Neidio i'r prif gynnwy

Prentisiaid Llywodraeth Cymru

Pam gwneud prentisiaeth?

Fel prentis byddwch yn ennill cyflog wrth ichi dderbyn hyfforddiant. Mae'n ddewis da o ran gyrfa boed yn gadael ysgol neu goleg, yn dychwelyd i'r gweithle ar ôl cael teulu neu'n edrych am gyfleoedd newydd. Mae amrywiaeth eang o swyddi ar gael, ac mae swydd yn Llywodraeth Cymru yn cynnig cyfleoedd unigryw yng Nghymru.

Yn Llywodraeth Cymru, byddwch yn cael cefnogaeth a chymorth i ddatblygu eich sgiliau yn y gweithle. Bydd angen ichi hefyd neilltuo amser o’ch swydd arferol bob wythnos i astudio ar gyfer eich prentisiaeth. Byddwch yn aelod gwerthfawr o'r tîm o'r diwrnod cyntaf.

Pa brentisiaethau sydd ar gael?

Nid oes unrhyw gynlluniau prentisiaeth ar agor ar gyfer recriwtio ar hyn o bryd, fodd bynnag rydym fel arfer yn edrych i redeg tri chynllun ar wahân:

  • Prentisiaethau Digidol, Data a Thechnoleg
  • Prentisiaethau Busnes a Gweinyddu
  • Prentisiaethau Cyllid

Bydd angen ichi wneud cais ar gyfer pob cynllun y mae gennych ddiddordeb ynddo. Felly os oes gennych ddiddordeb yn y tri chynllun, bydd rhaid ichi wneud cais ar gyfer pob un o’r tri. Cofiwch fod y tri yn gyfleoedd gwahanol iawn i’w gilydd ac felly bydd y cwestiynau ar y ffurflen gais yn wahanol ar gyfer pob cynllun.

Pryd a sut?

Nid oes cynllun prentisiaeth yn fyw ar hyn o bryd, bydd y dudalen gwe hon yn cael ei diweddaru unwaith y bydd cynllun newydd wedi’i bostio. Os bydd unrhyw ymholiadau, cysylltwch â cynllunprentisiaeth@llyw.cymru.

Pwy sy'n cael gwneud cais?

Er mwyn gwneud cais rhaid ichi fodloni’r amodau canlynol:

  • fod yn 16 mlwydd oed, neu’n hyn, erbyn eich dydidad cychwyn
  • ni fyddwch mewn addysg amser llawn (gallwch gyflwyno cais tra rydych dal yn yr ysgol/coleg/prifysgol ond byddwch wedi gorffen eich astudiaethau erbyn dechrau'r brentisiaeth)
  • bydd angen ichi fodloni gofynion cenedligrwydd y Gwasanaeth Sifil a chydymffurfio â deddfwriaeth mewnfudo’r DU er mwyn gwneud cais.  

Beth yw’r manteision?

Faint fydd fy nghyflog?

Eich cyflog cychwynnol fydd £23,258 a byddwch hefyd yn gallu ymaelodi â Chynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil.

Faint o wyliau byddaf yn cael?

Byddwch yn cael 31 diwrnod o wyliau bob blwyddyn yn ogystal â 10 diwrnod o wyliau banc a braint.

Pa gymwysterau fedraf i eu hennill?

Os byddwch yn pasio eich prentisiaeth yn llwyddiannus byddwch yn cael NVQ (Cymhwyster Galwedigaethol Cenedlaethol) Lefel 3 yn y ddisgyblaeth berthnasol [Gweinyddiaeth a Busnes, AAT Cyfrifeg a Chyllid neu Meddalwedd TGCh, Gwe a Thelathrebu.

Pa mor hir yw'r brentisiaeth?

Bydd cytundeb hyfforddi dan brentisiaeth yn 18 mis o hyd.

Manteision eraill

Mae nifer o fanteision gwych i weithio i Lywodraeth Cymru, gan gynnwys:

  • Oriau gwaith hyblyg i'ch helpu i gael cydbwysedd da rhwng bywyd a gwaith, megis gweithio rhan-amser a gweithio’n hyblyg.
  • Cyfleoedd i gael hyfforddiant, gwneud cyrsiau ar-lein a thrafodaethau datblygiad personol rheolaidd.
  • Mae gennym dimau iechyd a diogelwch ac iechyd galwedigaethol penodedig i roi cymorth i staff.
  • Amrywiaeth o weithgareddau megis clybiau staff sy’n cynnwys côr, rhedeg ac ymwybyddiaeth ofalgar, dosbarthiadau lles, campfa yn ein swyddfa yng Nghaerdydd, cyfle i ddefnyddio beiciau, timau chwaraeon a grwpiau a dosbarthiadau ieithoedd.
  • Opsiynau anffurfiol ar gyfer gweithio gartref a chyfleusterau cyfarfodydd Teams.
  • Mentoriaid a grwpiau rhwydweithio cymdeithasol.

Pam Llywodraeth Cymru?

Mae Llywodraeth Cymru yn cyflogi dros 5,000 o staff ledled Cymru. Mae ein swyddi hefyd yn amrywiol dros ben, ac yn rhoi’r cyfle i chi weithio mewn meysydd fel iechyd, addysg, yr amgylchedd, chwaraeon, twristiaeth, digidol, cyllid a llawer mwy. 

Rydyn ni'n cynnig rhai o'r cyfleoedd gorau i brentisiaid yng Nghymru, a gallai hyn agor drysau ar gyfer eich gyrfa yn y dyfodol.

Fel prentis yn Llywodraeth Cymru gallwch weld yr holl bethau rydyn ni'n eu gwneud. Mae llawer o'r staff wedi'u lleoli yn y swyddfa neu yn y cartref tra bod rhai eraill allan yn yr awyr agored yn gweithio fel swyddog gorfodi morol, ceidwad castell, swyddog traffig, swyddog cyswllt fferm neu rywbeth arall yn llwyr. 

Cymerwch olwg ar ein llyfrgell fideo

Gwyliwch ein ‘Fideo Croeso’ i glywed gan ein Hysgrifennydd Parhaol, a chydweithwyr eraill ar draws y sefydliad, am yr hyn y gallwch ei ddisgwyl wrth weithio i Lywodraeth Cymru.

Gwyliwch ein fideos astudiaethau achos lle mae prentisiaid presennol a’u rheolwr yn siarad yn uniongyrchol am Gynllun Prentisiaeth Llywodraeth Cymru.

Dysgwch fwy am fanteision prentisiaethau gan Vaughan Gething, Gweinidog yr Economi.

Fideo croeso
Mwy o wybodaeth am fod yn brentis gyda Llywodraeth Cymru
Meleri
Meleri yn siarad am fuddion prentisiaethau Llywodraeth Cymru
Rebekah
Rebekah yn siarad am ei phrofiad o gynllun prentisiaethau Llywodraeth Cymru

Rhagor o wybodaeth

Pwy sy'n gymwys

I wneud cais, bydd angen ichi fodloni gofynion cenedligrwydd y Gwasanaeth Sifil. Rhaid ichi fod yn un o'r canlynol:

  • gwladolyn o’r DU
  • gwladolyn o un o wledydd y Gymanwlad sydd â hawl i weithio yn y DU
  • gwladolyn o Weriniaeth Iwerddon
  • gwladolyn o’r UE, yr AEE neu o’r Swistir sydd â statws preswylydd sefydlog neu gyn-sefydlog neu sy’n gwneud cais am naill statws neu’r llall erbyn dyddiad cau y cynllun Statws Preswylwyr Sefydlog i Ddinasyddion yr UE (EUSS)
  • gwladolyn perthnasol o’r UE, yr AEE, y Swistir neu Dwrci sy’n gweithio yn y Gwasanaeth Sifil
  • gwladolyn perthnasol o’r UE, AEE, y Swistir neu Dwrci sydd wedi ennill yr hawl i weithio yn y Gwasanaeth Sifil
  • aelodau penodol o deulu gwladolyn perthnasol o’r UE, yr AEE, y Swistir neu Dwrci

Mae eglurhad o'r gofynion cymhwystra i'w weld yn rheolau cenedligrwydd y Gwasanaeth Sifil

Rhaid ichi hefyd gydymffurfio â deddfwriaeth mewnfudo'r DU.

E-bostiwch ni i gael cyngor am y gofynion cenedligrwydd neu i weld os ydych yn meddu ar gymwysterau sy'n golygu nad oes modd ichi ymgeisio.

Cwblhau eich cais

Cyn cwblhau eich cais dylech wneud yn siŵr fod gennych y canlynol:

  • manylion 2 ganolwr (enw, rhif ffôn cyswllt a chyfeiriad e-bost). Gallech gynnwys eich cyflogwr presennol neu fwyaf diweddar, neu eich tiwtor yn yr ysgol/coleg/prifysgol fel un ohonynt os nad ydych wedi cael eich cyflogi o’r blaen.
  • enghreifftiau o sut i ddangos eich sgiliau a'ch profiad. Peidiwch â dweud beth yw eich sgiliau – eglurwch inni sut rydych wedi'u defnyddio, a rhowch enghreifftiau lle'r ydych wedi datblygu eich profiad
  • y  tystysgrifau ar gyfer y cymwysterau uchaf sydd gennych adeg ymgeisio - er nad ydym ni (Llywodraeth Cymru) yn gofyn am unrhyw gymwysterau gennych er mwyn i chi wneud cais am y cynllun hwn, bydd y darparwr hyfforddiant am weld tystiolaeth o unrhyw gymwysterau a allai fod gennych.

Beth sy'n digwydd ar ôl imi wneud cais?

Ar ôl i chi gyflwyno eich cais, gofynnir i chi lenwi ffurflen gan ALS, ein darparwr hyfforddiant i brentisiaid, i ddangos eich bod yn gymwys. Yna, cewch e-bost ar bob cam o’r broses recriwtio o’r cam sifftio hyd at y cyfweliad a chael cynnig swydd.

Ein hagwedd at gydraddoldeb

Mae Llywodraeth Cymru yn dymuno bod y cyflogwr gorau yng Nghymru. Mae ein Strategaeth Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant y Gweithlu 2021-26 yn amlinellu ein hymrwymiad i  gynyddu amrywiaeth yn ein gweithlu, drwy fynd i’r afael yn benodol â’r ffaith nad oes cynrychiolaeth ddigonol o bobl anabl, a phobl o gymunedau Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol ar bob lefel o’r sefydliad, na chynrychiolaeth ddigonol o fenywod mewn swyddi uchel. Rydym eisiau annog pobl o gymunedau amrywiol i wneud cais i fod yn brentis.

Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb, beth bynnag yw eu hoedran, statws priodasol a phartneriaeth sifil (o’r un rhyw neu o rywiau gwahanol), cyfeiriadedd rhywiol, rhyw, hil, crefydd neu gred, hunaniaeth o ran rhywedd neu fynegiant rhywedd, beichiogrwydd a mamolaeth, nam neu gyflwr iechyd, a pha un a ydynt yn niwrowahanol neu’n defnyddio BSL.  Rydym yn gweithio’n galed i greu amgylchedd cefnogol a chynhwysol lle gall pob aelod o staff dyfu a pherfformio hyd eithaf ei allu.

Rydym wedi ymrwymo i fod yn sefydliad gwrth-hiliol ac yn croesawu’n arbennig geisiadau gan grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol yn y Gwasanaeth Sifil yng Nghymru megis pobl o gefndiroedd Du neu Leiafrifoedd Ethnig a phobl anabl.

Rydym wedi mabwysiadu’r model cymdeithasol o anabledd sy’n cydnabod bod rhwystrau o fewn cymdeithas, mewn agweddau, yn sefydliadol yn ogystal â rhwystrau cyfathrebu sy’n anablu pobl sydd â nam neu gyflwr iechyd, sy’n niwrowahanol neu sy’n defnyddio Iaith Arwyddion Prydain. Rydym wedi ymrwymo i ddileu rhwystrau drwy wneud addasiadau i’r broses recriwtio ac i’r gweithlu er mwyn sicrhau bod pob staff, yn ddarpar staff neu’n staff newydd, yn gallu perfformio hyd eithaf eu gallu. Os hoffech drafod addasiadau ar gyfer unrhyw ran o’r broses recriwtio, neu os hoffech drafod sut y gallwn roi addasiadau ar waith yn y gweithle pe baech chi’n llwyddiannus, anfonwch e-bost at CynllunPrentisiaeth@llyw.cymru a bydd aelod o’r tîm yn cysylltu â chi.

Rydym yn gwarantu cyfweliad i unrhyw berson anabl y mae ei gais yn bodloni’r meini prawf gofynnol ar gyfer y cynllun. ‘Meini prawf gofynnol’ yw bod rhaid i chi ddarparu tystiolaeth ar bob cam o’r broses asesu cyn cyfweliad sy’n dangos eich bod yn bodloni’r gofynion yn y disgrifiad swydd yn gyffredinol. Rydym wedi ymrwymo i gyflogi a datblygu gyrfa pobl anabl.  Nod yr ymgyrch Prentisiaeth newydd hon yw annog mwy o bobl o gefndiroedd gwahanol i ymgeisio, gan sicrhau bod Llywodraeth Cymru yn cynrychioli'r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu. Mae nifer o bolisïau ac arferion gwaith yn eu lle sy'n cefnogi cydweithwyr a rheolwyr llinell i sicrhau bod amrywiaeth a chynhwysiant yn allweddol i'r hyn a wnawn a sut rydym yn cefnogi staff. Ar gyfer y Cynllun Prentisiaeth hwn, byddwn yn defnyddio dull recriwtio dienw yn ogystal â sicrhau bod ein paneli cyfweld yn cynnwys amrywiaeth o gydweithwyr.

Mae nifer o rwydweithiau amrywiaeth staff ar gael sydd â nifer o aelodau ac yn cynnwys cynlluniau cefnogi, a gallwch gael cyngor ac arweiniad drwy'r fforymau hyn, yn ogystal â mwynhau digwyddiadau rhwydweithio a gweithgareddau cymdeithasol.

Dyma’r rhwydweithiau:

  • Ymwybyddiaeth a Chymorth Anabledd
  • Rhwydwaith Staff Lleiafrifoedd Ethnig
  • Rhwydwaith PRISM (LGBT+)
  • Menywod Ynghyd

Yn y blynyddoedd diwethaf, rydym wedi ennill Statws Arweinydd Lefel 3 am fod yn gyflogwr Hyderus o ran Anabledd. Ym Mynegai Cydraddoldeb yn y Gweithle Stonewall ar gyfer 2019-20 roeddem yn 8fed ar draws y DU. Mae’r mynegai yn cefnogi gweithwyr Lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol a Thrawsrywiol. Rydym wedi cofrestru ar gyfer y Siarter Hil yn y Gwaith ac wedi'n cynnwys ar y rhestr o sefydliadau sydd wedi'u cydnabod yn gyflogwyr cynhwysol o ran hil. Rydym hefyd wedi ennill statws Aur gan y rhwydwaith cefnogaeth gynhwysol i staff yn Asiantau ac Adrannau'r Llywodraeth, yn cwmpasu pob agwedd ar ailbennu rhywedd, hunaniaeth o ran rhywedd, mynegiant rhywedd a Rhyngrywioldeb.

Rydym yn falch iawn o fod yn sefydliad y mae pobl yn dewis gweithio ynddo, eisiau gweithio ynddo, ac yn falch o weithio ynddo. O'r herwydd, rydym wedi gosod egwyddorion hawliau dynol, cydraddoldeb, tegwch, urddas a pharch wrth galon ein gwerthoedd.

Amrywiaeth – Ei fesur am ei fod yn bwysig

Rydym wedi ymrwymo i fod yn Gyflogwr Cyfle Cyfartal. Rydym eisiau sicrhau bod pob ymgeisydd yn cael ei drin yn deg ac yn cael ei benodi ar sail addasrwydd i’r swydd beth bynnag ei gefndir.

Rydym yn ymwybodol y byddai’n well gan rai beidio â llenwi ffurflenni amrywiaeth – efallai am fod ganddynt ofn i’r wybodaeth gael ei chamddefnyddio. Hoffem gadarnhau bod yr holl wybodaeth a ddaw i law yn cael ei chadw’n gyfrinachol, a’i defnyddio ar gyfer dibenion ystadegol YN UNIG. Ni fydd yn cael ei defnyddio i ddylanwadu ar benderfyniadau recriwtio.

Mae croeso ichi ofyn am gael copi o’n polisi amrywiaeth.

Lle Gwych i Weithio i Gyn-filwyr

Mae'r swydd wag hon yn rhan o'r fenter Lle Gwych i Weithio i Gyn-filwyr.

 

Apprentices logoEuropean Social Fund logo

 

 

 

Recruitment logos