Addysg a sgiliau

Pa wasanaethau gaiff eu heffeithio?

Mae Llywodraeth Cymru’n cydweithio’n agos â’r sector addysg i asesu a lleddfu effaith posibl ‘Brexit heb gytundeb’ ar ysgolion, sefydliadau addysg bellach a’n prifysgolion.

Er na ddylai ysgolion weld unrhyw effaith uniongyrchol ar y dechrau, mae’n bosibl y bydd materion yn codi yn y sectorau eraill ac yn achosi effaith ganlyniadol. Rydym yn cydweithio’n agos â’r awdurdodau lleol i baratoi am y rhain ymlaen llaw er mwyn gallu cynnal y gwasanaethau i ddysgwyr.

Ni ddylai sefydliadau Addysg Bellach wynebu unrhyw effeithiau yn syth ar ôl gadael yr UE ond rydym yn monitro a gweithio gyda’r sector i baratoi. Yn y tymor hirach ar ôl i’r DU ymadael â’r UE, rydym wedi dweud yn glir y bydd yn rhaid i’n colegau gael arian i gymryd lle’r cyfan o’r cyllid UE y buont yn elwa arno er mwyn dal ati i feithrin sgiliau cryf a lledaenu cyfleoedd yng Nghymru.

Mae sector Addysg Uwch Cymru’n falch o’i gysylltiadau byd-eang ac rydym yn ategu safbwynt arweinwyr ein prifysgolion, sef bod ymadael â’r UE heb gytundeb yn un o’r bygythiadau mwyaf erioed i’n prifysgolion. Maen nhw’n gwneud cyfraniad sylweddol i economi Cymru, i swyddi, gwasanaethau cyhoeddus ac i’n diwylliant ac mae’n hollbwysig eu gwarchod.

Yn fuan ar ôl refferendwm yr UE, sefydlodd Llywodraeth Cymru weithgor Addysg Uwch ar Brexit i roi cyngor am oblygiadau Brexit i’r sector Addysg Uwch yng Nghymru.

I gefnogi ein prifysgolion rydym wedi rhoi cyllid ychwanegol i Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC) er mwyn ei helpu i ddelio â goblygiadau pontio o’r UE ac rydym wedi ariannu partneriaethau rhyngwladol mewn nifer o farchnadoedd pwysig gan gynnwys yr UDA a Fietnam.

Rydym wedi dweud yn glir y byddwn yn parhau i groesawu pobl o’r UE i weithio neu astudio yng Nghymru.

O 30 Mawrth 2019, gall dinasyddion yr UE a’i teuluoedd wneud cais am Gynllun Statws Preswyl y Swyddfa Gartref. Bydd hyn yn eu galluogi i fyw a gweithio yng Nghymru ar ôl Brexit.

Os ydych chi’n ddinesydd yr UE, â staff o’r UE neu’n recriwtio o’r UE, mae’r Swyddfa Gartref wedi cyhoeddi’r cyngor canlynol:

  • EU citizens in the UK – Stay Informed, mae hwn yn rhoi gwybodaeth am y cytundeb ar hawliau dinasyddion a’r Cynllun Preswylio i ddinasyddion yr UE yn y DU. 
  • os yw dinasyddion yr UE eisiau aros yn y DU tu hwnt i 31 Rhagfyr 2020, bydd angen iddyn nhw ac aelodau agos eu teulu wneud cais i Gynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE. Bydd y cynllun ar agor yn iawn erbyn mis Mawrth 2019. Ewch i gov.uk i gael rhagor o wybodaeth.
  • mae pecyn wedi ei lansio i roi offer a gwybodaeth i gyflogwyr gefnogi dinasyddion yr UE a’u teuluoedd gyda’r Cynllun Preswylio’n Sefydlog.

Bydd dinasyddion yr UE sy’n bwriadu astudio yng Nghymru ym mlwyddyn academaidd 2019-20 yn gymwys i dalu’r un ffïoedd dysgu â myfyrwyr Cymru ac yn gymwys hefyd i gael benthyciadau neu grantiau gan Cyllid Myfyrwyr Cymru. Byddant yn gymwys i gael cymorth hyd at ddiwedd eu cwrs.

Dylai myfyrwyr o’r UE siarad â swyddfa gyllid eu prifysgol neu ymweld â gwefan Cyllid Myfyrwyr Cymru i gael rhagor o wybodaeth am y cymorth sydd ar gael.

I amddiffyn addysg uwch yng Nghymru, mae Llywodraeth Cymru wedi dweud yn glir y dylai Llywodraeth y DU:

  • aros yn rhan o Horizon 2020 a chynlluniau ymchwil eraill yr UE;
  • cael trefniadau cyfatebol ar gyfer ffioedd dysgu myfyrwyr fel bod myfyrwyr o Gymru sy’n astudio yn yr UE yn talu’r lefelau ffioedd lleol a’r myfyrwyr o’r UE sy’n astudio yng Nghymru yn cael eu trin fel myfyrwyr o’r DU at ddibenion ffioedd a chostau astudio;
  • aros yn rhan o’r cynllun Erasmus+ i gyfnewid staff a myfyrwyr;
  • gwarantu statws dinasyddiaeth a fisa pobl o’r UE sy’n gweithio ym mhrifysgolion y DU;
  • peidio â chynnwys myfyrwyr yn yr ystadegau mudo cenedlaethol;
  • cael prifysgolion Cymru i gymryd rhan yn y cynllun fisa gwaith ar ôl astudio sy’n cael ei beilota ar hyn o bryd mewn pedair prifysgol yn Lloegr;
  • hyrwyddo mwy o symudedd tuag allan ym mhlith y myfyrwyr a staff sy’n astudio ym mhrifysgolion Cymru.

Yn dilyn cais gan Lywodraeth Cymru, cadarnhaodd y Swyddfa Gartref y byddai cynllun peilot y fisa gwaith ar ôl astudio yn cael ei ymestyn i ddwy brifysgol yng Nghymru – Prifysgol Caerdydd a Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant (campws Abertawe). Rydym am weld hyn yn cael ei estyn i bob sefydliad yng Nghymru.

Mae ein gallu i aros yn rhan o Horizon 2020 ac Erasmus ar ôl Ionawr 2021 yn dibynnu ar y berthynas economaidd gyda’r UE ac a fydd Llywodraeth y DU yn ennill yr hawl, ar ran y DU, i gymryd rhan yn y rhaglenni hyn fel ‘trydedd wlad’.

Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar dudalen Cwestiynau Cyffredin Horizon 2020, gan gynnwys manylion am y gwarant; yr estyniad i’r gwarant a sut bydd y DU yn parhau i gefnogi ymchwil ac arloesi ar ôl ymadael â’r UE.

Rydym yn dal i geisio cadarnhad y bydd Llywodraeth y DU yn darparu arian i gymryd lle’r ffynhonellau cyllid ymchwil y gallem gael ein cau allan ohonynt pan fydd y DU yn ymadael â’r UE ar 29 Mawrth 2019. Yn benodol, rydym yn aros am sicrwydd pendant, os na fydd y DU yn gallu bod yn rhan o gynlluniau cyllid y Cyngor Ymchwil Ewropeaidd a Marie Sklodowska-Curie Actions, sy’n cefnogi ymchwil arloesol ar lefel byd-eang, y bydd opsiynau cyllido eraill, o’r un lefel, yn cael eu creu.

Rydym wedi croesawu uchelgais a rennir rhwng Llyowdraeth y DU a’r UE i gael cytundeb yn y dyfodol a fydd yn cydnabod cymwysterau proffesiynol cilyddol (MRPQ). Bydd hyn yn helpu’r sectorau AB ac AU i ddenu myfyrwyr rhyngwladol.

Os bydd Brexit yn digwydd heb gytundeb, mae perygl y gallai rhai busnesau wneud prentisiaid yn ddi-waith. Os bydd hynny’n digwydd, bydd Llywodraeth Cymru’n gwneud popeth yn ei gallu i gael hyd i gyflogwyr eraill a fydd yn fodlon cefnogi’r brentisiaeth a byddwn yn cefnogi’r prentis yn ystod y broses honno.

Nesaf: amgylchedd ac amaethyddiaeth >