Neidio i'r prif gynnwy

Yn y canllaw hwn

3. Swyddogaeth teulu a ffrindiau

Hyd yn oed os byddwch wedi cofrestru penderfyniad, bydd eich teulu yn cael eu cynnwys bob tro mewn unrhyw sgwrs am roi organau. Eu swyddogaeth nhw yw cefnogi eich penderfyniad, a dyna pam ei bod mor bwysig i chi siarad â nhw am eich dewis.

Bydd modd iddynt ddweud wrth staff meddygol beth yw eich penderfyniad, hyd yn oed os nad ydych wedi cofrestru ar y Gofrestr Rhoddwyr Organau.

Os oes modd rhoi organau, bydd y gweithwyr gofal iechyd proffesiynol yn trafod y mater mewn ffordd sensitif â'ch teulu.

Bydd modd iddynt egluro os ydych wedi nodi penderfyniad ar y Gofrestr Rhoddwyr Organau. Os mai optio i mewn oedd y penderfyniad hwnnw, bydd eich teulu yn cael eu hannog i dderbyn eich penderfyniad. Weithiau mae teuluoedd yn penderfynu peidio caniatáu rhoi organau gan y gall fod yn destun anodd ei drafod ar y pryd, yn arbennig os nad ydynt yn ymwybodol o'ch penderfyniad.

Gallwch hefyd benodi cynrychiolydd a fydd yn gwneud penderfyniad am roi organau pan fyddwch yn marw.

Beth bynnag yw eich penderfyniad, siaradwch â'ch teulu a'ch ffrindiau fel bod modd iddynt anrhydeddu eich penderfyniad ar ôl eich marwolaeth.