A yw penderfyniadau’r panel yn orfodol?

Mae’r Panel yn pennu cyfraddau taliadau ond mae cynghorwyr yn cadw’r dewis i beidio â derbyn y cyfan neu ran o’u hawl unigol. Ni all awdurdodau amrywio’r symiau sy’n daladwy nac oedi cyn gweithredu penderfyniadau’r Panel.

Mae’r gofynion o ran cydymffurfio yn yr Adroddiad Blynyddol yn golygu bod disgwyl i awdurdodau perthnasol gyhoeddi’n flynyddol y symiau y maent yn eu talu i bob aelod ac aelod cyfetholedig o ran Cyflog (Cyflog Sylfaenol, Uwch Gyflog, Cyflog Dinesig), lwfansau, ffioedd ac ad-daliadau. 

Gweler Atodiadau’r adroddiad blynyddol diweddaraf am fanylion.

Oes rhaid i Gyngor Tref/Cymuned dalu i’w aelodau?

Mae penderfyniadau mewn perthynas â chynghorau tref a chymuned yn ganiataol. Caniateir i bob cyngor tref a chymuned wneud taliad i’w aelodau hyd at uchafswm o £150 y flwyddyn am gostau a ysgwyddwyd mewn perthynas â defnyddio’r ffôn, technoleg gwybodaeth, defnyddiau traul a.y.b. Os cytunir ar daliad mae’n rhaid iddo fod ar gael i’r holl aelodau.

A oes gan aelod hawl i beidio â derbyn y cyfan neu ran o’i Gyflog?

Mae gan aelod unigol hawl i beidio â derbyn y cyfan neu ran o’i Gyflog Sylfaenol/Uwch Gyflog dan Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011, ond er mwyn gwneud hynny mae’n rhaid iddo hysbysu Swyddog Priodol y Cyngor yn ysgrifenedig.

Am beth all aelodau cyfetholedig hawlio?

Mae’n rhaid i awdurdodau lleol dalu ffi ddyddiol neu ffi hanner diwrnod i aelodau cyfetholedig â hawliau pleidleisio. Mae cyfarfodydd sy’n gymwys ar gyfer talu ffi yn cynnwys pwyllgorau, gweithgorau, rhag-gyfarfodydd gyda swyddogion, hyfforddiant, a phresenoldeb mewn cynadleddau ac unrhyw gyfarfod ffurfiol y gofynnir i aelodau cyfetholedig fod yn bresennol ynddo.

Mae amser paratoi rhesymol ar gyfer cyfarfodydd ac amser teithio i ac o gyfarfodydd yn gymwys i gael eu cynnwys mewn hawliadau gan aelodau cyfetholedig hefyd.

Gall awdurdodau lleol benderfynu ar uchafswm y diwrnodau y gellir talu i aelodau cyfetholedig mewn unrhyw flwyddyn unigol.

Ble allaf weld rheoliadau’r Panel Annibynnol ar Gydnabyddiaeth Ariannol?

Mae rheoliadau’r Panel Annibynnol ar Gydnabyddiaeth Ariannol i’w gweld yn yr Atodiad wrth yr Adroddiad Blynyddol diweddaraf a gyhoeddwyd ar y wefan.

Lle caiff lwfans milltiredd ei hawlio a oes rhaid iddo gael ei dalu yn ôl y cyfraddau penodedig?

Os yw aelodau’n hawlio lwfansau milltiredd, mae’n rhaid iddynt gael eu talu yn ôl cyfradd benodedig Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi.

A all aelod hawlio lwfans milltiredd ar ôl bod yn deithiwr mewn car a oedd yn cael ei yrru gan rywun arall?

Dylai awdurdodau dalu lwfansau milltiredd yn ôl y cyfraddau penodedig i aelod, ar fusnes swyddogol, sydd wedi bod yn deithiwr mewn cerbyd a oedd yn cael ei yrru gan rywun arall, ar yr amod bod yr awdurdod wedi’i argyhoeddi bod yr aelod wedi ysgwyddo cost.

A oes hawl gan bob aelod i hawlio lwfans gofal?

Mae’n rhaid i bob awdurdod ad-dalu’r treuliau angenrheidiol sy’n deillio o ofal ar gyfer plant ac oedolion dibynnol ac anghenion gofal personol hyd at yr uchafswm presennol o £403 y mis, yn amodol ar ddangos derbynebau.

Where can I find an interpretation of the terminology used in the Panel’s annual report?

Annex 2 of the panel’s report is a glossary of the terminology used by the Panel.