Neidio i'r prif gynnwy

1. Trosolwg

Fel rhan o'r broses rhoi organau, caiff organau a meinweoedd iach eu trawsblannu o un person i berson arall. Mae dros 4,000 o bobl yn y DU yn derbyn organau a meinweoedd bob blwyddyn, gan gynnig cyfle iddynt gael bywyd newydd.

Mae tair gwahanol ffordd o roi, sef:

  • marwolaeth coesyn yr ymennydd - pan nad oes unrhyw arwydd o fywyd yng nghoesyn ymennydd person yn sgil anaf difrifol i'r ymennydd.
  • marwolaeth cylchred gwaed - pan fydd y galon a'r ysgyfaint yn peidio â gweithio ar ôl ataliad y galon, ac nad oes modd adfywio'r claf neu na ddylid gwneud hynny.
  • rhoddwyr byw - rhoi organ neu feinwe pan mae'r rhoddwr yn dal i fod yn fyw.

Gall yr organau a meinweoedd canlynol gael eu rhoi a'u trawsblannu:

  • aren
  • y Galon
  • afu/iau
  • ysgyfaint
  • pancreas
  • coluddyn bach
  • cornbilen
  • meinwe ac asgwrn

Chi sydd i benderfynu a hoffech roi eich organau neu meinwe ar ôl marw neu beidio.

Pan fyddwch wedi penderfynu, gallwch ddewis:

  • optio mewn - bydd hyn yn dangos eich bod chi wedi penderfynu bod yn rhoddwr organau
  • gwneud dim - bydd hyn yn dangos nad ydych chi'n gwrthwynebu bod yn rhoddwr organau a thybir eich bod chi wedi rhoi eich cydsyniad
  • optio allan - bydd hyn yn dangos eich bod chi wedi penderfynu peidio â bod yn rhoddwr organau

Gallwch gofrestru eich penderfyniad yn gyflym ac yn hawdd ar y Gofrestr Rhoddwyr Organau ar-lein neu dros y ffôn, a gallwch newid eich meddwl unrhyw bryd.

Beth bynnag yw eich penderfyniad, cofiwch siarad â'ch teulu a'ch ffrindiau am eich dewis er mwyn iddynt fedru anrhydeddu eich penderfyniad ar ôl eich marwolaeth.