Neidio i'r prif gynnwy

Ystyriodd y Comisiwn ymchwil a dadansoddiadau cyfredol.

Edrychodd ar Fwrdd Gwaith Teg y partneriaid cymdeithasol a'i ragflaenodd. 

Gofynnodd am dystiolaeth yn ystod mis Hydref er mwyn mynd i'r afael â chwestiynau allweddol o safbwynt ei gylch gorchwyl.

Cynhaliodd y Comisiynwyr gyfarfodydd gyda’r canlynol:

  • cyflogwyr yn y sectorau cyhoeddus a phreifat
  • cyrff cynrychioliadol
  • undebau llafur
  • cyrff cydraddoldeb a
  • rhanddeiliaid pwysig eraill

Daeth aelodau’r Comisiwn ynghyd i drafod yr adroddiad ar 19 a 20 Chwefror ac ar 8 ac 18 Mawrth.

Gwnaethom gyflwyno’r adroddiad drafft i Brif Weinidog Cymru ar ddiwedd mis Mawrth. Byddwn yn cyhoeddi’r adroddiad ym mis Mai.

Mae gwaith y Comisiwn bellach ar ben.