Neidio i'r prif gynnwy

Mae Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol yn gyfrifol am bennu’r lwfansau sy’n daladwy i aelodau etholedig prif gynghorau, awdurdodau parciau cenedlaethol, awdurdodau tân ac achub, a chynghorau tref a chymuned yng Nghymru.

Sefydlwyd y Panel yn 2008 ac mae’n annibynnol ar lywodraeth ganolog a lleol. Mae gennym bwerau i wneud argymhellion ynghylch amrywiadau arfaethedig i gydnabyddiaeth ariannol prif weithredwyr prif gynghorau yng Nghymru.

Mae’r panel yn cyhoeddi adroddiad blynyddol, yr ymgynghorir arno. Mae’r adroddiad blynyddol yn cynnwys holl benderfyniadau’r panel.

Y cyfarfodydd nesaf

Mae’r panel yn cwrdd bob mis. Dyma ddyddiadau’r cyfarfodydd nesaf: 

2024

16 Ionawr
13 Chwefror
12 Mawrth
23 Ebrill
14 Mai
25 Mehefin
23 Gorffennaf
3 Medi
22 Hydref
19 Tachwedd

2025

7 Ionawr
18 Chwefror
18 Mawrth