Neidio i'r prif gynnwy

Mae’r canllawiau hyn yn adlewyrchu’r darpariaethau yn Rhan 5 o Ddeddf Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) 2017 (DTGT).

Cyhoeddwyd gyntaf:
13 Ebrill 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

DTGT/7000 – Datgelu gwybodaeth i ACC gan Gyfoeth Naturiol Cymru ac awdurdodau lleol

Caiff awdurdodau lleol a Chyfoeth Naturiol Cymru ddatgelu gwybodaeth i ACC er mwyn ei helpu i gasglu a rheoli'r Dreth Gwarediadau Tirlenwi. Pan fyddant yn gwneud hynny, ni fydd y datgelu yn torri unrhyw ddyletswydd cyfrinachedd na rhwymedigaeth gyfreithiol arall y gallai’r corff sy’n datgelu fod yn rhwym iddynt mewn perthynas â’r wybodaeth honno.

Fodd bynnag, ni chânt ddatgelu gwybodaeth sy’n torri Deddf Diogelu Data 1998 na Rhannau 1 i 7 na Phennod 1 o Ran 9 o Ddeddf Pwerau Ymchwilio 2016.

Nid yw’r adran hon yn effeithio ar unrhyw bŵer arall sydd gan berson neu gorff i rannu gwybodaeth.