint o Dreth Trafodiadau Tir sydd i’w thalu: pennu'r dreth sy'n gysylltiedig â'r gydnabyddiaaeth sy'n weddill

(paragraff 7)

Ar adegau gall trethdalwr ymrwymo i drafodiad sy’n cynnwys anheddau a/neu eiddo preswyl ac amhreswyl eraill.

Yn yr achosion hyn, gall y trethdalwr barhau i hawlio rhyddhad anheddau lluosog (MDR) yng nghyswllt y gydnabyddiaeth a roddir am yr anheddau. 

Pan fyddwn yn cyfeirio at ‘eiddo preswyl eraill’ rydym yn golygu eiddo nad ydynt yn anheddau at ddiben y rhyddhad hwn.

Rhaid cyfrifo'r gydnabyddiaeth a roddir am yr eiddo arall ar wahân a'i hychwanegu at y dreth sy'n berthnasol i'r anheddau.

Pan fo'r trafodiad yn ymwneud ag un sy'n cynnwys anheddau ac eiddo arall sydd hefyd yn eiddo preswyl, bydd y cyfraddau sy’n berthnasol i drafodiadau eiddo preswyl cyfraddau uwch yn berthnasol ar gyfer cyfrifo'r dreth sy'n ddyledus ar yr anheddau at ddibenion pennu'r rhwymedigaeth anheddau lluosog.

Ond bydd y prif gyfraddau’n cael eu defnyddio i bennu'r gydnabyddiaeth ar yr eiddo preswyl arall nad yw'n cynnwys anheddau.

Mae hyn gan fod rhaid i'r hawliad am ryddhad anheddau lluosog ystyried pryniant yr anheddau ar wahân i'r eiddo arall a brynwyd. Mae'r un peth yn wir pan fo'r eiddo arall yn eiddo amhreswyl.

Mae’r 'dreth sy'n gysylltiedig â'r gydnabyddiaeth sy'n weddill' yn cael ei rhoi drwy ddosrannu'r dreth a fyddai wedi bod yn ddyledus ar y trafodiad cyfan. Mae’r swm hwnnw’n cael ei luosi â ffracsiwn. Rhoddir y ffracsiwn drwy rannu'r 'gydnabyddiaeth sy'n weddill' â chyfanswm y gydnabyddiaeth. Mae'r cyfrifiad ychydig yn wahanol os yw'r trafodiad yn un o nifer o drafodiadau cysylltiol.

Pennir y ffracsiwn priodol gan ddefnyddio'r fformiwla: CSW ÷ (CCA + CCSW).

Pan mai:

  • CSW yw'r gydnabyddiaeth sy'n weddill ar gyfer y trafodiad perthnasol
  • CCA yw cyfanswm cydnabyddiaeth yr anheddau
  • CCSW yw cyfanswm y gydnabyddiaeth sy'n weddill

Cyfanswm y gydnabyddiaeth sy'n weddill, ar gyfer trafodiad nad yw'n un o nifer o drafodiadau cysylltiol, yw’r gydnabyddiaeth sy'n weddill.

Gallwch ddefnyddio ein cyfrifiannell MDR i’ch helpu i gyfrifo faint o TTT sy'n daladwy gyda hawliad am y rhyddhad.

Pan fo'r trafodiad yn un o nifer o drafodiadau cysylltiol, cyfanswm y gydnabyddiaeth sy'n weddill yw cyfanswm y gydnabyddiaeth drethadwy ar gyfer y trafodiad cyfan, llai cyfanswm cydnabyddiaeth yr anheddau.

Enghraifft 1: prynu anheddau ac eiddo amhreswyl

  • Mae Ms E yn prynu’r rhydd-ddaliad i adeilad 3 llawr gan F Cyf.
  • Mae'r adeilad yn cynnwys 2 fflat ar y 2 lawr uchaf a swyddfa ar y llawr gwaelod.
  • Mae Ms E yn berchen ar ei chartref ei hun ac nid yw’r naill fflat na’r llall yn lle'r cartref hwnnw.
  • Y symiau a roddir am y 2 fflat yw £300,000 a £250,000 yn y drefn honno a £200,000 am y swyddfa, sy’n gwneud cyfanswm y gydnabyddiaeth yn £750,000.
  • Cyfanswm y gydnabyddiaeth drethadwy yw £750,000.
  • Y gydnabyddiaeth sydd i’w phriodoli i anheddau yw £550,000 (y £300,000 ynghyd â'r £250,000 am y 2 fflat). Dyma hefyd gyfanswm cydnabyddiaeth yr anheddau gan nad oes unrhyw drafodiadau cysylltiol.
  • Y gydnabyddiaeth sy'n weddill yw £200,000 (cyfanswm y gydnabyddiaeth drethadwy, llai'r gydnabyddiaeth sydd i’w phriodoli i’r anheddau).
  • Cyfanswm yr anheddau yw 2.

Gan fod y trafodiad yn drafodiad cymysg, gall y cyfraddau amhreswyl fod yn berthnasol i gyfanswm y gydnabyddiaeth a roddir, oni bai bod Ms E yn hawlio rhyddhad anheddau lluosog. Mae'r Dreth Trafodiadau Tir sy'n ddyledus, gan ddefnyddio'r cyfraddau amhreswyl sy'n berthnasol ar 22 Rhagfyr 2020, yn £25,250.

Os bydd Ms E yn hawlio rhyddhad anheddau lluosog, bydd ei rhwymedigaeth yn cael ei gyfrifo fel a ganlyn.

Y dreth sy'n gysylltiedig â'r gydnabyddiaeth sydd i’w phriodoli i anheddau yw cyfanswm cydnabyddiaeth yr anheddau wedi'i rhannu â chyfanswm yr anheddau: £275,000 (£550,000 wedi'i rannu â 2).

Y Dreth Trafodiadau Tir sy'n ddyledus o dan y prif gyfraddau eiddo preswyl ar £275,000 ar 10 Hydref 2022 yw £3,000. Mae lluosi hyn â chyfanswm yr anheddau yn rhoi £6,000 (£3,000 x 2). Mae hyn yn fwy nag 1% o'r gydnabyddiaeth sydd i’w phriodoli i anheddau, £5,500. Felly, y dreth sy'n gysylltiedig â'r gydnabyddiaeth sydd i’w phriodoli i anheddau yw'r swm uwch.

Y dreth sy’n gysylltiedig â'r gydnabyddiaeth sy'n weddill:

Y dreth sy’n ddyledus ar gyfanswm cydnabyddiaeth drethadwy trafodiad amhreswyl (£750,000) fyddai £25,250.

Gan ddefnyddio'r fformiwla uchod, mae’r gydnabyddiaeth sy'n weddill (£200,000) yn cael ei rhannu gyda chyfanswm y gydnabyddiaeth (£750,000) gan roi ffracsiwn o 4/15. Mae lluosi £25,250 â 4/15 yn rhoi swm treth o £6,733.

Cyfanswm y dreth sy'n ddyledus os bydd hawliad rhyddhad anheddau lluosog yw £7,000 ynghyd â £6,733, sy’n gyfanswm o £13,733.

Mae gan Ms E y dewis o:

  • gymhwyso'r cyfraddau amhreswyl i gyfanswm y gydnabyddiaeth ar gyfer y trafodiad (Treth Trafodiadau Tir = £25,250), gan fod hwn yn eiddo defnydd cymysg, neu
  • hawlio rhyddhad anheddau lluosog ar y gydnabyddiaeth sydd i’w phriodoli i'r anheddau, ar y prif gyfraddau ar gyfer eiddo preswyl, ac yna gyfraddau amhreswyl ar gyfer y gydnabyddiaeth sy'n weddill (Treth Trafodiadau Tir = £13,733)

Enghraifft 2: prynu anheddau ac eiddo preswyl arall

  • Mae Ms G yn prynu’r rhydd-ddaliad i 5 fflat gan H Cyf.
  • Mae Ms G yn berchen ar ei chartref ei hun yn barod ac nid oes yr un o'r fflatiau yn cymryd lle'r cartref hwnnw.
  • Mae 3 o'r fflatiau yn cael eu gosod ar lesoedd tymor hir o 99 mlynedd, gydag 80 mlynedd yn weddill ar bob un. Mae 2 yn cael eu gosod dan lesoedd a ganiatawyd am 15 mlynedd yn wreiddiol.
  • Y symiau a roddwyd am rydd-ddaliad y fflatiau yw:
  • £300,000 am y 2 sy'n destun lesoedd sy’n llai na 21 mlynedd, a 
  • £45,000 am y rifersiwn rhydd-ddaliad ar y 3 fflat sy’n cael eu gosod ar lesoedd sy’n hwy na 21 mlynedd, sy’n gwneud cyfanswm y gydnabyddiaeth yn £345,000
  • Cyfanswm y gydnabyddiaeth drethadwy yw £345,000. Mae’r gydnabyddiaeth sydd i’w phriodoli i anheddau’n £300,000 am y 2 fflat sy'n destun les o 15 mlynedd. Dyma hefyd gyfanswm cydnabyddiaeth yr anheddau sy'n cael eu hystyried gan nad oes unrhyw drafodiadau cysylltiol.
  • Y gydnabyddiaeth sy'n weddill yw £45,000 (cyfanswm y gydnabyddiaeth drethadwy, llai'r gydnabyddiaeth sydd i’w phriodoli i anheddau). Cyfanswm yr anheddau yw 2.
  • Mae'r trafodiad yn cynnwys eiddo preswyl, sydd â rhai ohonynt yn agored i'r cyfraddau uwch ar gyfer trafodiadau eiddo preswyl cyfraddau uwch, ac mae rhai'n daladwy ar y prif gyfraddau.

Mae Ms E yn hawlio rhyddhad anheddau lluosog, a chyfrifir ei rhwymedigaeth fel a ganlyn.

Y dreth sy'n gysylltiedig â'r gydnabyddiaeth sydd i’w phriodoli i anheddau yw cyfanswm cydnabyddiaeth yr anheddau wedi'i rannu â chyfanswm yr anheddau - £150,000 (£300,000 wedi'i rannu â 2).

Y Dreth Trafodiadau Tir sy'n ddyledus o dan reolau’r cyfraddau uwch ar £150,000 yw £6,000. Mae lluosi hyn â chyfanswm yr anheddau yn rhoi £12,000 (£6,000 x 2). Mae hyn yn fwy nag 1% o'r gydnabyddiaeth sydd i'w phriodoli i anheddau, £3,000 felly’r dreth sy’n gysylltiedig â’r gydnabyddiaeth sydd i’w phriodoli i’r anheddau yw’r swm uwch.

Y dreth sy’n gysylltiedig â'r gydnabyddiaeth sy'n weddill:

Y dreth a fyddai’n ddyledus ar gyfanswm cydnabyddiaeth drethadwy eiddo preswyl arall (os nad oedd yr un ohonynt yn agored i'r cyfraddau uwch ar gyfer trafodiadau eiddo preswyl cyfraddau uwch) yw £7,200.

Gan ddefnyddio'r fformiwla uchod mae’r gydnabyddiaeth sy'n weddill (£45,000) yn cael ei rhannu gyda chyfanswm y gydnabyddiaeth (£345,000), gan roi ffracsiwn o 3/23. Mae lluosi £7,200 â 3/23 yn rhoi swm treth o £939.

Cyfanswm y dreth sy'n ddyledus os bydd hawliad anheddau lluosog yw £12,000 ynghyd â £939, sy’n gyfanswm o £12,939.

DTTT/7040 Rhyddhad ar gyfer trosglwyddiadau sy’n ymwneud ag anheddau lluosog: trafodiadau 'oddi ar y cynllun'

(paragraff 8)

Os: 

  • oes cytundeb i brynu adeilad, neu ran o adeilad, a gaiff ei adeiladu neu ei addasu o dan y contract i'w ddefnyddio fel annedd neu anheddau;
  • caiff y contract ei gyflawni’n sylweddol cyn i’r gwaith o godi'r adeilad, neu ran o'r adeilad dan sylw ddechrau, a
  • y dyddiad y mae’r trafodiad yn cael effaith yw’r dyddiad y bernir y caiff y cytundeb ei gyflawni’n sylweddol

at ddibenion y rhyddhad, cymerir mai prif destun y trafodiad fydd buddiant mewn annedd neu ei fod yn cynnwys buddiant mewn annedd.

At y diben hwn, mae contract yn cynnwys unrhyw gytundeb ar gyfer les.

DTTT/ 7041 Cais i drafodiadau partneriaeth

O ran trosglwyddo buddiant partneriaeth y bernir ei fod yn drafodiad tir, caffael buddiant partneriaeth sy'n cael ei drin fel buddiant mawr mewn tir neu dynnu arian yn ôl, ac ati, o bartneriaeth y bernir ei bod yn drafodiad tir, ni all hynny fod yn drafodiad perthnasol at ddibenion y rhyddhad hwn.

DTTT/7042 Rhyddhad ar gyfer trosglwyddiadau sy'n ymwneud ag anheddau lluosog: delio â neuaddau preswyl

Mae’r diffiniad o eiddo preswyl yn darparu ar gyfer delio â ‘llety preswyl i fyfyrwyr’ heblaw am ‘neuaddau preswyl i fyfyrwyr addysg bellach ac uwch’ fel annedd. Gan hynny: 

  • mae adeilad (neu ran o adeilad) sy’n cael ei ddefnyddio fel llety preswyl i fyfyrwyr, yn cael ei ddefnyddio fel annedd oni bai ei fod yn neuadd breswyl i fyfyrwyr addysg bellach ac uwch
  • nid yw adeilad (neu ran o adeilad) sy’n cael ei ddefnyddio fel neuadd breswyl i fyfyrwyr addysg bellach ac uwch yn cael ei ddefnyddio fel annedd, ni waeth pa mor addas ydyw at unrhyw ddefnydd arall
  • mae adeilad (neu ran o adeilad) nad yw’n cael ei ddefnyddio ond sy’n fwyaf addas ar gyfer llety preswyl i fyfyrwyr (heblaw am neuadd breswyl i fyfyrwyr addysg bellach ac uwch) yn addas i'w ddefnyddio fel annedd, ni waeth pa mor addas ydyw at unrhyw ddefnydd arall
  • nid yw adeilad (neu ran o adeilad) nad yw’n cael ei ddefnyddio ond sy’n fwyaf addas ar gyfer ei ddefnyddio fel neuadd breswyl i fyfyrwyr addysg bellach ac uwch yn addas ar gyfer ei ddefnyddio fel annedd, ni waeth pa mor addas ydyw at unrhyw ddefnydd arall
  • mae adeilad (neu ran o adeilad) nad yw’n cael ei ddefnyddio ond sydd yr un mor addas ar gyfer llety preswyl i fyfyrwyr neu fel neuadd breswyl yn addas i'w ddefnyddio fel annedd.

Mae'r term 'llety preswyl i fyfyrwyr’ yn y cyd-destun hwn yn cyfeirio at lety wedi ei adeiladu’n bwrpasol neu wedi ei addasu, gyda’i unig ddiben neu ei brif ddiben yn llety myfyrwyr mewn addysg bellach neu uwch, ac na fyddai'n bodloni'r meini prawf addasrwydd arferol ar gyfer defnydd preswyl fel un annedd. Byddai hyn yn berthnasol mewn achosion lle mae gan y llety lawer o nodweddion arferol annedd neu anheddau ond, er enghraifft, lle mae defnydd fel llety myfyrwyr wedi ei nodi gan ganiatâd cynllunio, ac ni ellir prynu neu waredu unrhyw fuddiant mawr yn yr unedau llety unigol ar wahân.

At ddibenion rhyddhad anheddau lluosog lle mae llety myfyrwyr yn cael ei drin fel llety sy’n cael ei ddefnyddio fel annedd neu fel llety sy'n addas i'w ddefnyddio fel annedd, bydd maint un annedd yn cael ei bennu ar egwyddorion arferol. Er enghraifft, yn achos bloc o fflatiau sydd ar gael i fyfyrwyr yn unig, pob un ohonynt yn cynnwys ystafelloedd gwely astudio unigol gyda chyfleusterau cegin ac ystafell ymolchi i'w rhannu, bydd pob fflat o fewn y bloc yn cael ei thrin fel fflat a gaiff ei defnyddio, neu sy'n addas i'w defnyddio, fel un annedd. Fodd bynnag, ni ellir ystyried pob ystafell astudio yn y fflat honno yn annedd ar wahân.

Gweminarau wedi'u recordio

Gwyliwch ein fideos esboniadol byr i gael gwybod mwy am MDR a sut i gyfrifo'r dreth sy'n ddyledus.