Neidio i'r prif gynnwy

Mae Awdurdod Cyllid Cymru, yr awdurdod trethi newydd i Gymru, wedi ennill gwobr o fri gan ddiwydiant TG y Deyrnas Unedig ar y cyd â’i bartner gwasanaethau digidol, Kainos Group plc, am ddarparu system drethi ddigidol ddwyieithog, seiliedig yn y cwmwl, gyntaf Cymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
28 Tachwedd 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cafodd y prosiect digidol hwn, y cyntaf o’i fath, ei gydnabod yng Ngwobrau Diwydiant TG y Deyrnas Unedig 2018 - dan arweiniad BCS, y Sefydliad Siartredig dros TG a Chyfrifiadura - yn ddiweddar, yng nghategori y “Defnydd Gorau o Wasanaethau Cwmwl”.

Arweiniwyd y prosiect digidol naw mis gan dimau Digidol a TGCh y Dyfodol Llywodraeth Cymru, fel rhan o raglen weithredu ddwy flynedd ehangach i sefydlu’r awdurdod trethi newydd ar gyfer Cymru.

Yn dilyn ymarferiad caffael helaeth, dyfarnwyd contract i Kainos, darparwr gwasanaethau a phlatfformau digidol, i adeiladu system casglu a rheoli trethi ddwyieithog, seiliedig yn y cwmwl, wedi’i chynllunio’n bwrpasol, a fyddai’n galluogi Awdurdod Cyllid Cymru i gasglu a rheoli trethi datganoledig cyntaf Cymru.

Daethpwyd ag ail bartner digidol, SAGlobal, sydd â chanolfan yn ne Cymru, i mewn i ddylunio ac adeiladu system gyllid, a oedd yn elfen allweddol o’r system drethi ddigidol.

Cafodd y prosiect arloesol hwn ei gyflawni o fewn naw mis ac, ar 1 Ebrill 2018, gweinyddodd Awdurdod Cyllid Cymru y trethi penodol cyntaf i Gymru am y tro cyntaf ers 800 mlynedd.

Dywedodd Dyfed Alsop, Prif Weithredwr yr Awdurdod Cyllid :

“Rydym wrth ein bodd fod y prosiect hwn wedi cael ei gydnabod fel y Defnydd Gorau o Wasanaethau Cwmwl gan Wobrau Diwydiant TG y Deyrnas Unedig 2018.

“Mae’r wobr hon yn destament i weledigaeth pawb a fu’n ymwneud â datblygu ac adeiladu'r system drethi ddigidol gyntaf o’i fath. Ni fyddai wedi bod yn bosibl heb y partneriaethau cryf a sefydlwyd wrth ffurfio Awdurdod Cyllid Cymru. Galluogodd y rhain ni i gyflawni’n rhwymedigaethau cyfreithiol yn llwyddiannus a gweinyddu’r trethi cyntaf i Gymru mewn mwy nag 800 mlynedd.

“Mae atebion seiliedig yn y cwmwl yn chwarae rôl gynyddol bwysig o ran arloesi a gwneud arbedion effeithlonrwydd. Ynghyd â thimau digidol a TGCh Llywodraeth Cymru, Kainos ac SAGlobal, rydym wedi gallu creu glasbrint ar gyfer dull gweithredu yn y cwmwl yn gyntaf ac rydym yn gobeithio rhannu ein profiad gyda chyrff cyhoeddus eraill sy’n ystyried trawsnewid digidol.”

Dywedodd Russell Sloan, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Digidol Kainos:

“Roedd creu sefydliad newydd, lle’r oedd angen adeiladu popeth o ddim gyda thîm bach, yn gyfle ac yn her gyffrous.

“Darparwyd y system ar Microsoft Azure Platform fel Gwasanaeth, gan ei fod yn caniatáu inni wreiddio diogelwch o’r gwaelod i fyny ac mae’n cynnig yr hyblygrwydd i Awdurdod Cyllid Cymru i dyfu rhagor o wasanaethau. Edrychwn ymlaen at weithio gyda Awdurdod Cyllid Cymru i ddatblygu’r platfform ac arloesi arno ymhellach.”

Dywedodd Wayne Davies, Rheolwr Gwlad, SAGlobal Ewrop:

“Roedd gweithredu ateb swyddfa gefn i sefydliad bach, ond un a oedd yn tyfu’n gyflym, yn gyfle cyffrous i dîm SAGlobal.

“Rhoesom Microsoft Dynamics 365 Cyllid a Gweithrediadau ar waith i ddarparu ateb swyddfa gefn, wedi’i seilio yn y cwmwl, a oedd yn cynnig system fusnes gadarn, y gellir ei ehangu, a fydd yn cefnogi Awdurdod Cyllid Cymru gyda’i chynlluniau twf.

“Edrychwn ymlaen yn fawr iawn at ehangu ôl troed Dynamics 365 o fewn Awdurdod Cyllid Cymru dros amser.”

Ar hyn o bryd, mae dros 5,000 o weithwyr proffesiynol ym maes y gyfraith a gweithredwyr safleoedd tirlenwi ledled y Deyrnas Unedig wedi cofrestru i ddefnyddio’r system drethi ddigidol newydd, gyda 97% o’r holl ffurflenni treth yn cael eu cwblhau ar-lein.

Amcangyfrifir y bydd Awdurdod Cyllid Cymru yn gweinyddu oddeutu £1 biliwn mewn trethi dros gyfnod o bedair blynedd, a fydd yn help i gefnogi twf economi Cymru a gwasanaethau cyhoeddus Cymru, yn cynnwys y GIG ac ysgolion.