Neidio i'r prif gynnwy

2. Sut mae rhoi gan rhoddwr byw yn gweithio

Gall unrhyw berson iach sy’n gwirfoddoli roi organ neu ran o organ.

Dydy oedran ddim yn broblem. Yn y DU llwyddodd pobl dros 80 oed i roi aren yn llwyddiannus.

Rhaid i unrhyw un sy’n gwirfoddoli i fod yn rhoddwr byw gael cyfres o brofion. Mae hyn er mwyn i’r tîm meddygol allu bod yn gwbl sicr eich bod yn iach ac yn addas i roi organau. Mae eich iechyd a’ch diogelwch yn hanfodol bwysig ac nid yw pawb yn addas, felly mae'n bosibl na fyddwch yn medru rhoi.

Mae iechyd y rhoddwr a pha mor addas yw’r organ i’r person sy’n aros am drawsblaniad yn bwysig tu hwnt.

Os byddwch yn gwirfoddoli, gallwch newid eich meddwl ar unrhyw adeg – hyd at y llawdriniaeth.