Neidio i'r prif gynnwy

Cyllid myfyrwyr yn helpu merch o Gastell-nedd i ddilyn gyrfa seicoleg

Straeon addysg uwch: Samantha o Gastell Nedd

Mae Samantha Williams, cyn-fyfyriwr chweched dosbarth yng Ngholeg Castell-nedd, ym mlwyddyn gyntaf ei chwrs gradd BSc mewn Troseddeg a Seicoleg ym Mhrifysgol Abertawe. Mae’n byw gartref gyda’i rhieni ac yn teithio’n ôl a mlaen i’r brifysgol, a dywedodd mai dim ond ar ôl deall bod cymorth grant ar gael y penderfynodd fynd ar drywydd addysg uwch.

Meddai Sam: 

“Mae cyllid myfyrwyr wedi fy helpu i wneud penderfyniad, oherwydd hebddo, fyddwn i ddim wedi gallu mynd i’r brifysgol ac anelu at fod yn seicolegydd.

“I ddechrau, roeddwn i’n meddwl ‘mae prifysgol yn rhy ddrud, dyw e ddim yn bosib’. Cyflog dad fel peiriannydd yw prif ffynhonnell incwm y teulu. Felly gyda dim ond un incwm, mae’n rhaid inni fod yn ofalus gyda’n harian.

“Roeddwn i’n becso am gael benthyciadau myfyrwyr ac yn cael panig o feddwl am fynd i ddyled, felly doeddwn i ddim am fynd i brifysgol oni bai ’mod i gant y cant am y peth. Ond yna, soniodd ffrind coleg am y grantiau sydd ar gael i helpu i dalu costau.

“Ar ôl dechrau ymchwilio, sylweddolais y gallwn i gael tua £7,000 o grant tuag at fy nghostau byw bob blwyddyn. Heb yr arian hwn, allwn i ddim wedi gallu teithio ar fysiau i gampws Singleton y brifysgol gan nad oeddwn i’n gallu fforddio’r tocyn bws blynyddol. Hefyd, fyddwn i ddim wedi gallu fforddio’r holl werslyfrau a’r cyflenwadau astudio. Mae’r cymorth ariannol hwn wedi’i gwneud hi’n bosib i mi fynd i’r brifysgol.”

Roedd gwybod bod cymorth grant ar gael i dalu costau byw wedi helpu Sam i ddewis ei phrifysgol, ac er ei bod hi’n dal i fyw ar yr aelwyd, mae’n cofleidio profiadau prifysgol.
 

Paid â gadael i arian dy atal rhag mynd i brifysgol

Bydd israddedigion cymwys sy’n fyfyrwyr am y tro cyntaf (llawn-amser a rhan-amser) yn derbyn cymorth cynhwysfawr tuag at gostau byw bob dydd yn ystod y tymor, lle bynnag yn y DU y dewisant astudio