Neidio i'r prif gynnwy

Yn y canllaw hwn

2. Pwy sy'n gymwys

Mae'r cynllun Rhentu i Berchnogi – Cymru bellach ar gau i’r landlordiaid sy'n cymryd rhan ac ni fydd unrhyw gynlluniau newydd yn cael eu hariannu.

Fodd bynnag, mae rhai cartrefi sydd i'w cynnig dan y cynllun Rhentu i Berchnogi –  Cymru yn dal i gael eu hadeiladu, ac felly gallent fod ar gael i ymgeiswyr newydd sy'n dymuno gwneud cais am gartref Rhentu i Berchnogi – Cymru. Cysylltwch â landlord sy’n cynnig cartrefi dan y cynllun yn eich ardal leol i gael rhagor o wybodaeth.

Cyfeiriwch at dudalen we cael cymorth i brynu cartref er mwyn cael gwybodaeth am gynlluniau eraill i helpu pobl i berchnogi cartref.

I fod yn gymwys ar gyfer cynllun Rhentu i Berchnogi – Cymru:

  • rhaid i incwm cyfunol eich aelwyd fod yn £60,000 neu lai y flwyddyn
  • rhaid ichi fod yn gweithio, sydd hefyd yn cynnwys bod yn hunangyflogedig
  • rhaid ichi beidio â bod yn gymwys ar gyfer budd-dal tai
  • rhaid ichi beidio â pherchen ar gartref unman arall yn y byd (oni bai bod gorchymyn llys yn eich gorfodi i gael eich cynnwys ar weithred yr eiddo lle bo'r plant yn preswylio)
  • rhaid ichi beidio â gallu fforddio prynu eiddo sy'n addas at ddibenion maint eich teulu ar y farchnad agored neu drwy unrhyw fenter arall i berchen ar gartref
  • rhaid ichi allu fforddio rhent yr eiddo a ddewiswyd gennych
  • rhaid ichi fod yn ddinesydd Prydeinig, dinesydd yn yr Undeb Ewropeaidd/Ardal Economaidd Ewropeaidd, neu ddinesydd sydd â chaniatâd amhenodol i aros
  • rhaid ichi rentu cartref cymwys gan landlord sy'n cynnig cartref dan y cynllun

Ansicr ai dyma'r cynllun ichi?

Defnyddiwch y chwiliwr er mwyn dod o hyd i'r cynlluniau y gallwch chi fod yn gymwys i fanteisio arnyn nhw.