Neidio i'r prif gynnwy

Rheolaeth drwy Orfodaeth - Allwch chi weld yr arwyddion?

Beth yw rheolaeth drwy orfodaeth?

Rheolaeth drwy orfodaeth yw patrwm o ymddygiad lle mae'r person rydych chi'n gysylltiedig ag ef yn ymddwyn dro ar ôl tro mewn ffordd sy'n gwneud i chi deimlo eich bod yn cael eich rheoli, eich bod yn ddibynnol arno, eich bod wedi eich ynysu, yn cael eich bychanu neu eich bod yn byw mewn ofn.

Mae'r ymddygiadau isod yn enghreifftiau cyffredin o reolaeth drwy orfodaeth:

  • cael eich ynysu rhag gweld eich ffrindiau a'ch teulu
  • rheoli faint o arian sydd gennych a sut rydych chi'n ei wario
  • yn eich diraddio dro ar ôl tro, galw enwau maleisus arnoch chi neu ddweud eich bod yn dda i ddim
  • monitro'r hyn rydych chi'n ei wneud a'ch symudiadau
  • bygwth eich niweidio neu eich lladd chi neu eich plentyn
  • bygwth cyhoeddi gwybodaeth amdanoch chi neu eich reportio i'r heddlu neu'r awdurdodau
  • difrodi eich eiddo neu eich eiddo personol yn y tŷ
  • eich gorfodi i fod yn rhan o weithgarwch troseddol neu gam-drin plentyn
  • eich ynysu rhag eich ffynonellau cymorth

Mae rheolaeth drwy orfodaeth yn drosedd. Os ydych chi, aelod o’ch teulu neu ffrind yn dioddef rheolaeth drwy orfodaeth, gallwch ffonio llinell gymorth Byw Heb Ofn i gael cyngor am ddim, ar 0808 8010 800.

Adnabod yr arwyddion

Gall fod yn anodd adnabod ymddygiad sy'n rheoli o fewn y berthynas; yn achos y rhai sy'n profi'r ymddygiad hwnnw a'r teulu sy'n dystion iddo.

Gwyliwch ein ffilm am yr ymgyrch i weld enghreifftiau o ymddygiad sy'n rheoli:

Mae dioddefwyr yn disgrifio effaith rheolaeth drwy orfodaeth dros amser sy'n adeiladu'n raddol ac yn aml yn arwain at gam-drin corfforol dros gyfnod o amser. 

"Mae'n tyfu dros amser. Mae'n dechrau drwy eich rheoli'n raddol ac yna rydych chi'n cael eich tynnu i mewn yn ddyfnach o hyd. Mae'n anodd ei egluro. Dim ond wrth i chi gamu yn ôl ac allan o'r berthynas y byddwch chi'n meddwl pam wnes i adael i rywun arall wneud hyn i mi? Dwi'n berson hyderus; pam wnes i adael i rywun arall gymryd drosodd fy mywyd?"

Mae’n drosedd yng Nghymru a Lloegr i ymarfer rholaeth drwy orfodaeth dros rywun arall. Daeth yn drosedd benodol o dan Ddeddf Troseddu Difrifol 2015 a ddaeth i rym ar 29 Rhagfyr 2015. Os ydych chi neu rywun rydych yn ein adnabod mewn perygl, cysylltwch â’r heddlu.

Siaradwch â ni nawr

Os ydych chi newu rywun rydych yn ei adnabod yn dioddef rheolaeth drwy orfodaeth, gallwn ni roi cyngor i chi.

Cysylltwch â Byw Heb Ofn am ddim drwy ffonio, sgwrsio ar-lein neu e-bost.

Ymunwch â’r ymgyrch Rheolaeth Yw Hyn

  • Ymunwch â’r sgwrs ar y cyfryngau cymdeithasol gan ddefnyddio #RheolaethYwHyn
  • Lawrlwythwch ragor o wybodaeth, gan gynnwys fideos, posteri a delweddau i hyrwyddo’r ymgyrch.