Rebecca Evans AC

Cyfrifoldebau'r Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd

Bywgraffiad

Cafodd Rebecca Evans ei hethol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru am y tro cyntaf ym mis Mai 2011 i gynrychioli rhanbarth Canolbarth a Gorllewin Cymru. Yn 2016, cafodd ei hethol yn Aelod Cynulliad ar gyfer etholaeth Gŵyr. 

Enillodd Rebecca radd mewn Hanes gan Brifysgol Leeds, a gradd MPhil mewn Astudiaethau Hanesyddol gan Goleg Sidney Sussex, Prifysgol Caergrawnt. Cyn iddi gael ei hethol, bu Rebecca yn gweithio yn y trydydd sector. 

Yn y Cynulliad Cenedlaethol, mae Rebecca wedi gwasanaethu ar Bwyllgor yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy a’r Grŵp Gorchwyl a Gorffen ar y Polisi Amaethyddol Cyffredin. Mae hi hefyd wedi gwasanaethu ar y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol a’r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg.
  
Ym mis Mehefin 2014, cafodd Rebecca ei phenodi’n Ddirprwy Weinidog Ffermio a Bwyd, ac ym mis Mai 2016 daeth yn Weinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol. Ym mis Tachwedd 2017, cafodd ei phenodi’n Weinidog Tai ac Adfywio, ac ym mis Rhagfyr 2018 ymunodd â’r Cabinet fel Gweinidog Cyllid a Threfnydd. 

Cyfrifoldebau

  • Trysorlys Cymru 
  • Awdurdod Cyllid Cymru
  • Rhoi cyfarwyddyd strategol a rheoli adnoddau Llywodraeth Cymru 
  • Polisi trethi 
  • Polisi trethi lleol, gan gynnwys y Dreth Gyngor, ardrethi annomestig, gostyngiadau’r dreth gyngor a noddi Asiantaeth y Swyddfa Brisio a’r Gwasanaeth Tribiwnlys Prisio
  • Monitro a rheoli'r gyllideb 
  • Buddsoddi Strategol 
  • Buddsoddi i Arbed
  • Cyfrifyddu ac archwilio ariannol
  • Monitro a rheoli'r gyllideb yn ystod y flwyddyn
  • Gwerth am arian ac effeithiolrwydd 
  • Gweithredu a datblygu'r setliad cyllid datganoledig a'r Datganiad Polisi Cyllido 
  • Y Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol a Gwerth Cymru 
  • Caffael, cynnal a gwaredu eiddo ac asedau eraill
  • Cyd-drefnu'r Ystadegau Gwladol a'r Cyfrifiad
  • Rheoli busnes Llywodraeth Cymru yn y Cynulliad yn unol â'r Rheolau Sefydlog
  • Darparu'r Datganiad Busnes wythnosol
  • Cynrychioli'r Llywodraeth ar y Pwyllgor Busnes
  • Cysylltu â phleidiau eraill ynghylch Rhaglen Ddeddfwriaethol y Llywodraeth (heblaw am Filiau unigol sy'n parhau’n gyfrifoldeb i’r Gweinidog perthnasol)
  • Polisi a Strategaeth Ddigidol Trawslywodraethol

Ysgrifennu at Rebecca Evans