Neidio i'r prif gynnwy

Mae Academi Seren yn fenter a ariennir yn llawn gan Lywodraeth Cymru sy'n ymroddedig i gefnogi dysgwyr mwyaf galluog Cymru sy'n cael eu haddysgu gan y wladwriaeth i gyflawni eu potensial academaidd llawn i brifysgolion blaenllaw a llwyddo ar raglenni gradd dethol iawn.

Mae’n fenter gydweithredol rhwng Llywodraeth Cymru, ysgolion, colegau, prifysgolion blaenllaw, myfyrwyr graddedig Seren, awdurdodau lleol a sefydliadau trydydd sector i ddarparu llu o weithgareddau cenedlaethol a rhanbarthol.

Mae Academi Seren yn rhaglen a ariennir yn llawn sydd ar gael i fyfyrwyr Blwyddyn 8 i 13 o ysgolion y wladwriaeth a cholegau addysg bellach ledled Cymru, waeth beth fo’u cefndir economaidd, eu sefyllfa bersonol neu leoliad.

Mae Academi Seren bellach yn gweithredu fel un rhaglen barhaus sy'n cefnogi dysgwyr drwy dri cham. Ar draws pob cam, darperir cyfleoedd i ddysgwyr ddatblygu eu profiadau uwchgwricwlaidd a gwthio ffiniau eu datblygiad a’u hymgysylltiad academaidd.

Cam 01 (Blynyddoedd 8 i 9)

Helpu dysgwyr i ddysgu beth yw eu diddordeb a gwneud y dewisiadau cywir ar gyfer eu hunain, cyflwyno beth all eu taith addysgol fod a’u cefnogi i ddechrau ymgymryd â gweithgareddau uwchgwricwlaidd.

Cam 02 (Blynyddoedd 10 i 11)

Darparu cyfleoedd ar gyfer gweithgareddau a chystadlaethau uwchgwricwlaidd, sesiynau i flasu bywyd yn y brifysgol ac arweiniad ar gyfer y cam nesaf ar eu taith addysgol.

Cam 03 (Blynyddoedd 12 i 13)

Darparu cefnogaeth benodol ar gyfer cael lle mewn prifysgolion blaenllaw gyda chyfleoedd unigryw i ddysgwyr gael cyngor uniongyrchol gan diwtoriaid derbyn prifysgolion ar sut i wneud cais, datblygu datganiadau personol cystadleuol a pharatoi ar gyfer profion derbyn a chyfweliadau.

Rhaglen genedlaethol Seren

Drwy ddarparu profiadau astudio allgyrsiol a gweithgareddau cyfoethogi uwchgwricwlaidd sy’n gwella ac yn mynd y tu hwnt i’r cwricwlwm, mae Academi Seren yn cefnogi dyheadau ac uchelgeisiau’r dysgwyr mwyaf galluog, gan helpu i ehangu eu gorwelion, datblygu brwdfrydedd am eu maes astudio dewisol, a chyflawni eu potensial academaidd.

Gan gydweithio a phrifysgolion blaenllaw a phartneriaid addysg, mae’r cymorth yn cynnwys dosbarthiadau meistr mewn pynciau penodol i ymestyn a herio, gweithdai, sesiynau tiwtorial, canllawiau astudio, cyngor ac arweiniad ar addysg uwch, a mentora.

Os hoffech gysylltu â thîm Academi Seren, anfonwch e-bost atom Seren@gov.wales.

Ymwelwch â ni ar y cyfryngau cymdeithasol