Neidio i'r prif gynnwy

Yn y canllaw hwn

2. Pwy sy'n gymwys

I fod yn gymwys ar gyfer cynllun Rhanberchnogaeth – Cymru:

  • rhaid ichi allu dangos i’r Landlord Cymdeithasol Cofrestredig/awdurdod lleol un nai nad yw’ch cartref yn ddigonol neu na allwch bellach fforddio byw yn eich cartref presennol
  • nid ydych yn gallu prynu cartref sy'n diwallu eich anghenion heb gymorth gan gynllun Prynu Cartref – Cymru
  • rhaid ichi fedru cael morgais i gynnwys eich cyfraniad chi a chynilion ar gyfer costau eraill sydd ynghlwm wrth brynu cartref
  • rhaid ichi fod yn gallu bodloni'r meini prawf penodol a osodwyd gan bob awdurdod lleol/Landlord Cymdeithasol Cofrestredig sy'n gweithredu'r cynllun
  • Gall ymgeiswyr fod yn derbyn Budd-dal Tai neu fod wedi derbyn Budd-dal Tai o fewn y 12 mis cyn gwneud cais, ond rhaid iddynt fodloni’r meini prawf eraill, ac asesiadau fforddiadwyedd y rhoddwr benthyciadau. Fodd bynnag, pan fydd ymgeiswyr yn berchen ar gartref, mae’n bosibl na fyddant yn gallu hawlio Budd-dal Tai – ond efallai y bydd cymorth ychwanegol ar gael drwy Gymorth ar gyfer Llog Morgais (SMI)(GOV.UK)

Ansicr ai dyma'r cynllun ichi?

Defnyddiwch y chwiliwr i ddod o hyd i'r cynlluniau y gallwch chi fanteisio arnyn nhw.