Neidio i'r prif gynnwy

Mae'r canllawiau hyn ar gyfer gweithredwyr safleoedd tirlenwi yn adlewyrchu darpariaethau yn Rhannau 3, 4 a 5 ac Atodlen 1 o Ddeddf Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) 2017 (DTGT).

Cyhoeddwyd gyntaf:
13 Ebrill 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae'r canllawiau hyn yn darparu:

  • trosolwg o sut y codir treth a'r tair cyfradd dreth (safonol, is ac anawdurdodedig)
  • gofynion ar gyfer gwarediadau lle y codir treth ar gyfradd is (deunyddiau cymwys neu gymysgeddau cymwys o ddeunyddiau: gronynnau mân)
  • gofynion ar gyfer profion colled wrth danio
  • gwybodaeth am gosbau a all fod yn berthnasol a'r rhai sy'n benodol i'r drefn brofi colled wrth danio

Mae cyfeiriadau at 'chi' neu 'eich' ar gyfer gweithredwr y safle tirlenwi. Mae 'ni' ac 'ein' yn cyfeirio at Awdurdod Cyllid Cymru (ACC).

Mae 'cymysgeddau o ronynnau mân' yn golygu cymysgedd o ddeunyddiau sy’n cynnwys dim byd ond gronynnau mân.

Dylai bob un o’r canllawiau yn yr adran hon gael eu darllen ar y cyd â'r ddogfen Cymysgeddau cymwys o ddeunyddiau: hysbysiad gronynnau mân ('hysbysiad gronynnau mân').

DTGT/4010 Cyfrifo’r dreth sy’n drethadwy

Cyfrifir Treth Gwarediadau Tirlenwi (TGT) ar sail pwysau'r deunydd a waredir. Cyfrifir swm y dreth sydd i'w chodi drwy luosi pwysau'r deunydd (mewn tunelli) â'r gyfradd dreth.

Caiff y cyfraddau a bandiau treth eu pennu gan Lywodraeth Cymru a'u cymeradwyo gan Senedd Cymru.

Trethir gwarediad trethadwy ar safle tirlenwi awdurdodedig ar y gyfradd safonol oni bai bod y deunydd sy'n cael ei waredu’n cynnwys un neu fwy o ddeunyddiau cymwys yn unig, neu'n gymysgedd cymwys o ddeunyddiau, ac os felly codir y gyfradd is.

Bydd gwarediad trethadwy a wneir mewn man heblaw safle tirlenwi awdurdodedig yn destun treth ar gyfradd gwarediadau anawdurdodedig. Mae’r amod hwn yn berthnasol waeth beth fo natur y deunydd a waredir a ph’un ai a fyddai fel arall yn ddarostyngedig i'r gyfradd safonol neu'r gyfradd is pe bai'n cael ei waredu ar safle tirlenwi awdurdodedig.

DTGT/4020 Deunydd cymwys

Codir y dreth am waredu deunydd cwbl gymwys ar safle tirlenwi awdurdodedig ar y gyfradd is os bodlonir y 3 amod canlynol:

Os yw'r deunydd yn cynnwys unrhyw ddeunydd arall nad yw wedi'i restru yn Atodlen 1 DTGT nid yw’n ddeunydd cymwys a dylech gyfeirio at DTGT/4030.

Rhaid i ddeunydd cwbl gymwys fod o un neu fwy o'r grwpiau canlynol:

  • creigiau a phridd naturiol
  • deunydd cerameg neu goncrit
  • mwynau wedi'u prosesu neu eu paratoi
  • slag ffwrnais
  • lludw
  • cyfansoddion anorganig actifedd isel
  • calsiwm sylffad (pan gaiff ei waredu ar safle sydd wedi'i awdurdodi i dderbyn gwastraff nad yw'n beryglus yn unig a phan gaiff ei waredu mewn cell nad yw'n cynnwys unrhyw wastraff bioddiraddadwy), a
  • chalsiwm hydrocsid a heli (pan gaiff ei waredu mewn ceudod heli)

Mae'n hanfodol eich bod yn darllen Atodlen 1 DTGT gan ei bod yn cynnwys rhagor o wybodaeth am yr hyn sydd wedi'i gynnwys ac nad yw wedi'i gynnwys yn y categorïau uchod.

I fod yn gymwys ar gyfer y gyfradd is, rhaid cael disgrifiad ysgrifenedig o'r deunydd sy'n bodloni gofynion adran 34 o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990 (DDA) pan fo nodyn trosglwyddo gwastraff yn ofynnol gan y ddarpariaeth honno. Rhaid i’r nodyn trosglwyddo gwastraff, a elwir hefyd yn nodyn Dyletswydd Gofal, gynnwys yr wybodaeth sy'n dangos bod gofynion Atodlen 1 wedi’u bodloni. 

Sylwer nad yw cyfeiriadau at ddisgrifiadau a chodau dosbarthu gwastraff yn unig yn ddigon i gefnogi hawliad i'r gyfradd is.

Enghraifft 1

Ni fyddai disgrifiad o '17 05 04 – Priddoedd' ar nodyn trosglwyddo gwastraff yn ddigonol i gadarnhau bod y deunydd yn gymwys ar gyfer cyfradd is ar ei ben ei hun.

Yn y rhan fwyaf o achosion, bydd ble neu sut y deilliodd y gwastraff a manylion unrhyw gyn-driniaeth neu brosesau sydd digwydd i'r deunydd hefyd yn berthnasol.

Enghraifft 2

Mae '17 05 04 – Is-bridd naturiol o safle x', yn debygol o gynnwys digon o wybodaeth er mwyn penderfynu bod y deunydd yn debygol o fod yn gymwys ar gyfer y gyfradd is, ar yr amod ei fod yn pasio gwiriadau eraill cyn ei dderbyn, megis archwiliad gweledol pan ddaw i law ar y safle.

Yn ogystal, disgwylir i ddisgrifiadau ysgrifenedig fodloni gofynion Cod Ymarfer y Ddyletswydd Gofal Gwastraff a'r gofynion penodol ar gyfer tirlenwi ym mharagraff 4.4.

Fodd bynnag, nodwch nad yw gofynion y Dreth Gwarediadau Tirlenwi’n disodli eich rhwymedigaethau mewn perthynas â'r disgrifiad ysgrifenedig o dan gyfraith yr amgylchedd. 

Os nad oes angen disgrifiad ysgrifenedig o dan adran 34 DDA, bydd angen tystiolaeth arall arnom i ddangos bod y deunydd yn bodloni'r gofynion perthnasol.

Er enghraifft, gallai hyn gynnwys gwybodaeth o:

  • fanylion y ffynhonnell a sut y deilliodd y gwastraff
  • adroddiadau ymchwilio safle
  • manylion unrhyw gyn-driniaeth, megis cylchdroi mewn gogr (tromelling) neu sgrinio
  • manylion unrhyw broses wahanu yn y ffynhonnell, er enghraifft gweithdrefn y cynhyrchydd gwastraff
  • canlyniadau unrhyw brofion gwastraff, fel Meini Prawf Derbyn Gwastraff (WAC) 
  • ffotograffau o wastraff ar y safle, yn y fan ble y deilliodd a/neu wrth ei waredu

DTGT/4030 Cymysgeddau cymwys o ddeunyddiau

Mae'r gyfradd is yn berthnasol i waredu cymysgedd cymwys o ddeunyddiau. Er mwyn i ddeunydd gwastraff gael ei ystyried yn gymysgedd cymwys o ddeunyddiau, rhaid iddo fodloni'r gofynion isod.

Gofynion

  • Mae'r deunyddiau sy'n ffurfio'r cymysgedd yn ddeunyddiau cymwys sy'n bodloni'r gofynion uchod yn DTGT/4020 a dim mwy na swm bach o ddeunydd nad yw'n gymwys. Mae hyn yn golygu:
    • y dylai swm a phwysau'r deunydd nad yw'n gymwys yn y cymysgedd fod yn fach ac felly’n ddibwys
    • y dylai ei effaith ar natur a chyfansoddiad y llwyth fod yn fach iawn, ac
    • y dylai ei bresenoldeb fod yn ddamweiniol ac yn anochel, yn hytrach nag yn halogiad bwriadol
    • ni ddylid cymysgu deunydd nad yw’n gymwys â deunydd cymwys, ar ôl neu mewn cysylltiad â'i symud o safle gwreiddiol y deunyddiau
       
  • Os oes angen disgrifiad ysgrifenedig o'r cymysgedd o dan adran 34 o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990, mae'r disgrifiad yn ddigonol i benderfynu a yw'r deunyddiau sy'n ffurfio'r cymysgedd yn ddeunyddiau cymwys a swm bach a damweiniol o ddeunydd nad yw'n gymwys. Os nad oes angen disgrifiad ysgrifenedig o dan adran 34, rhaid cael digon o dystiolaeth arall i ddangos hyn.
     
  • Rhaid peidio â chymysgu ffrydiau gwastraff cymwys a gwastraff nad yw’n gymwys yn fwriadol at ddibenion gwaredu. Yn y cyd-destun hwn, bydd yn bwysig i chi ddangos y camau y mae'r prosesydd gwastraff yn eu cymryd i wahanu ffrydiau gwastraff cymwys a rhai nad ydynt yn gymwys a'u storio ar wahân. Mae'n arfer da i chi ymgyfarwyddo â'r prosesau hyn, er enghraifft, drwy gynnal archwiliadau rheolaidd ar y safle a dogfennu'r camau a gymerir i wahanu ffrydiau gwastraff.
     
  • Ni ddylai'r cymysgedd fod yn wastraff peryglus o fewn ystyr y Gyfarwyddeb Gwastraff Ewropeaidd. Asesir hyn yn erbyn Canllawiau technegol dosbarthu gwastraff WM3, y mae'n rhaid i chi gydymffurfio â hwy eisoes. Os yw'r asesiad yn dangos bod y gwastraff yn beryglus o fewn ystyr Cyfarwyddeb Gwastraff Ewrop codir treth am y llwyth hwnnw ar y gyfradd safonol. Dylech adolygu tystiolaeth o ddosbarthiad nad yw'n beryglus a bod yn fodlon ei fod yn ymddangos yn asesiad gwir a chywir. Dylech gadw copi o'r dystiolaeth hon.
     
  • Ni ddylai trefniant osgoi treth fodoli mewn perthynas â'r cymysgedd.
     
  • Os yw'r cymysgedd wedi’i ffurfio’n llwyr o ronynnau mân (fel y'u diffinnir yn DTGT/4040), rhaid bodloni'r holl ofynion yn adran 17 DTGT hefyd er mwyn iddo fod yn gymwys ar gyfer y gyfradd dreth is.

Er enghraifft, byddem fel arfer yn derbyn y canlynol fel cymysgeddau cymwys o ddeunyddiau:

  1. llwyth o frics, cerrig a choncrit o ddymchwel adeilad sydd â darnau bach o bren ynddo ac ychydig bach o blastr ynghlwm wrth y brics am na fyddai wedi bod yn bosibl i gontractwr eu gwahanu
  2. llwyth o isbridd a cherrig o waith ffordd sy'n cynnwys ychydig o darmac
  3. llwyth o isbridd sy'n cynnwys ychydig bach o laswellt
  4. gwastraff fel llwch mwynau, wedi'i becynnu mewn bagiau polythen ar gyfer ei waredu

Ar gyfer a, b ac c byddai unrhyw ddarnau mawr o bren, plastr, tarmac neu dywarch y gellid bod wedi’u tynnu o’r llwyth â llaw neu drwy ddulliau eraill yn gwneud y llwyth cyfan yn drethadwy ar y gyfradd safonol.

DTGT/4040 Cymysgeddau cymwys o ddeunyddiau: gronynnau mân a phrawf colled wrth danio

Mae 'cymysgeddau o ronynnau mân' yn cynnwys gronynnau a gynhyrchir gan broses trin gwastraff sy'n cynnwys elfen o driniaeth fecanyddol. Mae hynny’n golygu unrhyw un o'r prosesau canlynol a wneir gan beiriant:

  • malu
  • sgrinio
  • graddio
  • golchi
  • gwasg-hidlo

Gallai peiriant gynnwys:

  • peiriant malu
  • peiriant sgrinio
  • gogr tro
  • bwced gogr
  • cloddiwr
  • peiriant golchi
  • unrhyw offer sefydlog neu symudol arall

Bydd y gyfradd is ond yn berthnasol i gymysgedd cymwys o ddeunydd sy'n cynnwys dim byd ond gronynnau mân lle y bodlonir nifer o ofynion, yn ogystal â'r gofynion yn DTGT/4020 a DTGT/4030.

Rhaid i chi allu cyfiawnhau cymhwyso'r gyfradd is i gymysgeddau o ronynnau mân a waredir ar eich safle tirlenwi.

Gofynion

Mae’n rhaid i chi gydymffurfio â'r gofynion a nodir yn:

  • rheoliadau 4 a 5 o Reoliadau Treth Gwarediadau Tirlenwi (Gweinyddu) (Cymru) 2018
  • hysbysiad Cymysgeddau cymwys o ddeunyddiau: hysbysiad gronynnau mân ('hysbysiad gronynnau mân'), ac sydd wedi’i gyhoeddi dan adran 17(5) DTGT (dylech ddarllen yr hysbysiad ochr yn ochr â'r canllawiau hyn)

Os na fodlonir yr holl ofynion ar gyfer cymysgeddau cymwys a chymysgeddau o ddeunyddiau: gronynnau mân ac nad oes tystiolaeth foddhaol yn dangos yr uchod, ni ellir ystyried y 'cymysgedd o ronynnau mân' ar gyfer y gyfradd dreth is a dylid cymhwyso'r gyfradd safonol.

DTGT/4050 Cam 1: Gofynion cyn derbyn

Gofynion cyn-derbyn

Archwiliadau gweledol

Wrth dderbyn cymysgeddau o ronynnau mân ar eich safle tirlenwi, rydych yn gyfrifol am eu harchwilio cyn eu derbyn. Dylai'r archwiliad hwn sicrhau bod y disgrifiad ysgrifenedig yn cyfateb yn gywir â'r llwyth o ddeunydd a ddanfonwyd i'r safle yn ei gyfanrwydd.

Pan fydd cwsmer newydd sydd o bosibl yn dymuno dodi cymysgeddau o ronynnau mân ar eich safle tirlenwi yn cysylltu â chi, y dull gorau fyddai i chi ymweld â safle'r cynhyrchydd gwastraff. Byddai hyn yn rhoi sicrwydd i chi ynglŷn â’r prosesau sy’n cael eu defnyddio i gynhyrchu'r cymysgeddau o ronynnau mân.

Gallech hefyd ofyn i'r cynhyrchydd gwastraff dynnu ffotograffau o'r gwastraff a sicrhau bod y rhain ar gael i staff y bont bwyso fel eu bod yn gallu cymharu cymysgeddau o ronynnau mân sy'n dod i mewn.

Mae Adran 2.1 o'r 'hysbysiad gronynnau mân' yn gofyn am wiriad gweledol o'r gymysgedd o ronynnau mân. Gellir gwneud hyn mewn sawl ffordd.

Enghraifft 1

Pan fydd y llwyth ar y bont bwyso, gellir defnyddio camerâu uwchben i edrych i lawr ar y cymysgeddau o ronynnau mân a thynnu lluniau, gan ddarparu tystiolaeth ffotograffig i’w ddefnyddio yn y dyfodol.

Enghraifft 2

Pan gaiff y llwyth ei ddodi ar y safle tirlenwi, gallai'r unigolyn sy’n gyfrifol am lwythi sy’n cael eu dodi archwilio'r cymysgeddau o ronynnau mân wrth iddynt gael eu tipio er mwyn sicrhau cysondeb â'r disgrifiad o’r gwastraff, ac o bosibl dynnu ffotograffau fel tystiolaeth a gweithredu os sylwir ar unrhyw afreoleidd-dra.

Dylech gadw llwybr archwilio i ddangos bod y cymysgedd o ronynnau mân wedi'i archwilio. Dylai hyn gael ei ategu gan y disgrifiad manwl o'r gwastraff a roddwyd yn yr holiadur cyn-derbyn a'r nodyn Dyletswydd Gofal.

Holiadur cyn derbyn

Mae Adran 2.2 o'r 'hysbysiad gronynnau mân' yn ei gwneud yn ofynnol i holiadur cyn-derbyn gael ei gwblhau ar gyfer pob cymysgedd o ronynnau mân a gynhyrchir gan gynhyrchydd gwastraff cyn y gellir derbyn y llwyth cyntaf ar safle tirlenwi. Dylech bob amser gadw’r wybodaeth hon yn gyfredol a'i hadolygu'n rheolaidd.

Ni fydd angen cyflwyno'r holiaduron cyn-derbyn i ni fel mater o drefn, ond bydd disgwyl i chi eu cadw yn eich cofnodion. Fodd bynnag, gallwn ofyn am weld y cofnodion hyn, er enghraifft, pan fyddwch yn gofyn am ychwanegu cwsmer at y ffurflen dreth neu fel rhan o wiriadau cydymffurfio gan y byddant yn rhan o dystiolaeth y gyfradd dreth a gymhwysir gennych. Pam fyddwn yn gofyn am y cofnodion hyn, mae’n rhaid i chi eu darparu.

I ofyn am dempled holiadur cyn-derbyn, cysylltwch â'ch rheolwr cysylltiadau cwsmeriaid neu e-bostiwch posttgt@acc.llyw.cymru

Os ydych yn gweithredu ar draws sawl safle, byddwch yn gyfrifol am benderfynu sut y bydd y wybodaeth hon ar gael ym mhob safle.

Dylech ei gwneud yn ofynnol i gynhyrchwyr gwastraff roi gwybod i chi am unrhyw newidiadau a allai effeithio ar yr atebolrwydd treth.

Os yw'r cynhyrchydd gwastraff yn cael gwared ar fwy nag un ffrwd wastraff cymysgedd o ronynnau mân, rhaid i chi gael gwybodaeth a chwblhau holiadur ar gyfer pob un.

Os nad oes holiadur boddhaol (neu wybodaeth amgen) ar gael, bydd pob cymysgedd o ffrwd wastraff gronynnau mân a waredir yn ddarostyngedig i gyfradd TGT safonol.

Enghreifftiau o adegau y byddai angen diweddaru/adolygu holiadur cyn-derbyn

  • Lle mae arwyddion bod y ffrwd wastraff wedi newid, er enghraifft, gwiriadau gweledol neu brofion yn dangos bod deunydd gwahanol yn bresennol.
  • Mae'r gweithredwr wedi tynnu sylw at newid yn y deunydd neu'r broses.
  • Os oedd symiau’r gwarediadau’n fwy na'r disgwyl.
  • Pan fyddai angen i chi gyflwyno canlyniad o brawf colled wrth danio a fethwyd i ni.
  • Lle canfuwyd bod y cymysgeddau o ronynnau mân yn beryglus.

Enghraifft o sefyllfa lle byddai rhywun heblaw gweithredwr y safle tirlenwi yn awdurdodi holiadur cyn-derbyn wedi'i gwblhau

  • Gall tîm cydymffurfio gwastraff canolog awdurdodi eich holiaduron cyn-derbyn. Mae hyn yn bosibl pan fydd y wybodaeth ar gael ar system gweithredwyr safleoedd tirlenwi, yn rhoi gwybod i bob safle am y ffrwd wastraff newydd neu newid mewn holiadur cyn-derbyn sy'n bodoli eisoes. Yna byddai disgwyl i'r safle gydymffurfio â'r holl wiriadau cyn-derbyn eraill.
  • Gall fod achosion lle mae grŵp corfforaethol wedi'i sefydlu at ddibenion y dreth. Gallai awdurdodi holiaduron cyn-derbyn fod yn gyfrifoldeb aelod cynrychioliadol, ar ran y grŵp.

Gwiriadau cyn derbyn eraill

Eich cyfrifoldeb chi yw eich bodloni eich hun bod y cymysgedd yn bodloni'r gofynion yn y ddeddfwriaeth (fel y nodir yn DTGT/4030) cyn y gellir ei drin fel cymysgedd cymwys o ddeunyddiau. Archwiliadau gweledol a holiaduron cyn-derbyn yw lleiafswm y gwiriadau y dylech eu cynnal.

Mewn rhai achosion, bydd yn briodol gwneud mwy o ddiwydrwydd dyladwy er mwyn cadarnhau natur y ffrwd wastraff, megis:

  • ymweld â safle eich cwsmer
  • dadansoddiad cyn-derbyn

Efallai y byddwch yn cael gwybod am wybodaeth arall sy'n berthnasol o ran a yw'r cymysgedd yn gymwys at ddibenion TGT. Dylech ystyried yr holl wybodaeth berthnasol.

DTGT/4060 Cam 2: Colled wrth danio – gofynion cysylltiedig

Amlder profion: profion cynnar, hwyr neu brofion a gollwyd

Rydym yn disgwyl i chi fabwysiadu'r un gwaith paratoi samplau a methodoleg a ddefnyddir ers cyflwyno'r prawf colled wrth danio ym mis Ebrill 2015. Nodir hyn yn adran 3 o'r hysbysiad gronynnau mân, sy'n rhoi gwybodaeth a chyfarwyddyd o ran pryd i wneud y prawf cyntaf a'r profion dilynol.

Fel rhan o fodloni'r gofynion ynghylch gwaredu cymysgeddau o ronynnau mân, efallai y byddwch hefyd am wneud:

  • profion ar hap
  • profion ar adegau neu amseroedd rheolaidd
  • gwiriadau ar hap ychwanegol.

Os byddwch yn cynnal prawf colled wrth danio ar ôl y cyfnodau penodedig a nodir yn yr hysbysiad gronynnau mân, mae hwn yn brawf a gollwyd ac yn brawf hwyr. Dylai'r prawf colled wrth danio cyntaf ar gyfer cymysgedd newydd o ronynnau mân fod (pa un bynnag sydd gyntaf):

  • cyn i 500 tunnell gael ei gludo i’r safle tirlenwi, neu
  • o fewn 1 mis

Mae profion dilynol yn (pa un bynnag sydd gyntaf):

  • 1 am bob 1,000 tunnell sy'n cael eu cludo i’r safle tirlenwi, neu
  • bob 6 mis.

Ar gyfer profion a fethwyd neu sy’n hwyr, rhaid penderfynu ar y prawf nesaf o'r pwynt lle dylai'r prawf hwyr neu’r prawf a fethwyd fod wedi'i gynnal (nid o’r llwyth a gafodd ei brofi mewn gwirionedd).

Mae hyn yn wahanol i'r dull a ddefnyddir yng ngweddill y DU lle cyfrifir dyddiad y prawf nesaf drwy gyfeirio at ddyddiad y prawf diwethaf, hyd yn oed os ydy hwn wedi digwydd yn hwyrach nag y dylai fod wedi digwydd.

Enghraifft: prawf hwyr a goblygiadau ar gyfer gofynion profi

Os dylid bod wedi cynnal prawf ar 1,500 tunnell ac na chafodd ei gynnal tan 2,000 tunnell, cyfrifir dyddiad y prawf nesaf o'r 1,500 tunnell.

Bydd y gyfradd safonol yn berthnasol i bob llwyth sy'n dod i mewn i'r safle pan fo angen prawf colled wrth danio ac nad yw wedi'i wneud (megis yn yr enghraifft uchod, byddai pob llwyth sy'n dod i mewn i'r safle ar ôl 1,500 tunnell tan y pwynt profi ar 2,000 yn ddarostyngedig i'r gyfradd safonol. )

Enghraifft: trefniant wrth gefn i osgoi prawf hwyr neu golli prawf

Dylech fod â threfniadau wrth gefn ar waith rhag ofn y bydd unrhyw gymhlethdodau gyda'r sampl, er mwyn sicrhau eich bod yn gallu cynnal yr amseroedd profi gofynnol ar gyfer y ffrwd wastraff. Er enghraifft

  • efallai y byddwch am brofi'n amlach na phob 1,000 tunnell, neu 
  • efallai eich bod wedi cymryd ail sampl o'r un llwyth, a gedwir ar y safle tirlenwi.

Byddai hyn yn darparu byffer rhag ofn na fydd modd profi sampl.

Ein pŵer i gynnal profion colled wrth danio

Mae Rheoliadau Treth Gwarediadau Tirlenwi (Gweinyddu) (Cymru) 2018 yn rhoi pwerau i ni:

  • gyfarwyddo gweithredwr safle tirlenwi i gynnal prawf colled wrth danio annibynnol, a/neu
  • gymryd sampl ein hunain a gwneud prawf colled wrth danio.

Os byddwn yn eich cyfarwyddo i gymryd sampl a chynnal prawf, byddwch yn gyfrifol am gost hyn. Os byddwn ni’n cymryd sampl ein hunain i'w phrofi, ni fydd yn talu’r gost am hyn.

Os oedd amodau ein prawf colled wrth danio gwreiddiol yn caniatáu ailbrofi, byddech yn gallu gofyn i ni ailbrofi peth o'r un sampl.

Os byddwn yn penderfynu cymryd sampl a chynnal prawf colled wrth danio ein hunain, byddwn yn defnyddio’r un dull o baratoi’r sampl a methodoleg sampl ag a nodir ar eich cyfer chi.

Profion colled wrth danio

Mae Adran 3.3 o'r hysbysiad gronynnau mân yn rhoi cyfarwyddyd a gwybodaeth am:

  • y drefn brofi
  • yr hyn y mae'r prawf yn ei wneud
  • amlder y profion
  • cymryd sampl
  • methodoleg y prawf (paratoi a thrin samplau); a
  • cyfrifo colled wrth danio.

Rhaid i chi gymryd sampl digon mawr fel y gallwch gadw ‘prif’ sampl ac anfon un arall i'w brofi. 

Os oedd angen i chi ailbrofi, gallwch wedyn ddarparu sampl arall o'r un gwarediad trethadwy a dal i gydymffurfio â gofynion y drefn brofi colled wrth danio.

Nid oes unrhyw brofion colled wrth danio a gynhelir gan y cynhyrchydd gwastraff neu'r safle tirlenwi fel rhan o brofion Meini Prawf Derbyn Gwastraff (WAC) yn diystyru nac yn disodli eich cyfrifoldeb i fodloni ein gofynion o ran profion colled wrth danio.

Ar ôl i chi gymryd sampl, dylech ei anfon i'r labordy o fewn 5 diwrnod gwaith i gael ei brofi. Mae hyn er mwyn sicrhau bod modd derbyn canlyniad a gweithredu arno os oes angen.

Gofynion cadw cofnodion

Adran 3.5 o'r 'hysbysiad gronynnau mân' yn rhoi cyfarwyddyd a gwybodaeth am y gofynion cadw cofnodion ar gyfer profion colled wrth danio.

Efallai y byddwn yn rhoi cosb cadw cofnodion o hyd at £3,000 am bob ffrwd wastraff cymysgedd o ronynnau mân.

Ceir rhagor o wybodaeth am hyn a chrynodeb o ganlyniadau methu â chydymffurfio â'ch cyfrifoldebau am raddfa is o ronynnau mân cymwys yn DTGT/4090.

DTGT/4070 Cam 3: Adrodd am brofion colled wrth danio

Ailbrofi

Os methir prawf colled wrth danio, mae adran 3.4 o'r 'hysbysiad gronynnau mân' yn darparu'r amodau ar gyfer caniatáu ail brawf.

Os oedd canlyniad yr ail brawf yn 10% neu lai, gellir anwybyddu canlyniad y prawf gwreiddiol.

Ar gyfer llwythi lle y cynhaliwyd ail brawf colled wrth danio, byddai'r canlyniad yn cael ei adrodd yn y cyfnod cyfrifyddu ar gyfer y dyddiad ailbrofi.

Profion colled wrth danio sydd wedi methu

Ar gyfer canlyniadau profion colled wrth danio sydd wedi methu, bydd gofyn i chi ddarparu gwybodaeth am yr hyn y mae'r methiant yn ymwneud ag ef a'r mesurau a roddwyd ar waith i reoli a lleihau'r risg.

Mae Adran 3.5 ymlaen o'r 'hysbysiad gronynnau mân' yn cynnwys gwybodaeth am y manylion y bydd disgwyl i chi eu cofnodi a'u cadw ar gyfer pob prawf colled wrth danio a gynhelir, a gwybodaeth ychwanegol y bydd angen ei chofnodi ar gyfer prawf a fethwyd.

Pan fo prawf wedi methu, mae'n bwysig i:

  • adolygu eich gwiriadau cyn-derbyn
  • diweddaru'r holiadur cyn-derbyn
  • nodi a ddylai'r gymysgedd o ronynnau mân fod yn risg 'uchel' neu 'isel'.

Os na wneir hyn yn gywir, gallai fod goblygiadau treth posibl.

Efallai y bydd angen i amlder profion newid yn y dyfodol hefyd - dylech gyfeirio at adran 3.2.2 o'r 'hysbysiad gronynnau mân' ar gyfer hyn.

I adrodd am brawf sydd wedi methu, cysylltwch â'ch Rheolwr Cysylltiadau Cwsmeriaid ac e-bostiwch posttgt@acc.llyw.cymru i ofyn am ffurflen canlyniad prawf colled wrth danio sydd wedi methu. Rhaid defnyddio un ffurflen ar gyfer pob prawf a fethwyd.

Ar neu cyn y dyddiad ffeilio ar gyfer pob ffurflen dreth, dylech anfon yr holl ffurflenni canlyniadau profion colled wrth danio a fethwyd ac adroddiadau labordy atom ni sy'n berthnasol i'r cyfnod treth. Dylid anfon y rhain at eich rheolwr cysylltiadau cwsmeriaid a'r blwch post TGT: posttgt@acc.llyw.cymru

Ffurflen dreth TGT

Wrth gwblhau ffurflen dreth TGT, rhaid i chi gofnodi nifer y profion colled wrth danio. O'r nifer hwnnw mae'n rhaid i chi ddarparu gwybodaeth am brofion sydd wedi pasio, wedi methu, na gynhaliwyd a phrofion rydych yn aros am eu canlyniadau.

Os ydych wedi anfon sampl i labordy mewn un cyfnod cyfrifyddu ond heb gael canlyniad y prawf yn ôl, dylech nodi'r prawf hwnnw ar y ffurflen yn yr adran ‘Profion colled wrth danio - Cyfanswm heb ei gadarnhau’.

DTGT/4080 Cadw cofnodion

Rydych yn gyfrifol am sicrhau eich bod yn datgan yn gywir swm y Dreth Gwarediadau Tirlenwi sy'n ddyledus ar wastraff a waredir ar eich safleoedd. Mae hyn yn cynnwys cadw digon o dystiolaeth i gadarnhau ffurflenni treth. Dylech fod yn gallu sicrhau bod eich holl gofnodion ar gael i ni, a bod yn barod i wneud hynny, pan fyddwn yn gofyn am gael eu gweld. Rhaid i chi ddarparu unrhyw wybodaeth y gofynnwn amdani am weithgareddau trethadwy'r safleoedd.

Efallai y byddwn yn ymweld â safleoedd o bryd i'w gilydd i adolygu eich cofnodion, eich systemau cyfrifo a'ch busnes. Byddai'r ymweliadau hyn fel arfer yn cael eu gwneud drwy apwyntiad, ar adeg sy'n gyfleus i chi.

Enghreifftiau o gyfnodau cadw cofnodion

3 mis

Dylid cadw o leiaf 1kg o samplau heb eu profi am 3 mis ar ôl dyddiad dyledus y ffurflen Dreth Gwarediadau Tirlenwi berthnasol. Mae arfer gorau wedi dangos bod cadw'r samplau mewn cynwysyddion aerglos a/neu rewgelloedd yn diogelu eu cyfansoddiad yn well.

6 blynedd

Pob ffurflen ganlyniadau profion colled wrth danio boed yn ddigidol neu ar bapur; holiaduron cyn derbyn; disgrifiadau ysgrifenedig; a manylion ailbrofi colled wrth danio gyda thystiolaeth yn cadarnhau unrhyw waith ailbrofi fel y nodir yn yr 'hysbysiad gronynnau mân'.

Ar gyfer yr holl gofnodion eraill sy'n ymwneud â chymysgeddau o ronynnau mân a phrofion colled wrth danio (papur a digidol)

Bydd disgwyl i chi eu cadw am 6 blynedd o'r diwrnod y dychwelir y ffurflen dreth neu, os caiff y ffurflen dreth ei diwygio, 6 blynedd o ddyddiad y diwygiad, yn unol â Deddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016, adrannau 38-42.

Os ydych yn cadw cofnodion digidol, yn hytrach na chofnodion papur, bydd angen i drefniadau parhad digidol fod ar waith i sicrhau bod cofnodion yn hygyrch am o leiaf 7 mlynedd.

DTGT/4090 Cosbau

Mae cosbau penodol yn ymwneud â chadw cofnodion mewn perthynas â chymysgeddau o ronynnau mân a phrofion colled wrth danio.

Gallai cosb fod yn berthnasol i:

  • gymysgedd o ronynnau mân am beidio â chadw holiadur cyn derbyn cyfredol ar gyfer y cymysgedd hwnnw, yn unol ag adran 2.1 o'r 'hysbysiad gronynnau mân'; a/neu
  • warediad trethadwy am beidio â chynnal prawf colled wrth danio yn unol ag adran 3.3 o'r 'hysbysiad gronynnau mân',

Gallech wynebu cosb cadw cofnodion o hyd at £3,000 am beidio â chydymffurfio â'r naill neu'r llall o'r gofynion uchod.

Nodir y cosbau hyn yn Rheoliadau Treth Gwarediadau Tirlenwi (Gweinyddu) (Cymru) 2018, rhan 2, rheoliad 8 'Cosb am fethu â chydymffurfio â gofynion sy'n ymwneud â thystiolaeth'.

Isod ceir crynodeb o'ch cyfrifoldebau am raddfa is o ronynnau mân cymwys, ynghyd â goblygiadau methu â chydymffurfio. Ym mhob achos, os nad ydych wedi datgan y swm cywir o dreth, efallai y byddwch yn agored i gosb a llog ar y dreth sydd heb ei datgan.

Cyfeirnod Gofyniad neu amod Goblygiadau methu â chydymffurfio
1 Rhaid i weithredwr safle tirlenwi gadw tystiolaeth bod gronynnau mân yn ronynnau mân cymwys Caiff y gwarediad ei raddio’n warediad safonol
2 Rhaid cadw'r disgrifiad ysgrifenedig a rhaid iddo gynnwys disgrifiad sy'n nodi'r deunydd fel gronynnau mân cymwys Caiff y gwarediad ei raddio’n warediad safonol
3 Pan fo ACC yn gofyn am brawf colled wrth danio ychwanegol o dan baragraff 3.2.5 'Cyfarwyddiadau i gynnal prawf colled wrth danio' o'r 'hysbysiad gronynnau mân' Os methir â chynnal y prawf, caiff y gwarediad ei raddio’n warediad safonol
4 Rhaid i weithredwr y safle tirlenwi gynnal y prawf rhagnodedig yn ôl yr amlder profi rhagnodedig ar gyfer pob ffrwd wastraff Caiff gwarediadau eu graddio'n warediadau safonol o'r llwyth nesaf hyd nes bod y methiant yn cael ei gywiro
5 Rhaid i weithredwyr safleoedd tirlenwi ymgymryd â'r prawf rhagnodedig fel y nodir yn yr 'hysbysiad gronynnau mân' (dewis sampl gynrychioliadol; methodoleg a'r prawf colled wrth danio rhagnodedig safonol) O ddyddiad y methiant gweithdrefnol hyd nes y bydd y methiant yn cael ei gywiro, caiff y gwarediadau eu graddio’n warediadau safonol
6 Rhaid i weithredwr y safle tirlenwi gadw prif samplau (heb eu profi) o ronynnau mân a brofwyd am gyfnod o 3 mis o ddyddiad dyledus y ffurflen dreth fel y gellir eu hailbrofi Yn agored i gosb o hyd at £3,000
7

Rhaid i weithredwyr safleoedd tirlenwi wneud a chadw'r canlynol am 6 blynedd: 

  • tystiolaeth bod gronynnau mân yn ronynnau mân cymwys
  • cofnod llawn o'r profion colled wrth danio a gynhaliwyd, gweler adran 3.5 o'r 'hysbysiad gronynnau mân' am fanylion gofynion profion colled wrth danio
Yn agored i gosb o hyd at £3,000 fesul gwarediad
8 Rhaid i'r sampl a brofwyd fodloni'r trothwy colled wrth danio Caiff y gwarediad ei raddio’n warediad safonol

DTGT/4100 Trefniadau pontio

Wrth ddarllen y canllawiau yn yr adran hon, darllenwch nhw ar y cyd â’r Cymysgeddau cymwys o ddeunyddiau: Hysbysiad gronynnau mân.

Mae'r Hysbysiad yn nodi trefniadau pontio yng nghyswllt 'gofynion cyn derbyn (adran 2.2.1); ‘y prawf colled wrth danio cyntaf' (adran 3.2.1.1) a 'phrofion colled wrth danio dilynol' (adran 3.2.2.1).

Mae'r canlynol yn berthnasol i weithredwyr safleoedd tirlenwi sydd wedi'u cofrestru ar hyn o bryd at ddibenion y dreth tirlenwi.

Gwiriadau cyn derbyn

Hyd at 1 Ebrill 2018, bydd trefniadau gwirio yn cael eu hanrhydeddu cyn belled â'u bod yn cydymffurfio â chyfraith bresennol y DU ac yn bodloni Nodyn Tollau LFT1 CThEM ar ofynion cyn derbyn. Ni fydd yn ofynnol i weithredwr y safle tirlenwi lenwi holiadur cyn derbyn newydd ar gyfer ffrwd wastraff lle mae gronynnau mân gwastraff wedi eu derbyn ar safle cyn 1 Ebrill, hyd yn oed os cânt eu gwaredu ar ôl y dyddiad hwn, oni bai bod natur y ffrwd wastraff yn newid. Bydd angen i weithredwr y safle tirlenwi gadw copi o holiaduron o'r fath. 

Y prawf colled wrth danio cyntaf

Os cynhaliodd gweithredwr safle tirlenwi brawf colled wrth danio ar ronynnau mân gwastraff cyn 1 Ebrill 2018 a bod dyddiad canlyniad y prawf ar 1 Ebrill 2018 neu ar ôl hynny, dylid ymdrin â hyn dan y trefniadau sy'n bodoli eisoes yn unol â Gorchymyn y Dreth Tirlenwi (Deunyddiau Cymwys ) 2015 a Nodyn Tollau LFT1 CThEM.

Pan fydd gronynnau mân gwastraff wedi cyrraedd y safle cyn 1 Ebrill 2018, dylid symud y cylch profi colled wrth danio ymlaen h.y. ni fydd yn ofynnol i weithredwr y safle tirlenwi roi cylch profi colled wrth danio newydd ar waith dan hysbysiad ACC - 'Cymysgedd o ddeunyddiau sy'n cynnwys gronynnau mân yn unig'.

Bydd angen i unrhyw ronynnau mân gwastraff fydd yn cael eu dosbarthu i'r safle o 1 Ebrill 2018 ymlaen gydymffurfio â rheoliadau'r Dreth Gwarediadau Tirlenwi. Mae hyn yn gyson ac yn unol â meysydd eraill y DTGT er enghraifft dŵr, gostyngiadau, mannau nad ydynt at ddibenion gwaredu a chofrestru.

Os bydd ACC yn cynnal unrhyw archwiliadau sy'n cynnwys unrhyw brawf colled wrth danio a gynhaliwyd ym mis Ebrill 2018, o ran gronynnau mân gwastraff a gyflwynwyd cyn Ebrill 2018, byddai unrhyw ganlyniadau yr un fath â phetaent dan DTGT.

Profion colled wrth danio dilynol

Ar gyfer yr holl gwsmeriaid presennol (cynhyrchwyr gwastraff) sy'n cynhyrchu gronynnau mân gwastraff, byddai'r cylch profi colled wrth danio cyn 1 Ebrill 2018 yn aros yr un fath ar ôl 1 Ebrill 2018, fel a ganlyn:

  • ar gyfer cwsmeriaid presennol, lle nad oes unrhyw brawf colled wrth danio wedi methu ganddynt ar gyfer ffrwd wastraff gronynnau mân benodol, bydd y cylch profi cyn 1 Ebrill 2018 yn parhau
  • ar gyfer cwsmeriaid presennol, lle mae un prawf wedi methu ar gyfer ffrwd wastraff gronynnau mân benodol cyn 1 Ebrill 2018 ac ail ganlyniad prawf wedi methu ar ôl 1 Ebrill 2018, disgwylir i weithredwr y safle tirlenwi gynnal trefniadau profi yn amlach yn unol â’r tabl Pa mor aml y cynhelir profion yn Hysbysiad ACC - 'Cymysgedd o ddeunyddiau sy'n cynnwys gronynnau mân yn unig', adran 3.2.2
    Felly, er enghraifft, os oes un prawf colled wrth danio wedi methu ar y cymysgedd cyn 1 Ebrill 2018 a phrawf arall wedi methu ar ôl y dyddiad hwnnw, rhaid ystyried y ddau fethiant. Pan fydd dau brawf yn yr 20 prawf diwethaf wedi methu, bydd hyn yn golygu bod un o'r dangosyddion risg uchel yn bresennol a bod yn rhaid cynnal y prawf nesaf ar y cymysgedd yn y cyfnod sydd wedi'i nodi yng nghyswllt cymysgeddau risg uchel yn y Tabl
  • Ar gyfer cwsmeriaid presennol sydd wedi cynnal profion yn amlach ar ffrwd wastraff gronynnau mân yn unol â chylch tabl ‘Pa mor aml y cynhelir profion’ Hysbysiad Tollau LFT1 CThEM, dylai hyn barhau nes eu bod wedi cynnal 20 o brofion cydymffurfio yn olynol. Bydd y dosbarthiad risg isel yn berthnasol oni bai bod y gwiriadau cyn derbyn neu archwiliad gweledol yn dangos bod gronynnau mân y gwastraff yn dal yn rhai risg uchel

Mae Hysbysiad Tollau LFT1 CThEM a Hysbysiad ACC - 'Cymysgedd o ddeunyddiau sy'n cynnwys gronynnau mân yn unig' yn cynnwys yr un dangosyddion risg (uchel ac isel) â’r rhai sydd wedi’u nodi yn y tabl pa mor aml y cynhelir profion a fydd yn caniatáu symud i’r trefniadau newydd yn ddi-dor.

Bydd angen cyflwyno canlyniadau’r profion gyda'r ffurflen chwarterol ar-lein gyntaf ar gyfer y flwyddyn dreth 2018/2019, ynghyd â chanlyniadau’r profion eraill yn ystod y chwarter hwnnw, yn unol â gofynion y DTGT a chadw tystiolaeth fel rhan o’r gofynion cadw cofnodion.

Cadw cofnodion

Dylid cadw unrhyw sampl o brofion colled wrth danio a gynhaliwyd cyn 1 Ebrill 2018 ond a gafodd eu profi ar ôl 1 Ebrill am dri mis ar ôl y dyddiad erbyn pryd y bydd angen cyflwyno’r ffurflen Treth Gwarediadau Tirlenwi nesaf, o dan y trefniadau cadw cofnodion newydd yn Rheoliadau a’r DTGT.

Enghraifft o fathau o driniaethau a allai gynhyrchu gronynnau mân cymwys

  1. mae'r cynhyrchydd gwastraff yn rhedeg dwy linell ar wahân, un ar gyfer gwastraff cymysg lle nad yw'r gronynnau mân yn gymwys ac maent yn ddarostyngedig i’r cyfraddau safonol; ac un ar gyfer gwastraff cymwys yn bennaf gyda rhywfaint o ddeunydd nad yw'n gymwys, y gall y gronynnau mân fod yn ronynnau mân cymwys.
  2. Mae'r cynhyrchydd gwastraff yn cynhyrchu gronynnau mân drwy ei driniaeth o ffynonellau gwastraff cymysg ond yna mae'n cynnal triniaeth gronynnau mân bellach arnynt sy'n gallu cael gwared ar y rhan fwyaf o'r deunydd anghymwys ac yn gadael gronynnau mân cymwys.
  3. Fodd bynnag, os yw cynhyrchydd gwastraff yn torri gwastraff trefol cymysg yn fân ac yn cynnal triniaeth sylfaenol arno, heb wahanu’r deunydd anghymwys ar y dechrau nac ymhellach, ni fyddai'r gwastraff yn ronynnau mân cymwys yn ystod y cam hwn o brosesu.

DTGT/4190 Credyd Ansolfedd Cwsmer

Mae'r canllawiau hyn yn rhoi trosolwg o'r credyd ansolfedd cwsmer, yr amgylchiadau sy'n esgor ar y credyd a'r broses o wneud hawliad. Dylid eu darllen ar y cyd ag adran 54 o Ddeddf Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) 2017 (DTGT) a rhan 3 o Reoliadau Treth Gwarediadau Tirlenwi (Gweinyddu) (Cymru) 2018.

DTGT/4200 Hawl i gredyd ansolfedd cwsmeriaid

Cyn hawlio’r credyd ansolfedd cwsmer, dylai gweithredwr safle tirlenwi neu gyn-weithredwr safle tirlenwi (“yr hawlydd”) fod yn fodlon bod yr holl ofynion canlynol yn cael eu bodloni:

  1. Mae’n rhaid i warediad trethadwy fod wedi'i wneud ar safle tirlenwi awdurdodedig.
  2. Bod yr hawlydd wedi'i gofrestru fel gweithredwr y safle ar adeg y gwaredu, a bod yr hawlydd naill ai wedi gwneud y gwarediad neu wedi caniatáu'r gwarediad.
  3. Bod arian wedi’i godi mewn perthynas â'r gwarediad ar gwsmer nad yw (ac nad oedd ar adeg y gwaredu) yn gysylltiedig â'r hawlydd. Penderfynir a yw person yn 'gysylltiedig' ag un arall yn unol ag adrannau 1122 a 1123 o Ddeddf Treth Gorfforaeth 2010.
  4. Bod yr hawlydd wedi dyroddi (issued) anfoneb dirlenwi i’r cwsmer o fewn 14 diwrnod i ddyddiad y gwarediad (neu o fewn unrhyw gyfnod hwy a gytunwyd gan ACC dan adran 41(6) DTGT) mewn perthynas â'r gwarediad. Gweler DTGT /5040.
  5. Bod yr hawlydd eisoes wedi rhoi cyfrif am swm y dreth sydd i'w godi ar y gwarediad ac wedi’i dalu.
  6. Mae’n rhaid bod y cwsmer wedi mynd yn ansolfent o fewn y cyfnod o 12 mis (sy’n dechrau ar y dyddiad y dyroddwyd yr anfoneb dirlenwi) ac mae’n rhaid ei fod wedi methu â thalu’r holl gydnabyddiaeth, neu ran ohoni, sy’n ddyledus mewn cysylltiad â'r gwarediad.
  7. Mae’n rhaid bod yr hawlydd wedi methu ag adennill y gydnabyddiaeth nad yw wedi’i thalu, er ei fod wedi cymryd camau rhesymol i wneud hynny.
  8. Cyn dod i'r casgliad bod arian yn dal i fod heb ei dalu gan y cwsmer, mae'n rhaid bod yr hawlydd wedi gosod unrhyw ddyled sy’n ddyledus i'r cwsmer yn erbyn swm y gydnabyddiaeth nad yw wedi’i thalu, a hefyd wedi lleihau swm y gydnabyddiaeth nad yw wedi’i thalu gan werth unrhyw sicrhad gorfodadwy y mae’n ei ddal mewn perthynas â'r cwsmer, ond bod swm o gydnabyddiaeth yn parhau i fod yn weddill mewn cysylltiad â'r gwarediad.

Hyd yn oed os yw hawlydd yn bodloni’r wyth gofyniad uchod, nid oes ganddo hawl i gredyd ansolfedd cwsmer os yw wedi elwa’n flaenorol o unrhyw swm o gredyd ansolfedd cwmser mewn perthynas â'r un gwarediad trethadwy.

DTGT/4210 Ansolfedd cwsmer

At ddibenion hawlio’r credyd ansolfedd cwsmer, ystyrir bod cwsmer wedi mynd yn ansolfent os yw'n destun digwyddiad ansolfedd.

Mae digwyddiad ansolfedd yn un o'r canlynol:

  • trefniant gwirfoddol ar ran cwmni
  • gorchymyn gweinyddu neu benodi derbynnydd gweinyddol
  • dirwyn i ben yn wirfoddol gan y credydwyr neu ddirwyn i ben gan y llys yn dechrau
  • gorchymyn rhyddhau o ddyled
  • trefniant gwirfoddol unigol
  • gorchymyn methdalu
  • unrhyw ddigwyddiad cyfatebol sy’n cael effaith o dan gyfraith yr Alban neu Ogledd Iwerddon neu wlad neu diriogaeth y tu allan i'r Deyrnas Unedig, neu o ganlyniad iddi

DTGT/4220 Penderfynu ar swm credyd ansolfedd cwsmer

Dyrannu taliadau

At ddibenion penderfynu a oes dyled sy'n ddyledus gan y cwsmer a all greu sail hawliad i gredyd ansolfedd cwsmer, a swm y ddyled honno, mae rheolau ynglŷn â sut y dylid trin taliadau i'r cwsmer ac oddi wrtho (Rheoliad 16 o Reoliadau Treth Gwarediadau Tirlenwi [Gweinyddu] Cymru 2018).

Yn gyffredinol, os bydd hawlydd yn derbyn taliad gan gwsmer (lle bo'r hawlydd wedi gwneud gwarediad trethadwy ar ran y cwsmer hwnnw a phan fo arian yn ddyledus gan y cwsmer am y gwarediad hwnnw).

Fodd bynnag, os oes gan yr hawlydd fwy nag un ddyled heb ei thalu gan gwsmer (boed yn ymwneud â gwarediadau trethadwy ai peidio) a bod y cwsmer yn gwneud taliad i’r hawlydd, dylid priodoli’r taliad hwn yn gyntaf i'r ddyled a gododd cyntaf, yna i’r ddyled a gododd wedyn os oes gweddill, ac yn y blaen.

Ond ni ddylid priodoli fel hyn os cafodd y taliad ei ddyrannu i ddyled benodol gan y cwsmer wrth dalu a’r ddyled yn cael ei thalu’n llawn.

Lle cododd y ddyled gynharaf, a’r dyledion eraill y gellid priodoli'r holl daliad iddynt, ar yr un diwrnod, bydd y taliad yn cael ei briodoli i’r dyledion hynny gan ddefnyddio'r fformiwla isod.

Dyraniad = TP x (D ÷ TD)

  1. 'Dyraniad' yw swm y dyraniad
  2. 'CT' yw cyfanswm y taliad sydd i’w ddyrannu i'r dyledion sy’n codi ar y diwrnod hwnnw
  3. 'D' yw swm y ddyled benodol dan sylw
  4. 'CD' yw cyfanswm yr holl ddyledion:
    1. a oedd yn codi ar y diwrnod hwnnw, a
    2. sy’n ddyledus gan y cwsmer i'r hawlydd.

Cyfrifo swm y credyd ansolfedd cwsmer

Dylid cyfrifo swm y credyd ansolfedd cwsmer y mae gan berson hawl iddo gan ddefnyddio'r fformiwla isod:

Credyd = T x (OC ÷ C)

pan fo:

  1. 'Credyd' yn swm y credyd ansolfedd cwsmer
  2. 'T' yn swm y dreth mae'r person wedi rhoi cyfrif amdano mewn cysylltiad â’r gwarediad mewn ffurflen dreth. Pan fydd swm y dreth y rhoddir cyfrif amdano mewn cysylltiad â’r gwarediad yn cynyddu, rhaid anwybyddu'r cynnydd hwnnw.
  3. 'SG' yn swm y gydnabyddiaeth sy’n ddyledus mewn cysylltiad â'r gwarediad (ar ôl gosod unrhyw swm sy’n ddyledus i’r cwsmer yn erbyn hyn a lleihau swm y gydnabyddiaeth nas talwyd gan werth unrhyw sicrhad gorfodadwy).
  4. 'C' yn gydnabyddiaeth am y gwarediad.

Pan fo swm y dreth sydd i’w godi ar y gwarediad yn llai na swm y dreth y rhoddwyd cyfrif amdano mewn cysylltiad â'r gwarediad (gan anwybyddu unrhyw gynnydd):

'T' yw swm y dreth sydd i'w godi ar y gwarediad.

Mae 'C' ac 'SG' ill dau i’w lleihau gan swm sy’n hafal i'r gwahaniaeth rhwng y ddau swm o dreth.

DTGT/4230 Hawliadau gan

Cyn belled â bod y gweithredwr safle tirlenwi yn fodlon ei fod yn bodloni’r holl ofynion a nodir yn DTGT/4200, gellir gwneud hawliad i gredyd ansolfedd cwsmer mewn ffurflen dreth mewn perthynas â'r cyfnod cyfrifyddu cymwys cyntaf neu unrhyw gyfnod cyfrifyddu dilynol.

Y cyfnod cyfrifyddu cymwys cyntaf yw'r un lle mae’r dyddiad sydd 6 mis o ddyddiad y digwyddiad ansolfedd perthnasol yn digwydd oddi fewn iddo. Y digwyddiad ansolfedd perthnasol yw'r digwyddiad ansolfedd cyntaf a ddigwyddodd mewn perthynas â'r cwsmer.

Gwneir yr hawliad drwy osod swm y credyd yn erbyn swm y dreth y byddai fel arall yn ofynnol i'r person hwnnw ei dalu o dan adran 42 (1) o'r DTGT.

Os yw cyfanswm y credyd a hawlir yn fwy na chyfanswm y dreth sy’n ddyledus ar gyfer y cyfnod cyfrifyddu, bydd Awdurdod Cyllid Cymru yn ad-dalu swm sy’n hafal i’r credyd gormodol i weithredwr y safle tirlenwi. Dim ond os bydd yr holl daliadau treth wedi’u gwneud y bydd Awdurdod Cyllid Cymru yn talu’r swm sy’n weddill a dim ond os yw pob ffurflen dreth y mae’n ofynnol i'r person ei gwneud mewn cysylltiad â threth wedi’i dychwelyd.

DTGT/4240 Hawliadau gan bersonau eraill

Cyn belled â bod cyn-weithredwr safle tirlenwi cofrestredig yn fodlon ei fod yn bodloni'r holl ofynion a nodir yn DTGT/4200, caiff hawlio’r credyd drwy wneud cais ysgrifenedig i Awdurdod Cyllid Cymru. Ni chaniateir gwneud y cais cyn diwedd y cyfnod chwe mis sy’n dechrau â dyddiad y digwyddiad ansolfedd perthnasol. Bydd Awdurdod Cyllid Cymru yn talu dim ond pan fydd yn fodlon:

  • nad yw’r person yn gofrestredig
  • bod gan y person hawl i’r credyd ac
  • nad yw'r hawl i’r credyd wedi’i drosglwyddo i unrhyw berson arall.

DTGT/4250 Tystiolaeth i gefnogi hawliadau

Wrth wneud hawliad am gredyd ansofedd cwsmer, rhaid i weithredwr y safle tirlenwi fod â’r cofnodion canlynol:

  • copi o’r anfoneb dirlenwi a ddyroddwyd ganddo am y gwarediad trethadwy
  • cofnodion neu ddogfennau eraill yn dangos eu bod wedi rhoi cyfrif am y gwarediad perthnasol ac wedi talu treth arno
  • cofnodion neu ddogfennau eraill sy’n ymwneud ag unrhyw daliad a wnaed gan y cwsmer mewn cysylltiad â'r gydnabyddiaeth am y gwarediad
  • cofnodion neu ddogfennau eraill sy’n ymwneud ag unrhyw ddyled sy’n ddyledus gan weithredwr y safle tirlenwi i'r cwsmer neu unrhyw sicrhad gorfodadwy sy’n cael ei ddal ganddo mewn perthynas â'r cwsmer
  • cofnodion neu ddogfennau eraill sy’n ymwneud ag unrhyw gamau a gymerwyd i adennill y gydnabyddiaeth sy’n ddyledus am y gwarediad

Nid oes angen cyflwyno'r dystiolaeth hon i ACC wrth wneud hawliad, ond rhaid cadw'r dystiolaeth am gyfnod o 6 blynedd yn dechrau ar y diwrnod y gwnaed yr hawliad a gall ACC ofyn am gael ei gweld.

DTGT/4260 Cofnod credyd ansolfedd cwsmer

Pan wneir hawliad, rhaid i weithredwr y safle tirlenwi greu cofnod o'r hawliad hwnnw a diweddaru'r cofnod yn gyson. Mae angen cynnal y cofnod am chwe blynedd naill ai o’r diwrnod y gwnaed yr hawliad neu'r diwrnod y cafodd y cofnod o'r hawliad ei ddiweddaru ddiwethaf, pa un bynnag sydd fwyaf diweddar.

Dylai gynnwys yr wybodaeth ganlynol mewn perthynas â phob gwarediad trethadwy y mae'r hawliad yn berthnasol iddo:

  • Swm y dreth sydd i'w godi ar y gwarediad
  • Y gydnabyddiaeth am y gwarediad
  • Y ffurflen dreth y rhoddwyd cyfrif am y dreth honno ynddi a phryd y cafodd ei thalu
  • Dyddiad a rhif adnabod yr anfoneb dirlenwi a ddyroddwyd
  • Yn achos gwaredu deunydd y mae disgrifiad ysgrifenedig ohono yn ofynnol yn rhinwedd adran 34(1)(c)(ii) o Ddeddf Diogelu’r Amgylchedd 1990(1), y disgrifiad ysgrifenedig
  • Unrhyw daliad neu gydnabyddiaeth eraill a dderbyniwyd, boed hynny cyn neu ar ôl i weithredwr y safle tirlenwi wneud yr hawliad
  • Unrhyw gamau a gymerwyd i adennill y gydnabyddiaeth sy’n ddyledus am y gwarediad

Rhaid i'r ffurflen dreth gynnwys yr wybodaeth ganlynol hefyd:

  • Cyfanswm yr hawliad
  • Y ffurflen dreth y gwnaed yr hawliad ynddi
  • Cyfanswm y gydnabyddiaeth sy’n weddill y gwneir yr hawliad mewn cysylltiad â hi
  • Pan fydd mwy nag un hawliad yn cael eu gwneud gan yr un hawliwr, gellir cadw'r cofnodion credyd ansolfedd cwsmer sydd eu hangen ar gyfer pob hawliad mewn un cyfrif (a elwir yn ‘grynodeb credyd ansolfedd cwsmer’)

DTGT/4270 Adennill yn dilyn taliad gan gwsmer

Os bydd gweithredwr safle tirlenwi wedi hawlio credyd am ryddhad dyled ddrwg a’i fod wedyn yn derbyn unrhyw daliad gan gwsmer (neu os bydd taliad yn cael ei drin fel taliad sydd wedi’i briodoli i'r gwarediad perthnasol), bydd yn rhaid iddo dalu’r holl gredyd, neu ran ohono, i Awdurdod Cyllid Cymru.

Rhaid i’r swm y bydd yn rhaid iddo ei ad-dalu gael ei dalu cyn diwedd y cyfnod o 30 diwrnod sy’n dechrau ar y diwrnod y derbyniwyd y taliad a dylid ei gyfrifo gan ddefnyddio'r fformiwla a ganlyn:

Taliad = RCredit x (P ÷ OC)

pan fo:

  1. 'Taliad' yn swm y taliad y mae’n rhaid ei wneud i ACC.
  2. 'CredydP' yn swm perthnasol y credyd ansolfedd cwsmer.
  3. 'T' yw swm y taliad a gaiff ei drin fel swm wedi’i ddyrannu i’r swm sy’n ddyledus mewn cysylltiad â'r gydnabyddiaeth am y gwarediad.
  4. Dylid cyfrifo 'SG' gan ddefnyddio’r fformiwla yn cyfrifo swm y credyd ansolfedd cwsmer.

Enghraifft

Swm y credyd a hawlir - £41.81
Taliad a dderbyniwyd - £20.00
Swm y ddyled sy’n weddill - £92.50
Y swm i'w ad-dalu = £41.81 x £20/£92.50 = £9.04

DTGT/4280 Adennill yn dilyn methiant i gadw cofnodion neu dystiolaeth arall

Lle bo hawliwr wedi cael budd o gredyd ansolfedd cwsmer ond wedi methu â chydymffurfio â'r gofynion i gadw cofnodion a thystiolaeth arall, gall ACC adennill swm y credyd ansolfedd cwsmer a hawliwyd.

Er mwyn gwneud hyn, rhaid i ACC wneud y canlynol:

  • asesu faint o gredyd ansolfedd cwsmer a hawliwyd
  • cyflwyno hysbysiad i'r hawlydd sy'n nodi'r swm a aseswyd ac sy’n ei gwneud yn ofynnol i'r person dalu'r swm hwnnw i ACC

Rhaid i'r hawlydd dalu'r swm gofynnol o fewn 30 diwrnod sy'n dechrau ar y diwrnod y cyhoeddir yr hysbysiad.

Nid yw'n ofynnol i'r hawlydd dalu'r swm a nodir yn yr hysbysiad o dan yr amgylchiadau canlynol:

  • os yw’r hawlydd yn darparu tystiolaeth ddogfennol arall (o fewn 30 diwrnod sy'n dechrau ar y dyddiad y cyhoeddir yr hysbysiad) sy'n profi'r ffeithiau y byddai'r cofnodion (fel y’u manylir yn DTGT/4250 a DTGT/4260) wedi’u dangos, ac
  • mae ACC yn darparu hysbysiad pellach i'r hawlydd yn datgan bod y dystiolaeth ddogfennol hon yn ddigon o dystiolaeth