Neidio i'r prif gynnwy

Rhaid cytuno â'r amodau hyn i ddefnyddio Ceisiadau Cynllunio Cymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
25 Mai 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Caiff gwasanaeth "Ceisiadau Cynllunio Cymru" ei ddarparu gan PortalPlanQuest Ltd, ar ran Gweinidogion Cymru.

Casglu gwybodaeth

Mae'r gwasanaeth yn gofyn am yr wybodaeth sydd ei hangen ar gyfer cyflwyno, dilysu a phrosesu ceisiadau cynllunio (a chydsyniadau cysylltiedig). Mae rhai mathau o wybodaeth yn orfodol er mwyn galluogi'r Awdurdod Cynllunio Lleol i brosesu eich cais, gan gynnwys enwau, cyfeiriadau, rhifau ffôn a chyfeiriadau e-bost y person sy'n cyflwyno'r cais a/neu'r asiant sy'n gweithredu ar ei ran. Ni allwch gyflwyno ceisiadau dienw.

Ni ddylech gynnwys unrhyw ddatganiadau sy'n cynnwys gwybodaeth bersonol neu sensitif yng nghanol eich cais neu mewn unrhyw ddogfennau sydd ynghlwm wrtho. Mae'r Awdurdod Cynllunio Lleol yn ddarostyngedig i ddyletswydd o dan y gyfraith gynllunio i roi cyhoeddusrwydd i geisiadau cynllunio, sy'n cynnwys eu gosod ar gofrestr gyhoeddus.

Pan fyddwch yn cyflwyno cais bydd yn ofynnol i chi ddatgan bod yr holl wybodaeth a gynhwysir ynddo'n wir ac yn gywir hyd eithaf eich gwybodaeth. Gallai datganiad ffug olygu bod unrhyw gais a gyflwynir yn annilys, ac felly ni fydd modd rhoi caniatâd.

Caiff yr holl ddata personol a gaiff eu casglu drwy eich defnydd gwirfoddol o wasanaeth "Ceisiadau Cynllunio Cymru" eu defnyddio at ddiben trosglwyddo gwybodaeth angenrheidiol i'r Awdurdod Cynllunio Lleol sy'n gyfrifol am wneud penderfyniad ynghylch y cais perthnasol (neu'r cydsyniad cysylltiedig). Pan gaiff y data eu trosglwyddo i'r Awdurdod Cynllunio Lleol, yr Awdurdod Cynllunio Lleol fydd prosesydd a rheolwr y data mewn perthynas â'r wybodaeth o fewn y cais, a bydd yn ddarostyngedig i'w ddyletswyddau ei hun o ran hyn.

Cadw data

Caiff copïau o'ch ceisiadau drafft a'ch ceisiadau a gyflwynir, a'r holl wybodaeth a gynhwysir ynddynt, eu cadw a'u harchifo gan y contractwr, gan ei gwneud hi'n haws i chi ailgyflwyno cais os bydd camgymeriad, neu rhag ofn y byddwch yn dewis cyflwyno cais ar gyfer cynllun tebyg rywbryd yn y dyfodol. Caiff y rhain eu gwaredu ar ôl pedair blynedd gan amlaf.

Os bydd gan y contractwr unrhyw ddata (gan gynnwys ceisiadau drafft neu geisiadau wedi'u harchifo) ar ddiwedd contract presennol "Ceisiadau Cynllunio Cymru", caiff y data hyn un ai eu darparu i'r contractwr a fydd yn darparu'r gwasanaeth olynol neu eu dinistrio.

Mae Telerau ac Amodau safonol Llywodraeth Cymru yn berthnasol, ac eithrio mewn perthynas â'r eithriadau uchod.