Neidio i'r prif gynnwy

Datganiadau buddiant aelodau Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol

Frances Duffy (Cadeirydd)

Mae Frances yn Gyfarwyddwr Frances Duffy Consulting Ltd, sy'n darparu sicrwydd a chyngor am brosiectau i'r sector cyhoeddus ledled Cymru a gweddill y DU.

Saz Willey (Is-gadeirydd)

Saz yw Cadeirydd Gofal a Thrwsio Cymru. Mae'n aelod o Sefydliad Siartredig y Gweithredwyr Cyfreithiol, Cymdeithas y Cadeiryddion, Women on Board a Rhwydwaith Cydraddoldeb Menywod Cymru ac yn gwirfoddoli mewn pantri bwyd lleol.

Beverley Smith

Mae Beverley yn Gadeirydd Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru, yn Gyfarwyddwr Anweithredol yr Awdurdod Glo ac yn Gyfarwyddwr Beverley Smith Consultancy Ltd.

Dianne Bevan (Aelod)

Mae Dianne yn Ymddiriedolwr Cymdeithas Hansard, Llundain (elusen sy'n hyrwyddo democratiaeth seneddol), yn Gydymaith â Global Partners Governance, Llundain (sefydliad sy'n gweithio gyda democratiaethau sy'n datblygu) ac yn Gomisiynydd Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru.

Katherine Watkins

Dim datganiadau.