Pobl sy’n byw yng Nghymru

Nid ydym yn gwybod yn union eto sut bydd Brexit heb gytundeb yn effeithio ar Gymru; ar fusnesau sy’n gweithredu yng Nghymru ac ar y gwasanaethau cyhoeddus y mae pawb yn dibynnu arnynt.

Ond, os byddwn yn gadael yr UE mewn ffordd anhrefnus, gwyddwn y gallai hynny amharu’n sylweddol ar rai agweddau o fywyd bob dydd.

Mae Llywodraeth Cymru’n cydweithio’n agos â’n partneriaid yn y sectorau cyhoeddus a phreifat ac â sefydliadau a mudiadau eraill ledled Cymru i greu cynlluniau er mwyn lleihau’r effaith cymaint ag y bo modd ac amddiffyn y gwasanaethau cyhoeddus yr ydym oll yn dibynnu arnynt.

Ar hyn o bryd, nid oes rhaid i bobl gymryd unrhyw gamau yn eu bywyd bob dydd i baratoi ar gyfer ymadawiad heb gytundeb. Ond mae’n hanfodol bod pawb yn ymwybodol o’r effeithiau posibl ac yn cael yr wybodaeth gywir wrth i amgylchiadau newid.

Fel mae pethau’n sefyll, bydd y DU yn ymadael â’r Undeb Ewropeaidd ar 29 Mawrth 2019. Os na fydd cytundeb trosiannol wedi’i sicrhau o fewn y deufis nesaf,  bydd y rhan fwyaf, neu’r cyfan, o’n trefniadau ni ar gyfer delio â’r UE yn dod i ben. Byddai hyn yn cael effaith sylweddol ar sawl rhan o fywyd pobl Cymru a gweddill y DU.

Caiff y wefan hon ei diweddaru’n rheolaidd wrth i ni fwrw ymlaen â’r paratoadau.  Bydd sefydliadau eraill y sector cyhoeddus yn rhoi gwybodaeth i’r cyhoedd fel y bo angen hefyd.

Cewch ddarllen mwy am ein paratoadau ar gyfer y GIG yng Nghymru a gofal cymdeithasol, gan gynnwys gwaith ar draws y DU i gynnal y cyflenwad moddion a chyffuriau i gleifion Cymru os bydd Brexit heb gytundeb.

Ddylai pobl ddim dechrau pentyrru moddion, oherwydd gallai hyn achosi problemau cyflenwi. Ar hyn o bryd, nid ydym yn rhagweld y bydd llawdriniaethau’n cael eu canslo, a bydd yr Adrannau Damweiniau ac Achosion Brys a gwasanaethau Meddygon Teulu yn dal i weithredu yn yr un ffordd.

Nid ydym yn rhagweld unrhyw effeithiau uniongyrchol ar y system ysgolion yng Nghymru os bydd Brexit heb gytundeb. Ond rydym yn cydweithio’n agos â’r awdurdodau lleol i sicrhau bod unrhyw oblygiadau posibl yn cael eu deall a bod modd rheoli’r effeithiau tymor hirach. Dysgwch fwy am sut rydym yn gweithio i gynnal gwasanaethau lleol.

Mae prifysgolion Cymru’n gweithio’n galed i baratoi ar gyfer yr effaith ar eu gwaith nhw, gan gynnwys y goblygiadau i fyfyrwyr o’r UE sy’n astudio yng Nghymru ar hyn o bryd.

I rai grwpiau yn y boblogaeth – plant sy’n dibynnu ar ginio ysgol; pobl hŷn mewn gofal preswyl; cleifion mewn ysbytai – gallai effaith ymadael â’r UE greu pryderon ynghylch cyflenwadau bwyd. Rydym yn cydweithio’n agos â’n partneriaid yng ngwasanaethau cyhoeddus Cymru i gynnal y cyflenwadau bwyd yn yr amgylchiadau hyn.

Gallai economi Cymru wynebu trafferthion mawr os bydd Brexit heb gytundeb, ee oherwydd oedi yn y porthladdoedd a rhwystrau tariff. Rydym eisoes wedi rhoi cyllid sylweddol ar gael i fusnesau addasu ar gyfer Brexit. Ond os ydych chi’n berchen ar fusnes yng Nghymru neu’n gyfrifol am gynllunio ar gyfer Brexit, bydd ein porthol Brexit Busnes Cymru yn nodi’r camau y dylech eu cymryd i baratoi eich busnes ar gyfer Brexit heb gytundeb. Mae’r porthol hefyd yn rhoi manylion cyswllt ein gwasanaethau cymorth a chyngor, sydd yno i helpu.

Rydym yn cydnabod bod Brexit yn fater sy’n rhannu barn yng Nghymru – fel yng ngweddill y DU – ac rydym wedi ymrwymo’n llwyr i gynnal a gwella undod ein cymunedau a sicrhau parch i bawb sy’n byw yn ein gwlad.

Rydym wedi rhoi cyllid ychwanegol ar gael i’n rhaglen cydlyniant cymunedol wneud gwaith penodol i leddfu tensiynau yn ein cymunedau yn sgîl Brexit. Mae perygl y gwelir tensiwn uwch, a byddem yn annog pobl i adrodd am enghreifftiau o droseddau casineb neu faterion eraill i’r heddlu ar unwaith.

Os daw’n amlwg bod y perygl o effaith andwyol ar wasanaethau cyhoeddus a sectorau eraill  yn cynyddu wrth inni agosáu at ddiwrnod gadael yr UE, bydd Llywodraeth Cymru’n ymateb drwy weithredu ein trefniadau cydnerthedd o’r Ganolfan Cydlynu Argyfyngau (Cymru).

Bydd hyn yn galluogi cydweithio agos rhwng yr holl bartneriaid yng Nghymru, gan gynnwys pob Fforwm Cydnerthedd Lleol. Byddwn yn cydgysylltu â mecanweithiau Llywodraeth y DU yn Whitehall a’r gweinyddiaethau datganoledig eraill.

Llywodraeth y DU sy’n bennaf gyfrifol am y paratoadau yn y meysydd nad ydynt wedi’u datganoli, ee amddiffyn, lles, yr heddlu, diogelwch, masnach ryngwladol a materion tramor. Serch hynny rydym yn cydweithio’n agos â Llywodraeth y DU i sicrhau bod y gwaith cynllunio’n cydnabod, yn deall ac yn cyflawni buddiannau Cymru. 

Mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi cyngor i ddinasyddion y DU sy’n bwriadu teithio i’r UE. Mae’n rhoi gwybodaeth am basbortau, cynghorion teithio, mynd ag anifeiliaid anwes dramor a ffïoedd crwydro ffonau symudol.

Os ydych chi’n ddinesydd yr UE, â staff o’r UE neu’n recriwtio o’r UE, mae’r Swyddfa Gartref wedi cyhoeddi’r cyngor canlynol:

  • EU citizens in the UK – Stay Informed, mae hwn yn rhoi gwybodaeth am y cytundeb ar hawliau dinasyddion a’r Cynllun Preswylio i ddinasyddion yr UE yn y DU. 
  • Os yw dinasyddion yr UE eisiau aros yn y DU tu hwnt i 31 Rhagfyr 2020, bydd angen iddyn nhw ac aelodau agos eu teulu wneud cais i Gynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddon yr UE. Bydd y cynllun ar agor erbyn mis Mawrth 2019. 
  • Mae pecyn wedi ei lansio i roi offer a gwybodaeth i gyflogwyr gefnogi dinasyddion yr UE a’u teuluoedd gyda’r Cynllun Preswylio’n Sefydlog.

Mae gan Lywodraeth y DU ymgyrch paratoi i ymadael â’r UE, sy’n rhoi cyngor i unigolion a busnesau am y paratoadau a’r camau posibl y bydd angen iddynt eu cymryd.

Nesaf: busnes a'r economi >