Neidio i'r prif gynnwy

1. Trosolwg

Mae cynllun Prynu Cartref – Cymru yn rhoi cymorth i aelwydydd drwy roi benthyciad ecwiti iddynt tuag at bris eiddo.

Mae'r cynllun yn helpu pobl na fyddai, fel arall, yn gallu fforddio prynu eiddo ac mae'n arbennig o fanteisiol i gymunedau mwy gwledig lle y gallai fod llai o gyfleoedd i brynu cartref.

Nid yw cynllun Prynu Cartref ar gael ym mhob ardal. Os yw'r cynllun ar gael, rhaid bodloni meini prawf lleol i fod yn gymwys.

Sut mae'n gweithio

O dan gynllun Prynu Cartref – Cymru:

  • bydd angen ichi, fel arfer, gyfrannu 70% o bris yr eiddo drwy ddefnyddio morgais a/neu gynilion personol
  • bydd angen ichi drefnu morgais gan roddwr benthyciadau sydd wedi'i gymeradwyo. 
  • bydd angen ichi wneud y taliadau y cytunwyd arnynt i'r benthyciwr morgeisi – ni fydd taliadau yn cael eu gwneud bob mis i'r gymdeithas dai
  • rhaid ichi ad-dalu'r benthyciad ecwiti pan fyddwch yn gwerthu'r cartref am ganran gwerth cyfatebol eich cartref pan fyddwch yn ei werthu
  • gallwch ddewis ad-dalu’r benthyciad cyn ichi werthu, ac os felly bydd yr hyn y byddwch chi’n ei ad-dalu'n seiliedig ar werth eich cartref bryd hynny 
Enghraifft ariannol
  Gwerth y cartref Eich cyfraniad (70%) Benthyciad ecwiti (30%)
Gwerth yr eiddo pan gaiff ei brynu £200,000 £140,000 £60,000
  Gwerth y cartref Eich cyfran (70%) Benthyciad ecwiti
i'w ad-dalu  (30%)

Cynnydd o 2% yng ngwerth
y cartref pan gaiff ei werthu

£204,000 £142,800 £61,200

Gostyngiad o 2% yng ngwerth
yr eiddo pan gaiff ei werthu

£196,000 £137,200 £58,800

Ansicr ai dyma'r cynllun ichi?

Defnyddiwch y chwiliwr er mwyn dod o hyd i'r cynlluniau y gallwch chi fanteisio arnyn nhw.