Neidio i'r prif gynnwy

Yn y canllaw hwn

2. Pwy sy'n gymwys

I fod yn gymwys ar gyfer cynllun Rhanberchnogaeth – Cymru:

  • rhaid ichi fod yn prynu cyfran o gartref cymwys gan landlord sy'n cynnig cartref dan y cynllun
  • rhaid i incwm cyfunol eich aelwyd fod yn £60,000 neu lai y flwyddyn
  • rhaid ichi fod yn prynu cartref am y tro cyntaf; neu:
    • fod yn aelwyd sydd newydd ei sefydlu, er enghraifft, oherwydd i berthynas chwalu; neu
    • eich bod yn adleoli at ddibenion gwaith i ardal lle nad yw prisiau'r eiddo’n caniatáu ichi brynu cartref sy'n briodol ar gyfer maint eich teulu
  • rhaid ichi beidio â pherchen ar gartref arall, oni bai bod gorchymyn llys yn eich gorfodi i gael eich cynnwys ar weithred yr eiddo lle bo'r plant yn preswylio 
  • rhaid ichi beidio â gallu fforddio prynu eiddo sy'n addas at ddibenion maint eich teulu ar y farchnad agored
  • rhaid ichi beidio ag isosod unrhyw ran o'r cartref yr ydych yn ei brynu drwy'r cynllun
  • rhaid ichi gael yr arian i brynu'r gyfran leiaf sydd ar gael, pasio'r asesiad ariannol, a chael morgais

Ansicr ai dyma'r cynllun ichi?

Defnyddiwch y chwiliwr er mwyn dod o hyd i'r cynlluniau y gallwch chi fod yn gymwys i fanteisio arnyn nhw.