Neidio i'r prif gynnwy
Elen from Pembrokeshire

‘Rwyf wedi dysgu llawer am gyllidebu’: Cyllid myfyrwyr yn helpu myfyriwr israddedig yn Aberystwyth i drafod materion ariannol  

Mae Elen Roach, sy’n gyn-ddisgybl o Ysgol y Preseli yng Nghrymych, Sir Benfro, ym mlwyddyn gyntaf ei chwrs gradd Cymraeg Proffesiynol ym Mhrifysgol Aberystwyth. Mae’r siaradwr Cymraeg iaith gyntaf yn croesawu cyflwyno’r grantiau i helpu gyda chostau byw ac yn dweud bod y gost o fynd i’r brifysgol wedi ei hannog hi a’i ffrindiau i siarad am arian.

Meddai Elen:

“Roeddwn i’n gwybod fy mod i eisiau mynd i’r brifysgol ac, er bod y costau’n uchel, doeddwn i ddim yn mynd i newid fy meddwl. Rwy’n credu bod y newid yn y cymorth ariannol yn wych gan ei fod yn helpu pobl nad oedden nhw wedi ystyried mynd i’r brifysgol o’r blaen o reidrwydd i’w weld e fel opsiwn nawr. 

“Mae un o’m ffrindiau wedi mynd i’r brifysgol yng Nghaerdydd, ond roedd arian yn peri pryder mawr iddi hi a’i theulu. Felly, wrth geisio penderfynu a ddylai hi fynd ai peidio, cafodd y dull newydd hwn o gynnig grantiau ddylanwad mawr ar ei phenderfyniad. 

“Mae fy ffrind yn derbyn y grant mwyaf posibl. Rwyf i mewn sefyllfa lle rwy’n cael y grant lleiaf, sef £1,000 y flwyddyn. Mae hyn yn ymddangos yn deg i mi oherwydd, os byddwn i angen help ariannol, byddwn i’n gallu ffonio fy rhieni, ond nid yw pawb mewn sefyllfa i wneud hynny. 

“Rwy’n credu ei bod hi’n deg bod pawb yn cael grant, beth bynnag fo sefyllfa ariannol y teulu. Roeddwn i’n benderfynol o fynd i’r brifysgol, ond mae’n rhaid i chi ystyried y gost. Fodd bynnag, ar gyfer y math o swydd yr hoffwn i ei chael, mae bod â gradd yn helpu – felly dyna oedd yr unig ystyriaeth i mi. 


 

Paid â gadael i arian dy atal rhag mynd i Brifysgol

O fis Medi 2018 bydd israddedigion cymwys sy’n fyfyrwyr am y tro cyntaf (llawn-amser a rhan-amser) yn derbyn cymorth cynhwysfawr tuag at gostau byw bob dydd yn ystod y tymor, lle bynnag yn y DU y dewisant astudio