Neidio i'r prif gynnwy

Daeth Gorchymyn Panel Cynghori ar Amaethyddiaeth Cymru (Sefydlu) 2016 i rym ar 1 Ebrill 2016. Fe'i gwnaed o dan Ddeddf Sector Amaethyddol (Cymru) 2014.

Bydd gwaith y panel yn cyfrannu at les ein cymunedau a'n heconomi heddiw ac yn y dyfodol drwy bennu'r cyfraddau tâl a lwfansau isaf ar gyfer gweithwyr amaethyddol yn ogystal â gweithio i wella sgiliau a gyrfaoedd yn y sector.  

Diben y Panel Cynghori ar Amaethyddiaeth  

Mae gan y panel gylch gwaith clir:

  • cynnig Gorchmynion Cyflogau Amaethyddol newydd er mwyn sicrhau bod y cyfraddau tâl a lwfansau isaf yn deg, yn gyfoes ac yn unol â'r gyfraith cyflogaeth ehangach
  • gweithio i wella datblygiad sgiliau, hyfforddiant a gyrfaoedd yn y sector amaethyddol yng Nghymru. Bydd hyn yn cael ei gyflenwi ar y cyd ag Is-bwyllgor y panel ar ddatblygu sgiliau
  • caiff y panel sefydlu is-grwpiau i weithio ar bynciau penodol ac adrodd yn ôl i'r panel o fewn yr amserlen y cytunwyd arno. Rhaid i'r panel, yn ôl y gyfraith, sefydlu Is-bwyllgor Datblygu Sgiliau a Hyfforddiant i roi cyngor arbenigol i'r panel.  

Atebolrwydd 

Bydd gan aelodau'r panel rôl gynrychiadol a bydd disgwyl iddynt sicrhau eu bod yn cynnig eu harbenigedd fel rhan o negodiadau a thrafodaethau'r panel.

Bydd cofnodion y panel yn cael eu cyhoeddi a'u rhannu â Gweinidogion Cymru. Bydd adroddiad blynyddol am waith y panel hefyd yn cael ei gyhoeddi. 

Dulliau gweithio

Bydd y panel yn cytuno ar ei ffordd o weithio er mwyn hwyluso negodiadau a thrafodaethau clir a chydweithredol. Bydd y panel yn creu cylch gwaith clir ar gyfer yr Is-bwyllgor Datblygu Sgiliau a Hyfforddiant yn ogystal ag unrhyw is-grwpiau eraill fydd yn cael eu sefydlu. Bydd y panel yn cyflwyno adroddiad blynyddol o'i weithgarwch i Lywodraeth Cymru. 

Yn ychwanegol:

  • gellir cysylltu ag aelodau rhwng cyfarfodydd os oes angen cyngor penodol
  • gellir gwahodd pobl nad ydynt yn aelodau i gymryd rhan mewn cyfarfodydd penodol y Fforwm os yw'n briodol ar gyfer y pynciau sy'n cael eu trafod
  • bydd o leiaf 3 chyfarfod y flwyddyn yn cael eu cynnal mewn lleoliadau a bennir gan y panel
  • rhaid cael cymeradwyaeth ymlaen llaw i ddechrau ymchwil sy'n golygu costau - drwy Reolwr y panel fydd yn arwain yr ysgrifenyddiaeth a ddarperir gan swyddogion Llywodraeth Cymru 
  • caiff aelodau gyflwyno eitemau drafft ar gyfer yr agenda i'w cynnwys gan yr ysgrifenyddiaeth.  Bydd papurau'n cael eu dosbarthu 7 niwrnod gwaith cyn pob cyfarfod.