Neidio i'r prif gynnwy

Trwy Ddeddf yr Amgylchedd 2016, cafodd Gweinidogion Cymru y pŵer i ddiddymu Pwyllgor Rheoli Perygl Llifogydd Cymru a sefydlu Pwyllgor newydd sef y Pwyllgor Llifogydd ac Erydu Arfordirol.

Mae’r Pwyllgor Llifogydd ac Erydu Arfordirol yn cynghori ar bob agwedd o waith rheoli perygl llifogydd ac erydu arfordirol yng Nghymru, ac yn cefnogi Gweinidogion Cymru a’r holl awdurdodau rheoli perygl Cymru.

Cefndir i’r pwyllgor

Trwy Ddeddf yr Amgylchedd 2016, cafodd Gweinidogion Cymru y pŵer i ddiddymu Pwyllgor Rheoli Perygl Llifogydd Cymru a sefydlu pwyllgor newydd sef y Pwyllgor Llifogydd ac Erydu Arfordirol.

Crëwyd Pwyllgor Llifogydd ac Erydu Arfordirol ar 14 Gorffennaf 2017.

Swyddogaeth y Pwyllgor

Mae'r Pwyllgor yn helpu cyfathrebu rhwng sector rheoli perygl llifogydd ac erydu arfordirol yng Nghymru a Gweinidogion Cymru. Mae cysylltiadau’r pwyllgor â'r holl sefydliadau perthnasol yn ei alluogi i brosesu data, gwybodaeth a ffeithiau a throi'r rhain yn gyngor effeithiol i Weinidogion Cymru.

Aelodaeth

Mae Martin Buckle yn Gadeirydd y Pwyllgor Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol. Mae'r 14 aelod arall yn cynrychioli nifer o sectorau a sefydliadau, gan gynnwys Cyfoeth Naturiol Cymru, prifysgolion, awdurdodau lleol, y diwydiant dŵr a busnesau sy'n meddu ar arbenigedd technegol. Mae'r aelodau presennol yn y swydd rhwng 1 Ebrill 2023 a 31 Mawrth 2026. Rhagor o wybodaeth am benodiadau cyhoeddus.

Aelodau'r pwyllgor
Enw Sefydliad Sector
Jeremy Parr Cyfoeth Naturiol Cymru Cyfoeth Naturiol Cymru
Darren Thomas Cyngor Sir Penfro Awdurdod Llifogydd Lleol Arweiniol – y De-orllewin
Geraint Edwards Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy Awdurdod Llifogydd Lleol Arweiniol – y Gogledd
Andrew Stone Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf Awdurdod Llifogydd Lleol Arweiniol – y De-ddwyrain
Jean-Francois Dulong Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru
Dominic Scott Dŵr Cymru Dŵr
Catherine Wilson Prifysgol Caerdydd Prifysgolion
Karen Potter Y Brifysgol Agored Prifysgolion
Paul Blackman Wallingford Hydro Sefydliadau
Mike Wellington WSP Consultancy Sefydliadau
Natalie Haines Mott McDonald Gweithiwr proffesiynol rheoli perygl llifogydd ac erydu arfordirol
Anne-Marie Moon JBA Consulting Gweithiwr proffesiynol rheoli perygl llifogydd ac erydu arfordirol
Paul Williams NFU Cymru Amaethyddiaeth
Robin Campbell Ove Arup and Partners Gweithiwr rheoli risg llifogydd ac erydu arfordirol