Neidio i'r prif gynnwy

Sefydlodd Panel Cynghori ar Amaethyddiaeth Cymru ei Is-bwyllgor parhaol ar Ddatblygu Sgiliau a Hyfforddiant yn unol â Gorchymyn Panel Cynghori ar Amaethyddiaeth Cymru (Sefydlu) 2016.

Ynghylch yr is-bwyllgor

Mae'r aelodaeth yn cynnwys cynrychiolwyr o'r undeb, academyddion ac arbenigwyr y diwydiant. Mae hefyd aelodau sy'n cynrychioli'r Clybiau Ffermwyr Ifanc a Lantra, fel y nodwyd yn y Gorchymyn.

Bydd yr aelodau'n cynnig amrywiaeth o arbenigedd, gwybodaeth a dealltwriaeth o anghenion sgiliau a hyfforddiant y sector amaethyddiaeth, yn ogystal â'r angen am gyfleoedd i gamu ymlaen mewn gyrfa.

Yr aelodau 

  • Dr Nerys Llewelyn Jones (Cadeirydd – Annibynnol)
  • Janatha Stout (Annibynnol)
  • Joanne Galazka (Unite)
  • Barrie Roberts (Unite)
  • Kevin Thomas (Lantra)
  • Mared Jones (CFfI Cymru)
  • Alun Elidyr Edwards (Undeb Amaethwyr Cymru)
  • Alex Higgs (Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr Cymru)
  • Vanessa Cashmore (Coleg Sir Gar)
  • Louis Dare (Coleg Sir Gar)
  • Laura Griffiths (Llywodraeth Cymru)