Neidio i'r prif gynnwy

Daeth yr ymgynghoriad i ben 8 Chwefror 2016.

Cyfnod ymgynghori:
14 Rhagfyr 2015 i 8 Chwefror 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Crynodeb o’r canlyniad

Gellir gweld canlyniad yr ymgynghoriad hwn ar wahân ar gov.uk (dolen allanol, Saesneg yn unig)

Ymgynghoriad gwreiddiol

Nod yr ymgynghoriad hwn yw ceisio barn ar y cynigion i ddisodli esemptiad T17. Mae hwnnw'n caniatáu i diwbiau fflworoleuadau sy'n wastraff ac sy'n cynnwys mercwri gael eu malu o dan drwydded pwrpasol.

Disgrifiad o'r ymgynghoriad

Mae’r ymgynghoriad hwn wedi’i anelu’n bennaf at bawb sy’n gweithredu cyfleusterau neu gyfarpar sy’n trin a thrafod lampiau sy’n cynnwys mercwri. Bydd o ddiddordeb i bob busnes ledled Cymru a Lloegr.  

Mae’r ymgynghoriad hwn wedi’i anelu at y canlynol (ond nid y rhain yn unig):

  • y rheini sy’n gweithredu cyfleusterau gwastraff trwyddedig a chyfleusterau sydd wedi’u hesemptio
  • awdurdodau lleol
  • y rheini sy’n cynhyrchu gwastraff
  • broceriaid a delwyr gwastraff
  • cludwyr gwastraff
  • sefydliadau proffesiynol a sefydliadau aelodaeth
  • busnesau ac
  • ymgynghorwyr a
  • chyrff elusennol/gwirfoddol.

Pwrpas yr ymgynghoriad oedd ceisio barn ar y cynigion i reoleiddio malwyr lampiau mercwri.