Neidio i'r prif gynnwy

Mae’r Panel Cynghori ar Amaethyddiaeth Cymru yn hyrwyddo gyrfaoedd ym maes amaethyddiaeth ac yn cynghori ar gyflogau amaethyddol.

Ynghylch y panel

Mae Panel Cynghori ar Amaethyddiaeth Cymru yn gorff annibynnol sy'n cynghori Gweinidogion Cymru ar drefniadau'r Isafswm Cyflog Amaethyddol a thelerau ac amodau cyflogaeth ar gyfer gweithwyr amaethyddol, garddwriaethol a choedwigaeth yng Nghymru.

Mae hefyd yn hyrwyddo:

  • gyrfaoedd mewn amaethyddiaeth, garddwriaeth a choedwigaeth
  • datblygu gweithlu â sgiliau priodol, ac
  • yn rhoi cyngor ychwanegol i Weinidogion yn ôl y gofyn.

Ein cylch gwaith

Mae gan y panel gylch gwaith clir:

  • drafftio gorchmynion cyflogau amaethyddol i bennu cyfraddau cyflog a lwfansau lleiaf a theg a lwfansau i weithwyr amaethyddol, ymgynghori ar orchmynion o'r fath a chyflwyno fersiynau drafft ohonynt i Weinidogion Cymru
  • hybu gyrfaoedd mewn amaethyddiaeth
  • rhoi cyngor i Weinidogion yn ôl yr angen

Y panel 

Mae'r panel yn cynnwys aelodau sy'n cynrychioli cyflogwyr a gweithwyr, a thri aelod annibynnol a benodwyd gan Weinidogion Cymru. Mae'r Panel yn cynnwys 7 aelod:

  • cadeirydd annibynnol
  • 2 aelod annibynnol
  • 4 cynrychiolydd undeb
  • 2 o Unite
  • 1 o Undeb Amaethwyr Cymru
  • 1 o Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr Cymru

Yr aelodau

  • Dr Nerys Llewelyn Jones (Cadeirydd – Annibynnol)
  • Janatha Stout (Annibynnol)
  • Steve Hughson (Annibynnol)
  • Darren Williams (Undeb Amaethwyr Cymru)
  • Simon Davies (NFU Cymru)
  • Ivan Monkton (Unite)
  • Joanne Galazka (Unite)