Neidio i'r prif gynnwy
Joshua o Gaerdydd

Cyllid myfyrwyr yn helpu myfyriwr israddedig yng Nghaerdydd i ddilyn ei ddiddordeb creadigol 

Cychwynnodd Joshua Sawyer, 18, o ardal Pentwyn, Caerdydd, ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd ym mis Medi eleni. Mae Josh ym mlwyddyn gyntaf ei gwrs gradd Drama a’r Cyfryngau, ac mae’n croesawu’r newidiadau i gymorth costau byw.   

Meddai Josh: 

“Roedd arian wastad yn peri pryder, yn enwedig os oeddwn i’n mynd i fyw oddi cartref. Penderfynais i fyw gartref ond, yn fuan ar ôl cychwyn yn y brifysgol, newidiais i fy meddwl. Roeddwn i eisiau cael rhywfaint o annibyniaeth a’r rhyddid sy’n dod law yn llaw â byw oddi cartref ac ysgwyddo cyfrifoldeb dros eich bywyd eich hun. 

“Rwy’n cael y grant mwyaf posibl tuag at fy nghostau byw. Fe welais y gallwn i fforddio llety prifysgol, felly gwnes i gais am le mewn neuadd breswyl ac roeddwn i’n ddigon ffodus i gael fy nerbyn. Symudais i mewn tua diwedd mis Tachwedd.

“Rwy’n gweithio’n rhan-amser hefyd. Rwy’n gynorthwyydd gwerthu yn John Lewis, rhywbeth yr oeddwn yn ei wneud i mi gychwyn yn y brifysgol.

“Roedd arian yn destun pryder pan oeddwn i’n meddwl am fynd i’r brifysgol, ond fe drafodais i’r peth gyda fy mentor yn yr ysgol a dywedodd hi na ddylwn i adael i hynny fy rhwystro i. Ydy, mae’n costio arian, ond fe ddywedodd hi wrtha i am feddwl am y peth gan ei fod yn werth chweil yn y pen draw gan fod gradd yn gallu cynnig mwy o gyfleoedd i chi.”


Mae Josh, sy’n gyn-ddisgybl o Ysgol Gyfun yr Eglwys yng Nghymru Teilo Sant yn Llanedeyrn, Caerdydd, yn cofio gwers a gafodd ar reoli arian yn yr ysgol. 

Meddai: 

“Fe gawson ni un wers ar gyllidebu sylfaenol yn y chweched dosbarth, hanner ffordd trwy Flwyddyn 12. Roedd hyn yn rhan o ddiwrnod UCAS, lle edrychon ni ar greu cyfrif UCAS, beth i edrych amdano mewn prifysgol a siarad am gyllid myfyrwyr.

“Fy nghyngor i eraill sy’n pwyso a mesur y gost o fynd i’r brifysgol yw mai cyllidebu yw’r peth pwysig.”


 

Paid â gadael i arian dy atal rhag mynd i Brifysgol

O fis Medi 2018 bydd israddedigion cymwys sy’n fyfyrwyr am y tro cyntaf (llawn-amser a rhan-amser) yn derbyn cymorth cynhwysfawr tuag at gostau byw bob dydd yn ystod y tymor, lle bynnag yn y DU y dewisant astudio