Neidio i'r prif gynnwy

Canllawiau ar ryddhad Treth Trafodiadau Tir ar gyfer caffaeliadau penodol o anheddau.

Cyhoeddwyd gyntaf:
19 Mawrth 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Rhowch adborth i ni ar y canllawiau hyn

Er mwyn ein helpu i wella'r canllawiau hyn, rhowch adborth i ni (mae’n cymryd 30 eiliad).

DTTT/7043 Trosolwg ar y rhyddhadau

(Paragraff 1 Atodlen 14)

Mae rhyddhad ar gael rhag TTT mewn rhai amgylchiadau i brynwyr eiddo preswyl.

Gall rhyddhad fod ar gael i brynwr sy’n caffael annedd gan unigolyn o dan yr amgylchiadau canlynol:

  • mae adeiladwr tai neu fasnachwr eiddo yn prynu annedd yn rhan o drafodiad lle mae’r unigolyn yn prynu annedd newydd gan yr adeiladwr tai
  • mae masnachwr eiddo yn prynu annedd gan gynrychiolwyr personol person ymadawedig
  • mae masnachwr eiddo yn prynu annedd lle mae cadwyn o drafodiadau’n torri
  • mae cyflogwr neu fasnachwr eiddo yn prynu annedd gan gyflogai sy’n adleoli

Os bydd yr holl amodau a bennwyd ar gyfer pob math o drafodiad wedi’u bodloni, bydd caffael annedd flaenorol yr unigolyn yn esempt rhag TTT.

Nid yw’r rhyddhadau y gall adeiladwyr tai a masnachwyr eiddo eu hawlio yn rhai sydd ar gael i unig fasnachwyr, unigolion neu bartneriaethau sydd ag unigolion yn aelodau (ac eithrio partneriaethau atebolrwydd cyfyngedig).

Bydd y prynwr, os yw’r trafodiad yn hysbysadwy, yn llenwi ffurflen trafodiad tir ac yn hawlio’r rhyddhad sy’n adlewyrchu’r rhyddhad penodol sydd ar gael.

Bydd rhyddhad rhannol ar gael lle mae tiroedd a gardd yr annedd flaenorol yn fwy na’r arwynebedd a ganiateir ond bod yr holl amodau eraill ar gyfer y rhyddhad sydd ar gael wedi’u bodloni. O dan yr amgylchiadau hyn, dylid llenwi ffurflen trafodiad tir gan hawlio’r rhyddhad rhannol sydd ar gael.

Mae’n bosibl y bydd rhyddhad ar gael i brynwyr sy’n arfer hawliau ar y cyd.

DTTT/7044 Diffinio a Dehongli

(Paragraffau 9, 2(4), 3(5), 4(5), 5(4), 6(5) a 7(4) Atodlen 14)

Defnyddir y diffiniadau canlynol yn y canllawiau hyn:

  • ystyr ‘adeiladwr tai’ yw cwmni, partneriaeth atebolrwydd cyfyngedig neu bartneriaeth y mae pob un o’i haelodau un ai’n gwmnïau neu’n bartneriaethau atebolrwydd cyfyngedig sy’n cyflawni’r busnes o adeiladu neu addasu adeiladau neu rannau o adeiladau i’w defnyddio fel anheddau. Mae’r diffiniad o adeiladwr tai hefyd yn cynnwys cwmni neu bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig sy’n gysylltiedig ag ef er mwyn pennu a yw cwmni neu bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig yn gysylltiedig ag adeiladwr tai
  • ystyr ‘annedd newydd’ yw adeilad neu ran o adeilad sydd wedi’i adeiladu i’w ddefnyddio fel annedd unigol ac sydd heb gael ei feddiannu o’r blaen, neu, sydd wedi cael ei addasu i’w ddefnyddio fel annedd unigol ac sydd heb gael ei feddiannu ar ôl yr addasu hwnnw
  • ystyr ‘man cyflogaeth newydd’ yw’r lle y bydd yr unigolyn yn cyflawni neu fel arfer yn cyflawni ei ddyletswyddau cyflogaeth ar ôl adleoli
  • ystyr ‘swm a ganiateir’ mewn perthynas ag adnewyddu annedd yw £10,000, neu 5% o’r gydnabyddiaeth a roddwyd i brynu’r annedd (ond dim mwy na £20,000) pa un bynnag sydd fwyaf
  • ystyr ‘arwynebedd a ganiateir’ yw arwynebedd gardd neu diroedd yr annedd sydd un ai heb fod yn fwy nag arwynebedd o hanner hectar, neu arwynebedd mwy os yw’n angenrheidiol i fwynhau’r annedd yn rhesymol ac mai’r arwynebedd mwy hwnnw yw’r hyn sydd fwyaf addas ar gyfer meddiannu neu fwynhau’r annedd. Nid yw hyn yn golygu, er enghraifft, y byddai stablau a phadog yn angenrheidiol ar gyfer mwynhau’r annedd yn rhesymol
  • ystyr ‘prif arferydd’ (mewn perthynas â masnachwr eiddo) yw cyfarwyddwr cwmni, neu aelod o bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig. Yn achos partneriaeth y mae ei holl aelodau’n gwmnïau neu’n bartneriaethau atebolrwydd cyfyngedig, y prif arferydd yw person sy’n brif arferydd i aelod o’r bartneriaeth (hynny yw, cyfarwyddwr cwmni sy’n aelod ohoni neu aelod o bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig sy’n aelod ohoni). Yn ogystal â hyn, cymerir bod prif arferyddion neu gyflogeion masnachwr eiddo yn cynnwys prif arferyddion neu gyflogeion cwmni sy’n gysylltiedig â’r masnachwr eiddo;
  • ystyr ‘masnachwr eiddo’ yw cwmni, partneriaeth atebolrwydd cyfyngedig neu bartneriaeth y mae ei holl aelodau un ai’n gwmnïau neu’n bartneriaethau atebolrwydd cyfyngedig sy’n cyflawni’r busnes o brynu a gwerthu anheddau. Bydd unrhyw beth a wneir gan gwmni sy’n gysylltiedig â’r masnachwr eiddo yn cael ei drin fel rhywbeth sydd wedi’i wneud gan y masnachwr eiddo hwnnw
  • ystyr ‘adnewyddu’ annedd yw gwaith a gyflawnir gyda’r bwriad o gynyddu gwerth yr annedd, ond nid yw’n cynnwys glanhau neu waith i sicrhau bod yr annedd yn cyrraedd safonau diogelwch digonol
  • ystyr ‘adleoli cyflogaeth’ yw newid man gwaith unigolyn o ganlyniad i:
    • yr unigolyn yn cael ei gyflogi gan gyflogwr newydd
    • newid dyletswyddau cyflogaeth yr unigolyn, neu
    • newid y fan lle mae’r unigolyn y cyflawni’r dyletswyddau hynny fel arfer
  • rhaid bod y newid ym mhreswylfa’r cyflogai wedi digwydd yn llwyr neu’n bennaf i ganiatáu pellter teithio dyddiol rhesymol i’r man cyflogaeth hwnnw, a bod y breswylfa flaenorol heb fod o fewn pellter teithio dyddiol rhesymol i’r man cyflogaeth newydd
  • dehongli
  • ystyr caffael annedd yw caffael y prif fuddiant yn yr annedd drwy ei roi neu ei drosglwyddo
  • ystyr gwerth marchnadol annedd a gwerth marchnadol yr arwynebedd a ganiateir yw, yn y drefn honno, gwerth marchnadol y prif fuddiant yn yr annedd a gwerth marchnadol y buddiant hwnnw i’r graddau y mae’n ymwneud â’r arwynebedd dan sylw

Rhaid i unigolyn, sydd yn fod dynol, gael ei enwi’n werthwr yr annedd flaenorol a hefyd yn brynwr yr annedd newydd, er ei fod yn gallu gweithredu gydag unigolion eraill fel gwerthwr neu brynwr (ond ni all weithredu gyda chwmnïau, neu bersonau artiffisial eraill).

Byddai hyn yn cwmpasu achosion lle’r oedd y gwerthu a’r prynu’n cael ei wneud gyda rhywun arall, er enghraifft, priod neu bartner. Nid yw’n ofynnol bod yr un bobl yn bartïon ar gyfer y gwerthu a’r prynu, er mwyn darparu ar gyfer achosion lle mae unigolyn yn unig werthwr ond yn brynwr ar y cyd.

Nid oes diffiniad o unig neu brif breswylfa, felly cwestiwn ffeithiol yw a yw neu a oedd eiddo’n unig neu’n brif breswylfa i’r unigolyn. Nid yw’n ofynnol bod yr unig neu brif breswylfa yn y DU.

Nid oes darpariaeth i unigolyn enwebu un eiddo i fod yn unig neu brif breswylfa.

DTTT/7045 Rhyddhad ar gyfer caffaeliadau gan adeiladwr tai sy’n caffael gan unigolyn sy’n caffael annedd newydd

(Paragraff 2 Atodlen 14)

Gellir rhyddhau caffaeliad o annedd gan adeiladwr tai neu gwmni neu bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig sy’n gysylltiedig ag adeiladwr tai rhag TTT os yw’r holl amodau canlynol wedi’u bodloni:

  • bod yr adeiladwr tai yn prynu annedd, yr ‘hen annedd’ gan unigolyn (pa un a yw’r unigolyn hwnnw’n gweithredu ar ei ben ei hun neu gydag unigolion eraill), a
  • bod yr unigolyn (pa un a yw’r unigolyn hwnnw’n gweithredu ar ei ben ei hun neu gydag unigolion newydd) yn prynu annedd, yr ‘annedd newydd’ gan yr adeiladwr tai, a
  • bod yr unigolyn:
    • wedi meddiannu’r hen annedd fel ei brif neu unig breswylfa ar ryw adeg yn ystod y cyfnod o ddwy flynedd sy’n dod i ben â dyddiad y caffael, a’i fod
    • yn bwriadu meddiannu’r annedd newydd fel ei unig neu brif breswylfa, a
  • bod ymrwymiad i’r naill gaffaeliad fod yn gydnabyddiaeth ar gyfer y llall, ac
  • nad yw arwynebedd y tir a gaffaelir gan yr adeiladwr tai yn fwy na’r arwynebedd a ganiateir

Os yw’r tir y mae’r adeiladwr tai yn ei gaffael yn fwy na’r arwynebedd a ganiateir, yna os yw’r amodau eraill uchod wedi’u bodloni, gellir hawlio rhyddhad rhannol. Lle mae rhyddhad rhannol wedi’i hawlio, bydd rhan o’r gydnabyddiaeth am y caffaeliad yn dod yn drethadwy.

DTTT/7046 Rhyddhad ar gyfer caffaeliadau gan fasnachwr eiddo sy’n caffael gan unigolyn sy’n caffael annedd newydd

(Paragraff 3 Atodlen 14)

Gellir rhyddhau caffaeliad o annedd gan fasnachwr eiddo neu gwmni sy’n gysylltiedig â masnachwr eiddo rhag TTT os yw’r holl amodau canlynol wedi’u bodloni:

  • bod y masnachwr eiddo yn prynu annedd, yr ‘hen annedd’ gan unigolyn (pa un a yw’r unigolyn hwnnw’n gweithredu ar ei ben ei hun neu gydag unigolion eraill), a 
  • bod yr unigolyn (pa un a yw’r unigolyn hwnnw’n gweithredu ar ei ben ei hun neu gydag unigolion eraill) yn prynu annedd, yr ‘annedd newydd’ gan yr adeiladwr tai, a 
  • bod y caffaeliad yn cael ei wneud yng nghwrs busnes sy’n cynnwys caffael anheddau gan unigolion sy’n caffael anheddau newydd gan adeiladwyr tai, neu’n ymwneud â hynny, a
  • bod yr unigolyn:
    • wedi meddiannu’r hen annedd fel ei brif neu unig breswylfa ar ryw adeg yn ystod y cyfnod o ddwy flynedd sy’n dod i ben â dyddiad y caffael, a’i fod
    • yn bwriadu meddiannu’r annedd newydd fel ei unig neu brif breswylfa, ac
  • nad yw’r masnachwr eiddo yn bwriadu:
    • gwario mwy na’r swm a ganiateir ar adnewyddu’r hen annedd
    • rhoi les neu drwydded ar gyfer yr hen annedd am gyfnod o fwy na chwe mis, na
    • chaniatáu i unrhyw brif arferydd neu gyflogai (neu bersonau sy’n gysylltiedig â nhw) feddiannu’r hen annedd, ac
  • nad yw arwynebedd y tir a gaffaelir gan yr adeiladwr tai yn fwy na’r arwynebedd a ganiateir

Os yw’r tir y mae’r masnachwr eiddo yn ei gaffael yn fwy na’r arwynebedd a ganiateir, yna os yw’r amodau eraill uchod wedi’u bodloni, gellir hawlio rhyddhad rhannol. Lle mae rhyddhad rhannol wedi’i hawlio, bydd rhan o’r gydnabyddiaeth am y caffaeliad yn dod yn drethadwy.

Lle mae’r rhyddhad wedi’i hawlio ond bod y masnachwr eiddo wedyn yn torri unrhyw un o’r amodau (er enghraifft, drwy wario mwy ar yr adnewyddu nag a ganiateir, rhoi les neu drwydded am fwy na chwe mis, neu ganiatáu i brif arferydd neu gyflogai feddiannu’r annedd) yna rhaid tynnu’r rhyddhad yn ôl a rhaid cyflwyno ffurflen dreth bellach i Awdurdod Cyllid Cymru (ACC).

DTTT/7047 Rhyddhad ar gyfer caffaeliadau gan fasnachwr eiddo sy’n caffael gan unigolyn lle mae cadwyn o drafodiadau’n torri

(Paragraff 4 Atodlen 14)

Gellir rhyddhau caffaeliad o annedd gan fasnachwr eiddo neu gwmni sy’n gysylltiedig â masnachwr eiddo rhag TTT os yw’r holl amodau canlynol wedi’u bodloni:

  • bod y masnachwr eiddo yn prynu annedd, yr ‘hen annedd’ gan unigolyn (pa un a yw’r unigolyn hwnnw’n gweithredu ar ei ben ei hun neu gydag unigolion eraill), a 
  • bod yr unigolyn (pa un a yw’r unigolyn hwnnw’n gweithredu ar ei ben ei hun neu gydag unigolion eraill) wedi gwneud trefniadau i werthu’r hen annedd a chaffael annedd arall (yr ‘ail annedd’), a
  • bod y trefniadau i werthu’r hen annedd yn methu, a 
  • bod yr hen annedd yn cael ei chaffael at y diben o alluogi’r unigolyn i fynd ymlaen i gaffael yr ail annedd, a
  • bod y caffael yn cael ei wneud yng nghwrs busnes sy’n cynnwys caffael anheddau gan unigolion o dan yr amgylchiadau hynny, neu’n ymwneud â hynny, a
  • bod yr unigolyn:
    • wedi meddiannu’r hen annedd fel ei brif neu unig breswylfa ar ryw adeg yn ystod y cyfnod o ddwy flynedd sy’n dod i ben â dyddiad y caffael; a’i fod
    • yn bwriadu meddiannu’r annedd newydd fel ei unig neu brif breswylfa, ac
  • nad yw’r masnachwr eiddo yn bwriadu:
    • gwario mwy na’r swm a ganiateir ar adnewyddu’r hen annedd
    • rhoi les neu drwydded ar gyfer yr hen annedd am gyfnod o fwy na chwe mis, na
    • chaniatáu i unrhyw brif arferydd neu gyflogai (neu bersonau sy’n gysylltiedig â nhw) feddiannu’r hen annedd, ac
  • nad yw arwynebedd y tir a gaffaelir gan yr adeiladwr tai yn fwy na’r arwynebedd a ganiateir

Os yw’r tir y mae’r masnachwr eiddo yn ei gaffael yn fwy na’r arwynebedd a ganiateir, yna os yw’r amodau eraill uchod wedi’u bodloni, gellir hawlio rhyddhad rhannol. Lle mae rhyddhad rhannol wedi’i hawlio, bydd rhan o’r gydnabyddiaeth am y caffaeliad yn dod yn drethadwy.

Lle mae’r rhyddhad wedi’i hawlio ond bod y masnachwr eiddo wedyn yn torri unrhyw un o’r amodau (er enghraifft, drwy wario mwy ar yr adnewyddu nag a ganiateir, rhoi les neu drwydded am fwy na chwe mis, neu ganiatáu i brif arferydd neu gyflogai feddiannu’r annedd) yna rhaid tynnu’r rhyddhad yn ôl a rhaid cyflwyno ffurflen dreth bellach i ACC.

DTTT/7048 Rhyddhad ar gyfer caffaeliadau gan fasnachwr eiddo sy’n caffael gan gynrychiolwyr personol

(Paragraff 5 Atodlen 14)

Gellir rhyddhau caffaeliad o annedd gan fasnachwr eiddo neu gwmni sy’n gysylltiedig â masnachwr eiddo rhag TTT os yw’r holl amodau canlynol wedi’u bodloni:

  • bod y masnachwr eiddo yn prynu annedd gan gynrychiolwyr personol unigolyn ymadawedig, a 
  • bod y prynu yn cael ei wneud yng nghwrs busnes sy’n cynnwys prynu anheddau gan gynrychiolwyr personol unigolion ymadawedig, neu’n ymwneud â hynny, a
  • bod yr unigolyn ymadawedig wedi meddiannu’r annedd fel ei brif neu unig breswylfa ar ryw adeg yn ystod y cyfnod o ddwy flynedd sy’n dod i ben â’r dyddiad y bu farw’r unigolyn hwnnw, ac
  • nad yw’r masnachwr eiddo yn bwriadu:
    • gwario mwy na’r swm a ganiateir ar adnewyddu’r annedd
    • rhoi les neu drwydded ar gyfer yr annedd, na
    • chaniatáu i unrhyw brif arferydd neu gyflogai (neu bersonau sy’n gysylltiedig â nhw) feddiannu’r hen annedd, ac
  • nad yw arwynebedd y tir a gaffaelir gan yr adeiladwr tai yn fwy na’r arwynebedd a ganiateir

Os yw’r tir y mae’r masnachwr eiddo yn ei gaffael yn fwy na’r arwynebedd a ganiateir, yna os yw’r amodau eraill uchod wedi’u bodloni, gellir hawlio rhyddhad rhannol. Lle mae rhyddhad rhannol wedi’i hawlio, bydd rhan o’r gydnabyddiaeth am y caffaeliad yn dod yn drethadwy.

Lle mae’r rhyddhad wedi’i hawlio ond bod y masnachwr eiddo wedyn yn torri unrhyw un o’r amodau (er enghraifft, drwy wario mwy ar yr adnewyddu nag a ganiateir, rhoi les neu drwydded am fwy na chwe mis, neu ganiatáu i brif arferydd neu gyflogai feddiannu’r annedd) yna rhaid tynnu’r rhyddhad yn ôl a rhaid cyflwyno ffurflen dreth bellach i ACC.

DTTT/7049 Rhyddhad ar gyfer caffaeliadau gan fasnachwr eiddo mewn achos o adleoli cyflogaeth

(Paragraff 6 Atodlen 14)

Gellir rhyddhau caffaeliad o annedd gan fasnachwr eiddo neu gwmni sy’n gysylltiedig â masnachwr eiddo rhag TTT os yw’r holl amodau canlynol wedi’u bodloni:

  • bod y masnachwr eiddo yn prynu annedd gan unigolyn (pa un a yw’r unigolyn hwnnw’n gweithredu ar ei ben ei hun neu gydag unigolion eraill), a 
  • bod y caffael yn cael ei wneud yng nghwrs busnes sy’n cynnwys caffael anheddau gan unigolion mewn cysylltiad â newid preswylfa o ganlyniad i adleoli cyflogaeth, a
  • bod yr unigolyn wedi meddiannu’r annedd fel ei brif neu unig breswylfa ar ryw adeg yn ystod y cyfnod o ddwy flynedd sy’n dod i ben â dyddiad y caffael, a
  • bod y caffael yn cael ei wneud mewn cysylltiad â newid preswylfa gan y cyflogai o ganlyniad i adleoli swydd (sy’n cael ei alw’n ‘adleoli cyflogaeth’ yn y ddeddfwriaeth); ac
  • nad yw’r pris prynu yn fwy na gwerth marchnadol yr annedd, ac
  • nad yw’r masnachwr eiddo yn bwriadu:
    • gwario mwy na’r swm a ganiateir ar adnewyddu’r annedd
    • rhoi les neu drwydded ar gyfer yr annedd am gyfnod o fwy na chwe mis, na
    • chaniatáu i unrhyw brif arferydd neu gyflogai (neu bersonau sy’n gysylltiedig â nhw) feddiannu’r annedd, ac
  • nad yw arwynebedd y tir a gaffaelir gan yr adeiladwr tai yn fwy na’r arwynebedd a ganiateir

Ystyr adleoli swydd yw newid ym man cyflogaeth yr unigolyn o ganlyniad i newid sy’n golygu bod yr unigolyn:

  • yn dod yn gyflogai i’r cyflogwr
  • yn newid ei ddyletswyddau gyda’r cyflogwr
  • yn newid y fan lle mae’n gweithio i’r cyflogwr

Newid mewn preswylfa yw un sy’n codi o ganlyniad i adleoli swydd os yw’r newid yn cael ei wneud yn llwyr neu’n bennaf i ganiatáu i’r unigolyn gael preswylfa sydd o fewn pellter teithio dyddiol rhesymol i’w le gwaith newydd. Os oedd yr annedd y mae’r cyflogwr wedi’i chaffael hefyd o fewn pellter teithio dyddiol rhesymol, yna nid yw’r rhyddhad ar gael. 

Mae’n bosibl bod angen i’r unigolyn newid ei fan preswylio am nad yw’r fan lle’r oedd yn arfer byw o fewn pellter teithio dyddiol rhesymol i’w le gwaith newydd. 

Ystyr lle gwaith newydd yw’r fan lle mae’r unigolyn yn cyflawni dyletswyddau ei gyflogaeth fel arfer ar ôl yr adleoli.

Os yw’r tir y mae’r masnachwr eiddo yn ei gaffael yn fwy na’r arwynebedd a ganiateir, yna os yw’r amodau eraill uchod wedi’u bodloni, gellir hawlio rhyddhad rhannol. Lle mae rhyddhad rhannol wedi’i hawlio, bydd rhan o’r gydnabyddiaeth am y caffaeliad yn dod yn drethadwy.

Lle mae’r rhyddhad wedi’i hawlio ond bod y masnachwr eiddo wedyn yn torri unrhyw un o’r amodau (er enghraifft, drwy wario mwy ar yr adnewyddu nag a ganiateir, rhoi les neu drwydded am fwy na chwe mis, neu ganiatáu i brif arferydd neu gyflogai feddiannu’r annedd) yna rhaid tynnu’r rhyddhad yn ôl a rhaid cyflwyno ffurflen dreth bellach i ACC.

DTTT/7050 Rhyddhad ar gyfer caffaeliadau gan gyflogwr mewn achos o adleoli cyflogaeth

(Paragraff 7 Atodlen 14)

Gellir rhyddhau caffaeliad o annedd gan gyflogwr rhag TTT os yw’r holl amodau canlynol wedi’u bodloni:

  • bod cyflogwr yr unigolyn yn caffael yr annedd gan yr unigolyn, boed ar ei ben ei hun neu gydag unigolion eraill, a
  • bod yr unigolyn wedi meddiannu’r annedd fel ei brif neu unig breswylfa ar ryw adeg yn ystod y ddwy flynedd cyn dyddiad y caffael, a
  • bod y prynu yn cael ei wneud am fod rhaid i’r cyflogai newid preswylfa o ganlyniad i adleoli swydd, ac
  • nad oedd yr annedd yr oedd y cyflogwr wedi’i chaffael yn addas ar gyfer yr adleoli swydd, ac 
  • nad yw’r pris prynu yn fwy na gwerth marchnadol yr annedd, ac
  • nad yw arwynebedd y tir y mae’r cyflogwr wedi’i gaffael yn fwy na’r arwynebedd a ganiateir

Ystyr adleoli swydd yw newid ym man cyflogaeth yr unigolyn o ganlyniad i newid sy’n golygu bod yr unigolyn:

  • yn dod yn gyflogai i’r cyflogwr
  • yn newid ei ddyletswyddau gyda’r cyflogwr
  • yn newid y fan lle mae’n gweithio i’r cyflogwr

Newid mewn preswylfa yw un sy’n codi o ganlyniad i adleoli swydd os yw’r newid yn cael ei wneud yn llwyr neu’n bennaf i ganiatáu i’r unigolyn gael preswylfa sydd o fewn pellter teithio dyddiol rhesymol i’w le gwaith newydd. Os oedd yr annedd y mae’r cyflogwr wedi’i chaffael hefyd o fewn pellter teithio dyddiol rhesymol, yna nid yw’r rhyddhad ar gael.

Mae’n bosibl bod angen i’r unigolyn newid ei fan preswylio am nad yw’r fan lle’r oedd yn arfer byw o fewn pellter teithio dyddiol rhesymol i’w le gwaith newydd.

Ystyr lle gwaith newydd yw’r fan lle mae’r unigolyn yn cyflawni dyletswyddau ei gyflogaeth fel arfer ar ôl yr adleoli.

Os yw’r tir y mae’r masnachwr eiddo yn ei gaffael yn fwy na’r arwynebedd a ganiateir, yna os yw’r amodau eraill uchod wedi’u bodloni, gellir hawlio rhyddhad rhannol. Lle mae rhyddhad rhannol wedi’i hawlio, bydd rhan o’r gydnabyddiaeth am y caffaeliad yn dod yn drethadwy.

DTTT/7051 Rhyddhad rhannol ar gyfer caffaeliadau penodol o anheddau

(Paragraffau 2(3), 3(4), 4(4), 5(3), 6(4) a 7(3) Atodlen 14)

Lle mae’r amodau ar gyfer y rhyddhadau a restrwyd uchod wedi cael eu bodloni ond bod arwynebedd y tir a gaffaelwyd gyda’r annedd yn fwy na’r arwynebedd a ganiateir, mae’n bosibl y bydd y trethdalwr yn gallu hawlio rhyddhad rhannol mewn perthynas â chaffael yr annedd, gan adael swm o gydnabyddiaeth y gellir codi TTT arno.

Swm y gydnabyddiaeth drethadwy yw’r gwahaniaeth rhwng gwerth marchnadol yr arwynebedd a ganiateir, sef yr hen annedd a’r tiroedd a ganiateir, a chyfanswm gwerth marchnadol yr hen annedd yn cynnwys yr holl erddi a thiroedd.

Enghraifft

Mae A Cyf, adeiladwr tai, yn prynu annedd gan Mr a Mrs B (a oedd yn unig ac yn brif breswylfa i Mr a Mrs B) yn gydnabyddiaeth i Mr a Mrs B am gaffael annedd newydd gan A Cyf. Y gydnabyddiaeth a roddwyd am yr hen annedd yw £250,000. Mae un hectar o erddi a thiroedd gyda’r hen annedd. Gwerth marchnadol yr hanner hectar sy’n fwy na’r arwynebedd a ganiateir yw £25,000. Rhaid i A Cyf gyflwyno ffurflen dreth am fod y trafodiad yn hysbysadwy (oherwydd heb y rhyddhad, byddai'n rhaid codi treth ar gyfradd o fwy na 0%). Gall hawlio rhyddhad gan fod yr amodau a bennwyd ar gyfer caffaeliad gan adeiladwr tai sy’n caffael gan unigolyn sy’n caffael annedd newydd wedi cael eu bodloni. Y gydnabyddiaeth a roddwyd yw £250,000, a’r dreth sydd wedi’i hunanasesu yw £0. Bydd yn ofynnol o hyd i’r swm hwn o dreth gael ei hunanasesu oherwydd, er bod y dreth y gellir ei chodi yn £0 fel y byddai wedi bod pe byddai modd hawlio’r rhyddhad llawn, nid yw A Cyf yn gallu hawlio rhyddhad llawn a rhaid iddo hunanasesu’r dreth y gellir ei chodi ar y gydnabyddiaeth a roddwyd na ellir hawlio’r rhyddhad amdani (£25,000 sy'n is na'r trothwy 0% felly £0 yw'r dreth hunanasesu).

DTTT/7052 Tynnu rhyddhad yn ôl ar gyfer caffaeliadau penodol o anheddau

(Paragraff 8 Atodlen 14)

Gellir tynnu’n ôl ryddhad sydd wedi’i hawlio am drafodiadau lle mae masnachwr eiddo wedi caffael annedd gan:

  • unigolyn sy’n caffael annedd newydd gan adeiladwr tai
  • unigolyn lle mae cadwyn o drafodiadau’n torri
  • cynrychiolwyr personol unigolyn ymadawedig, neu
  • unigolyn mewn achos o adleoli cyflogaeth

Cymerir camau i dynnu rhyddhad yn ôl, mewn perthynas â’r holl ryddhadau i fasnachwyr eiddo sydd wedi’u rhestru uchod ac eithrio hwnnw sy’n ymwneud â chaffael gan gynrychiolwyr personol personau ymadawedig, os bydd y masnachwr eiddo:

  • yn gwario mwy na’r swm a ganiateir ar adnewyddu’r annedd
  • yn rhoi les neu drwydded ar gyfer yr annedd am gyfnod o fwy na chwe mis, neu
  • yn caniatáu i unrhyw brif arferydd neu gyflogai (neu bersonau sy’n gysylltiedig â nhw) feddiannu’r annedd

Mewn perthynas â rhyddhad a hawliwyd mewn cysylltiad â chaffael gan gynrychiolwyr personol personau ymadawedig, bydd y rhyddhad yn cael ei dynnu’n ôl os bydd y masnachwr eiddo:

  • yn gwario mwy na’r swm a ganiateir ar adnewyddu’r annedd
  • yn rhoi unrhyw les neu drwydded ar gyfer yr annedd, neu
  • yn caniatáu i unrhyw brif arferydd neu gyflogai (neu bersonau sy’n gysylltiedig â nhw) feddiannu’r annedd

O dan amgylchiadau o’r fath rhaid i’r trethdalwr anfon ffurflen dreth bellach i ACC a thalu unrhyw swm o TTT sy’n ddyledus o ganlyniad i dynnu’r rhyddhad yn ôl. Felly swm y dreth sydd i’w godi yw’r swm a fyddai i’w godi mewn perthynas â’r trafodiad oni bai am yr hawliad am ryddhad. 

DTTT/7053 Rhyddhad ar gyfer personau sy’n arfer hawliau ar y cyd

(Paragraff 10 Atodlen 14)

Mae’r rhyddhad hwn ar gael lle mae lesddeiliaid fflatiau yn cydweithredu i arfer hawl statudol i brynu’r rifersiwn sef, fel arfer, rhydd-ddaliad yr adeilad (neu adeiladau) y mae’r fflatiau ynddo.

Bydd y rhyddhad yn gymwys dim ond lle mae’r prynu yn arfer:

  • hawl i gael y cynnig cyntaf o dan Ran 1 o Ddeddf Landlord a Thenant 1987, neu
  • hawl i ryddfreiniad ar y cyd o dan Bennod 1 o Ran 1 o Ddeddf Diwygio Cyfraith Lesddaliad, Tai a Datblygu Trefol 1993

Yn yr achosion hyn, caffaelir y rhydd-ddaliad mewn trafodiad unigol gan berson neu bersonau a enwebwyd neu a benodwyd (a all fod yn un neu ragor o unigolion neu’n gwmni) yn gweithredu ar ran y lesddeiliaid. 

Mae’r rhyddhad yn gweithio mewn ffordd sy’n golygu bod swm llai o dreth i’w godi nag a fyddai’n daladwy oni bai am yr hawliad am ryddhad. Felly mae’n dod â’r swm o dreth yn agosach at y swm a fyddai i’w godi pe byddai’r lesddeiliaid wedi gallu prynu eu cyfrannau o’r rhydd-ddaliad ar wahân. 

Er mwyn pennu swm y dreth sydd i’w godi, rhaid dilyn y tri cham canlynol:

  1. Rhannu cyfanswm y gydnabyddiaeth a roddwyd am rifersiwn y rhydd-ddaliad â nifer y fflatiau sydd wedi’u lesio gan denantiaid sy’n arfer yr hawliau ar y cyd (‘fflatiau cymwys’).
  2. Cyfrifo swm y dreth ar sail y swm a gyfrifwyd yn y cam cyntaf.
  3. Lluosi swm y dreth a bennwyd yn yr ail gam â nifer y fflatiau cymwys.

Enghraifft

Mae un sydd wedi’i enwebu i weithredu ar ran lesddeiliaid wyth o ddeg o fflatiau mewn bloc yn prynu rhydd-ddaliad y bloc am £500,000.

Gan fod yr hawl statudol yn cael ei harfer gan lesddeiliaid wyth o fflatiau, mae’r gydnabyddiaeth o £500,000 yn cael ei rhannu ag wyth (£62,500) – y cam cyntaf. Swm y dreth sydd i’w godi ar y swm hwnnw yw £0 – yr ail gam. Mae’r canlyniad i’r ail gam yn cael ei luosi â nifer y fflatiau cymwys, sef 8 yn yr enghraifft hon. Felly y dreth sy’n daladwy yw £0 x 8 = £0 – y trydydd cam.

Bydd yr un sydd wedi’i enwebu neu ei benodi yn hawlio’r rhyddhad ar ffurflen trafodiad tir gan hawlio rhyddhad dros bersonau sy’n arfer hawliau ar y cyd.

Ystyr ‘fflatiau cymwys’ yw fflatiau sy’n cael eu dal gan denantiaid cymwys sy’n arfer yr hawl statudol dan sylw ar y cyd, o dan delerau’r hawl honno. Gall hyn fod yn llai na nifer y fflatiau yn y bloc.

Mae ystyron ‘fflatiau’ a ‘tenantiaid cymwys’ mewn perthynas â phob un o’r hawliau statudol wedi’u diffinio yn y ddeddfwriaeth sy’n rhoi’r hawl honno.

Mewn achos lle mae fflatiau’n cael eu lesio gan denantiaid sy’n dod i gytundeb ar wahân â’r un sydd wedi’i enwebu neu ei benodi, ond sydd heb arfer yr hawl statudol ar y cyd, ni ellir cynnwys y fflatiau hynny at ddibenion y rhyddhad.