Busnes a’r economi

Mae Brexit heb gytundeb yn peri risgiau sylweddol i economi Cymru ac yn bygwth y cynnydd a wnaethom dros y blynyddoedd diwethaf yn creu swyddi a helpu busnesau i dyfu a ffynnu.

Rydym ni yn Llywodraeth Cymru’n gwneud popeth yn ein gallu gan weithio gyda busnesau a sefydliadau ledled y wlad i baratoi ar gyfer y senario gwaethaf hwn, ac amddiffyn swyddi a thwf cynaliadwy.

Sut caiff busnesau eu heffeithio?

Rydym wedi bod yn cydweithio’n agos â busnesau o bob maint ac o bob sector ers y refferendwm ar yr UE yn 2016 i nodi’r prif faterion sy’n wynebu cwmnïau; y cyfleoedd posibl a’r heriau a ddaw yn sgîl Brexit, a’r meysydd lle gallai fod angen mwy o gefnogaeth.

Mae’r ansicrwydd presennol ynghylch ffurf Brexit yn eithriadol o heriol i fusnesau Cymru, ond mae’n bwysig bod cwmnïau o bob maint yn gweithredu nawr ac yn gwneud paratoadau synhwyrol er mwyn lleihau’r risgiau a nodi’r heriau sydd o’u blaenau.

Ein Porthol Brexit Busnes Cymru yw’r man cychwyn i bob busnes sy’n paratoi am Brexit. Mae’r porthol Brexit yn rhoi cyngor a chanllawiau; mae’n helpu busnesau i gael yr wybodaeth ddiweddaraf ynghylch Brexit ac i feddwl am yr hyn y mae angen iddynt ei wneud i baratoi am Brexit. 

Mae’r porthol yn rhoi’r cyngor a’r wybodaeth ddiweddaraf am amrywiaeth o bynciau, gan gynnwys masnachu rhyngwladol a chynllunio’r gweithlu. Mae yno hefyd offeryn diagnostig rhyngweithiol i fusnesau ei lenwi er mwyn asesu eich parodrwydd.

Mae’n hanfodol bod busnesau’n llawn ymwybodol o’r camau paratoi priodol a’r ffynonellau cymorth eraill sydd ar gael. Busnes Cymru yw’r pwynt cyswllt canolog i fusnesau ac entrepreneuriaid gael cymorth a chyngor o’r sectorau cyhoeddus, preifat a gwirfoddol. Am ragor o wybodaeth ewch i Porthol Brexit neu ffoniwch 0300 060 3000.

Mae ein tîm Busnes Cymru’n barod i’ch helpu chi a’ch cwmni dros yr wythosau a misoedd nesaf. Mae’n cynnig cefnogaeth amrywiol i helpu cwmnïau i baratoi am y prif heriau, gan gynnwys:

  • cadw’r busnes sydd gennych eisoes o fewn yr UE;
  • datblygu marchnadoedd newydd; 
  • cynyddu capasiti a’r gallu i lwyddo wrth fasnachu ar ôl Brexit.

Mae llawer o fusnesau eisoes yn datblygu cynlluniau wrth gefn, ond mae eraill sydd heb ddechrau eto. Mae dros chwarter miliwn o gwmnïau Bach a Chanolig (BBaCh) yng Nghymru, yn cyflogi bron i 750,000 o bobl. Amcangyfrifir bod eu trosiant blynyddol yn £46 biliwn.

Gallai llawer o’r BBaCh hyn gael eu niweidio gan effaith Brexit heg gytundeb, ac mae angen iddynt gymryd camau ar frys i baratoi am yr heriau sydd o’u blaen.

Lansiwyd Cronfa Cydnerthedd Busnes Llywodraeth Cymru i helpu busnesau i baratoi am, a delio â, heriau Brexit. Mae’r cyllid hwn, sy’n rhan o Gronfa Bontio’r UE, yn galluogi busnesau Cymru i wneud cais am £10,000 a £100,000 o gyllid Llywodraeth Cymru, hyd at uchafswm o hanner costau’r prosiect, i’w cefnogi wrth i’r DU baratoi i ymadael â’r UE.

I wneud cais, mae’n rhaid i fusnesau wneud y canlynol:

  • bod wedi cofrestru i fasnachu yng Nghymru
  • cofrestru gyda Busnes Cymru a chwblhau’r offeryn diagnostig Brexit wrth ymgeisio
  • gallu dangos y bydd y cyllid yn cyfrannu at ddiogelu swyddi
  • bod yn masnachu ers 12 mis neu fwy ar ddyddiad eu cais.

Crëwyd ap Diagnostig a cherdyn sgorio Brexit [remove hyperlink] i gefnogi busnesau bwyd a diod Cymru ar ôl Brexit. Mae’r ap yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf un am y diwydiant ac yn helpu busnesau i ymateb i heriau a chyfleoedd Brexit. Mae hefyd yn galluogi busnesau i adolygu eu cryfderau a’u gwendidau ar unrhyw adeg a meincnodi eu hunain o fewn y diwydiant. Ein hasiantaeth, Cywain, sy’n cynnig mynediad at yr ap Parodrwydd am Fusnes hwn. Am ragor o wybodaeth ewch i wefan Bwyd a Diod.

Bydd diogelu a chadw gweithlu medrus yn hollbwysig ar gyfer llwyddiant economaidd yn y dyfodol, ar ôl mis Mawrth 2019. Mae ymchwil wedi dangos mai ansawdd y bobl mewn busnes sy’n gwneud y gwahaniaeth rhwng llwyddo a methu – mae gwella sgiliau’r gweithlu yn fuddsoddiad yn y dyfodol. Mae ein Porth Sgiliau ar gael i helpu busnesau i wella sgiliau ac mae ein Cynllun Cyflogadwyedd wedi ei greu i ysgogi pob rhan o’r llywodraeth i weithio dros sicrhau cyflogaeth gynaliadwy i bobl. 

Cymorth ariannol gan yr UE

Mae Cymru’n cael £370m y flwyddyn o gronfeydd strwythurol a buddsoddi Ewropeaidd. Yn ystod ymgyrch refferendwm Brexit, rhoddwyd addewid i’r pleidleiswyr na fyddai Cymru ar ei cholled pe bai’r DU yn ymadael â’r UE. Rydym yn dal ati i bwyso ar Lywodraeth y DU i gyflawni’r addewid hwnnw.

Mae Llywodraeth y DU wedi cynnig sefydlu cronfa ffyniant dan reolaeth y DU, i ddisodli’r cyllid o’r UE sy’n dod i’r DU ar hyn o bryd. Ond rhaid i unrhyw gyllid sy’n disodli arian Ewrop lifo’n syth i Lywodraeth Cymru, a rhaid i Gymru benderfynu sut mae ei ddefnyddio, yn union fel y mae Llywodraeth Cymru’n penderfynu ar y defnydd gorau o gyllid yr UE ar hyn o bryd.

Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud yn glir hefyd bod rhaid i Lywodraeth y DU sicrhau bod sefydliadau a mudiadau yng Nghymru’n parhau i gymryd rhan yn Horizon 2020 a chynlluniau ymchwil eraill yr UE yr ydym wedi elwa arnynt hyd yn hyn.

Bydd ein gallu i gymryd rhan yn Horizon 2020 ac Erasmus ar ôl mis Ionawr 2021 yn dibynnu ar y berthynas economaidd rhwng y DU a’r UE, ac a fydd yn Llywodraeth y DU’n ennill yr hawl, ar ran y DU gyfan, i gymryd rhan yn y rhaglenni hyn fel ‘trydedd wlad’.

Allforio a masnach

Mae allforion yn rhan hollbwysig o economi Cymru ac rydym wedi ymrwymo i helpu busnesau i ddal ati i fasnachu dros y byd i gyd ar ôl i’r DU ymadael â’r UE. Bydd hyn yn bwysicach byth os yw’r DU yn ymadael heb gytundeb.

Mae cymorth cynhwysfawr ar gael drwy Busnes Cymru, i helpu cwmnïau i bennu’r camau i’w cymryd, beth bynnag fo’u profiad o allforio neu faint eu busnes, er mwyn ymdopi â’r heriau economaidd ar ôl Brexit.

Gwyddom y bydd y materion yn amrywio o gwmni i gwmni. Rydym yn sicrhau bod busnesau’n cael manteisio ar y deallusrwydd gorau, yr wybodaeth dechnegol a’r cyngor sydd ei angen i ddatblygu cyfleoedd allforio newydd.

Mae ein Parth Allforio Busnes Cymru yn llawn gwybodaeth a chyngor o bob math am allforio.

Mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi hysbysiad technegol am y newidiadau posibl yn y fasnach nwyddau rhwng y DU a’r UE os bydd Brexit heb gytundeb yn digwydd.

Mae’n rhoi’r cyngor canlynol i fusnesau, mewn senario heb gytundeb:

  • dylai busnesau ddeall y newidiadau tebygol i’r drefn Tollau Tramor a Chartref, fel y’u nodir yn yr hysbysiad technegol
  • dylai busnesau ystyried faint o fasnachu sydd rhyngddynt â’r UE ac unrhyw effeithiau posibl ar y gadwyn gyflenwi, ee trafod â busnesau eraill yn y gadwyn gyflenwi i sicrhau bod y cynlluniau angenrheidiol wedi’u gwneud ar bob lefel
  • dylai busnesau ystyried yr effaith ar eu rhan nhw o’r gadwyn gyflenwi â phartneriaid yn yr UE. Os na fydd Cytundeb Masnach Rydd wedi’i sefydlu rhwng y DU a’r UE ar ôl Brexit heb gytundeb, bydd ein masnach â’r UE’n gorfod digwydd ar delerau di-ffafriaeth Sefydliad Masnach y Byd (WTO). Golygai hyn y byddai nwyddau rhwng y DU a’r UE yn cael tariffau dan statws Cenedl a Ffefrir Fwyaf a rheolau tarddiad di-ffafriaeth.
  • os bydd angen, dylai busnesau ailnegodi telerau masnachol i adlewyrchu unrhyw newid yn y drefn Tollau Tramor a Chartref ac unrhyw dariffau newydd a osodir ar fasnach rhwng y DU a’r UE. Dylent hefyd ymgyfarwyddo â’r prosesau mewnforio ac  allforio tu allan i’r UE.
  • dylai busnesau ystyried sut byddant yn cyflwyno datganiadau tollau ar gyfer masnach â’r UE os bydd Brexit heb gytundeb, ac a ddylent benodi brocer tollau, cwmni anfon nwyddau neu ddarparwr logisteg i helpu, Fel arall, dylent gael y feddalwedd a’r awdurdodiadau priodol.
  • Cofrestrwch i gael y diweddaraf am Brexit gan Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi.

Rydym yn gweithio i leddfu effeithiau posibl eraill ar fasnach yng Nghymru, gan gynnwys gwahanol opsiynau ar gyfer rheoli’r problemau traffig posibl gyda loris nwyddau yn ein porthladdoedd, yn enwedig Caergybi, yr ail borthladd prysuraf yn y DU ar ôl Dover i loris nwyddau.

Rydym yn cydweithio’n agos â gweithredwyr ein porthladdoedd, y cwmnïau fferi, awdurdodau lleol a Llywodraeth y DU. Yn sgîl y trafodaethau hyn, mae Llywodraeth y DU wedi penderfynu peidio â chynnal unrhyw wiriadau ychwanegol ar y nwyddau a ddaw ar loris trwy’r porthladdoedd o’r UE yn y tymor byr, os bydd Brexit heb gytundeb.

Bydd porthladdoedd eraill Cymru, yn enwedig Abergwaun a Doc Penfro, wedi’u cynnwys yn y gwaith hwn wrth inni weithio i sicrhau bod nwyddau’n llifo mor rhwydd â phosibl rhwng Cymru ac Iwerddon.

Bydd Llywodraeth Cymru’n parhau i gefnogi busnesau drwy ein rhwydwaith ehangach o weithrediadau tramor. Mae'r cymorth ar gael ar ein gwefan Masnach a Buddsoddi sy’n esbonio sut byddwn yn helpu cwmnïau i ganfod marchnadoedd newydd ac arddangos Cymru fel cyrchfan ar gyfer buddsoddi a masnach.

Gwyddom mai un o’r prif bryderon sydd gan fusnesau yn sgîl Brexit heb gytundeb yw y gallai problemau yn y gadwyn gyflenwi a masnach yn gyffredinol amharu ar gyfalaf a llif arian.

Mae Banc Datblygu Cymru, a lansiwyd gan Lywodraeth Cymru yn 2017, yn ffynhonnell posibl o gymorth ariannol mewn amgylchiadau o’r fath. Mae gan y Banc Datblygu Gronfa Buddsoddi Hyblyg gwerth £130m sy’n cynnig benthyciadau busnes o hyd at £5m mewn un cylch cyllido, gyda hyd at 10 mlynedd o gyfnod ad-dalu.

Caffael yn y sector cyhoeddus

Rydym yn gweithio gyda Llywodraeth y DU a rhanddeiliaid eraill i sicrhau nad yw trefniadau caffael y sector cyhoeddus yn newid os bydd Brexit heb gytundeb. Bydd y rheolau caffael yn aros yr un fath ar y cyfan ac ni fydd trothwyon yn newid.

Y prif newid fydd cyhoeddi hysbysiadau contractau ar wasanaeth e-hysbysu yn y DU yn hytrach na thrwy’r hysbysiad Ewropeaidd OJEU/Tendrau Electronig Dyddiol. Bydd hyn yn parhau i ddigwydd trwy GwerthwchiGymru, felly fydd fawr ddim yn newid i’r defnyddwyr. Gwasanaeth ar-lein am ddim yw GwerthwchiGymru, sy’n helpu cyflenwyr i gael hyd i gontractau busnes a chyfleoedd o fewn gwasanaethau cyhoeddus Cymru.
Mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi rhagor o fanylion am yr hyn a fydd yn digwydd i gaffael yn y sector cyhoeddus os bydd Brexit heb gytundeb.

Rhagor o wybodaeth
Rhagor o fanylion am yr hyn a fydd yn digwydd i gaffael yn y sector cyhoeddus os bydd Brexit heb gytundeb (Saesneg yn unig) ar GOV.UK

Nesaf: iechyd a gwasanaethau cymdeithasol >