Neidio i'r prif gynnwy

Mae’r canllawiau hyn yn adlewyrchu’r darpariaethau yn Rhan 2 a Rhan 5 o Ddeddf Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) 2017 (DTGT).

Cyhoeddwyd gyntaf:
13 Ebrill 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

DTGT/2000 Gwarediadau trethadwy

Mae'r Dreth Gwarediadau Tirlenwi yn cael ei chodi ar warediadau trethadwy. Gwarediad trethadwy yw deunydd a waredir fel gwastraff, drwy dirlenwi, yng Nghymru o 1 Ebrill 2018.

DTGT/2010 Diffiniad o warediad trethadwy

Gwaredu deunydd fel gwastraff

Gwaredir deunydd fel gwastraff os yw’r person sy’n gyfrifol am y gwarediad yn bwriadu bwrw’r deunydd o’r neilltu.

Mewn safle tirlenwi awdurdodedig, y person sy’n gyfrifol am y gwarediad yw gweithredwr y safle tirlenwi ar adeg y gwaredu (y person sy’n dal y drwydded amgylcheddol sy’n rhoi'r awdurdod i waredu mewn safleoedd tirlenwi ar y safle).

Os gwneir y gwarediad heb ganiatâd gweithredwr y safle tirlenwi,  yna’r  person sy’n gyfrifol am y gwarediad yw’r person sy’n gwneud y gwarediad.

Gellir dod i'r casgliad bod bwriad i fwrw deunydd o'r neilltu ar sail amgylchiadau ei waredu ac yn benodol ar sail y ffaith bod deunydd wedi’i ddodi mewn ardal ar y safle, fel man gwag, a ddefnyddir fel arfer ar gyfer gwarediadau tirlenwi.

Weithiau, mae gweithredwr safle tirlenwi’n parhau i wneud defnydd dros dro neu atodol o ddeunydd sydd wedi’i ddodi ar y safle neu’n cael budd ohono fel defnyddio nwy sy’n cael ei gynhyrchu wrth i’r deunydd bydru i gynhyrchu trydan. Yn y cyfryw achos, nid yw’n golygu o reidrwydd nad oedd y gweithredwr, wrth ddodi’r deunydd, yn bwriadu ei fwrw o'r neilltu. Gellir parhau i ddod i'r casgliad bod bwriad i fwrw'r deunydd o'r neilltu yn yr amgylchiadau hyn ac, fel rheol, bydd gwaredu'r deunydd mewn man gwarediadau tirlenwi yn warediad trethadwy.

Mewn safle heb ei awdurdodi, y person sy’n gyfrifol am y gwarediad yw'r person a wnaeth y gwarediad hwnnw.

Gwaredu deunydd drwy dirlenwi

Mae gwarediad yn cael ei wneud drwy dirlenwi pan fydd deunydd yn cael ei ddodi (pa un a oedd y deunydd mewn cynhwysydd neu beidio cyn cael ei ddodi):

  • ar wyneb y tir
  • ar strwythur sydd wedi’i osod ar wyneb y tir
  • neu o dan wyneb y tir fel mewn cloddfa neu ogof

Mae hyn yn cynnwys gwarediadau a wneir mewn safleoedd tirlenwi awdurdodedig (safleoedd sy’n gweithredu o dan drwydded amgylcheddol sy’n awdurdodi gwaredu gwastraff drwy dirlenwi) a gwarediadau a wneir mewn mannau eraill, lle mae angen trwydded amgylcheddol ar gyfer y gwarediad.

DTGT/2020 Rhestr o weithgareddau gwaredu safleoedd tirlenwi

Mae’r DTGT yn cynnwys rhestr o weithgareddau (yn adran 8(3)), sydd i'w trin fel gwarediadau trethadwy, pa un a fyddai'r gweithgarwch fel arall yn bodloni'r amodau ar gyfer gwarediad trethadwy ai peidio.

Ar gyfer y gweithgareddau hyn, does dim angen ystyried a oedd y person sy’n gyfrifol am y gwarediad yn bwriadu bwrw’r deunydd o'r neilltu.

Mae defnyddio deunydd yn y gweithgareddau safle tirlenwi penodedig canlynol ar safle tirlenwi awdurdodedig yn warediad trethadwy:

  • defnyddio deunydd i greu ffordd dros dro sy’n rhoi mynediad i fan gwarediadau tirlenwi neu i gynnal a chadw ffordd o’r fath
  • defnyddio deunydd i greu arwyneb solet dros dro neu i gynnal a chadw arwyneb o’r fath
  • defnyddio deunydd i greu bwnd cell neu i gynnal a chadw bwnd o’r fath
  • defnyddio deunydd (heblaw deunydd sy’n bodoli’n naturiol a echdynnir o’r safle) i greu bwnd sgrinio dros dro neu i gynnal a chadw bwnd o’r fath
  • defnyddio deunydd i orchuddio man gwarediadau tirlenwi yn ystod cyfnod pan fo gwarediadau tirlenwi yn peidio dros dro
  • gosod deunydd mewn man gwarediadau tirlenwi i ddarparu sylfaen ar gyfer unrhyw beth a ddefnyddir i leinio, i gapio neu i ddraenio’r man hwnnw, neu er mwyn atal difrod i unrhyw beth o’r fath
  • cadw deunydd mewn man nad yw at ddibenion gwaredu y tu hwnt i ddiwedd y cyfnod hwyaf a bennir yn yr hysbysiad sy’n dynodi’r man o dan adran 55, oni bai yr ymdrinnir â’r deunydd yn unol â chytundeb o dan adran 56(4)(a)
  • storio lludw er enghraifft, lludw sy’n codi a lludw gwaelod
  • defnyddio deunydd mewn gwaith adfer

Mae'r gwarediad i’w drin fel petai’n digwydd pan ddefnyddir y deunydd am y tro cyntaf mewn perthynas â gweithgarwch penodedig. Er enghraifft, byddai’r adeg y defnyddiwyd deunydd i greu ffordd dros dro yn cychwyn gwarediad trethadwy, a phetai rhagor o ddeunydd yn cael ei ddefnyddio wedi hynny i gynnal neu i atgyweirio’r ffordd, byddai’r deunydd hwnnw’n destun gwarediad trethadwy ar y dyddiad y cafodd ei ddefnyddio.

Ffyrdd parhaol a dros dro

Gall ffordd dros dro sy'n rhoi mynediad i fan gwarediadau tirlenwi fod â’r nodweddion canlynol: 

  • nid oes ganddynt nodweddion wedi’u peirianyddu (a allai gynnwys cyrbau, draeniau, arwyddion ffyrdd neu farciau eraill neu dirlunio)
  • byddant wedi cael eu hadeiladu gan ddefnyddio deunyddiau wedi'u malu neu eu hailddefnyddio gan gynnwys concrid a tharmac yn ogystal â gwastraff sych o gartrefi neu adeiladu
  • byddant yn cael eu hamlyncu i’r safle tirlenwi yn y pen draw
  • nid oes wyneb arnynt fel arfer

I’r gwrthwyneb, nid yw ffordd barhaol (p'un ai gerllaw neu yn y fynedfa i'r safle neu’n brif ffordd fynediad neu’n ffordd fynediad eilaidd) yn bodloni amodau gwarediad trethadwy ac mae'n bosibl iddi fod â’r nodweddion canlynol: 

  • mae ganddynt nodweddion wedi’u peirianyddu a allai gynnwys cyrbau, systemau draeniau, cwlferi, arwyddion ffyrdd neu farciau eraill neu dirlunio
  • bydd ganddynt arwyneb wedi'i balmantu a/neu wedi'i orffen a allai fod o goncrit neu darmac
  • maent yn fwy tebygol o fod wedi'u hadeiladu cyn dechrau'r gwaith tipio ar y safle
  • byddant yn annhebygol o gael eu hamlyncu i’r safle tirlenwi
  • mae’n rhaid iddynt gael eu cynnal a chadw