Neidio i'r prif gynnwy

Pam dewis addysg uwch?

Drwy fynd i addysg uwch cewch gyfle i astudio pwnc o'ch dewis a chynyddu eich gwybodaeth, ond mae yna fanteision eraill hefyd:

  • Gwella eich cyfleoedd i ennill mwy o gyflog

    Yn ôl UCAS, ar gyfartaledd mae cyflog graddedigion rhwng 25 a 30 oed 30% yn uwch na chyflog y rheini sydd heb radd.

  • Meithrin sgiliau bywyd hanfodol

    Mae astudio yn y brifysgol yn caniatáu ichi wella eich sgiliau cyfathrebu, cymell ac arwain. Bydd hefyd yn caniatáu ichi fagu hyder, dysgu sut i reoli eich amser a datrys problemau. Mae'r rhain i gyd yn sgiliau a fydd yn gwella eich gyrfa a'ch cyfleoedd mewn bywyd.

  • Dysgu bod yn annibynnol

    Bydd astudio yn y brifysgol yn rhoi cyfle ichi fuddsoddi ynoch chi eich hun, cwrdd â phobl newydd ac ehangu eich gorwelion.

  • Cyflawni'n bersonol

    Mae astudio yn y brifysgol yn newid a chyfoethogi eich bywyd. Ar ôl astudio'n galed am dair blynedd neu fwy, byddwch yn teimlo eich bod wedi cyflawni rhywbeth aruthrol.

Pa gwrs ddylwn i ei ddewis?

Yn y DU mae yna fwy na 50,000 o gyrsiau mewn mwy na 25 o feysydd pwnc i ddewis o'u plith.

Yn ogystal â dewis pwnc, bydd angen ichi hefyd ystyried:

  • Math o gwrs

    Gallwch ddewis astudio'n amser llawn neu'n rhan-amser, neu gallwch ddewis dysgu o bell hyd yn oed drwy gwrs a gaiff ei redeg gan y Brifysgol Agored, gan astudio gartref.

    Mae dysgu rhan-amser a dysgu o bell yn opsiynau da os oes gennych gyfrifoldebau gwaith neu ofalu, neu os ydych yn magu teulu.

  • Ble i astudio

    Bydd llawer o brifysgolion yn cynnig cyrsiau yn y pwnc rydych yn ymddiddori ynddo, ond bydd pob cwrs ychydig yn wahanol ym mhob prifysgol. Mae'r ffioedd dysgu yn gallu amrywio ac yn cael eu pennu gan y brifysgol neu'r coleg. Yng Nghymru, gosodwyd cap ar ffioedd dysgu, sef £9,000 y flwyddyn, ond mewn rhannau eraill o'r DU gallech orfod talu hyd at £9,250 y flwyddyn am gwrs gradd amser llawn.

Cyllido eich astudiaethau

Gall myfyrwyr sy'n mynd i addysg uwch o fis Medi 2018 wneud cais am grantiau a benthyciadau i helpu gyda chostau byw, a benthyciad i helpu gyda ffioedd dysgu. Mae'n bosibl y gallech fod yn gymwys am gymorth ychwanegol fel Grant Gofal Plant, Lwfans Dysgu i Rieni, Grant Oedolion Dibynnol neu Lwfansau i Fyfyrwyr Anabl.

Straeon addysg uwch

Dylan o Fangor
Yn ôl Dylan Jones, 21, o Fangor, dydy’r pandemig ddim yn amharu ar ei gynlluniau ar gyfer y dyfodol, er gwaethaf y newidiadau i ddysgu dros y flwyddyn ddiwethaf.
Elen o Ynys Môn
Mae Elen Jones, sy’n 20 oed ac o Ynys Môn, yn astudio am radd yn y Gymraeg a'r Cyfryngau er mwyn helpu i roi ei gyrfa ar ben ffordd.
Elin o Gaerwys
Pecyn cyllid myfyrwyr yn helpu myfyriwr o Sir y Fflint i astudio cwrs ei breuddwydion yng Nghaergrawnt
Jazz o Abertawe
Mae Jazz yn teimlo manteision cymorth ariannol fel myfyriwr gradd Meistr
Kirsty o Casnewydd
Kirsty yn astudio ar gyfer BSc Gwyddorau’r Amgylchedd tra'n rhedeg ei busnes eco-lanhau ei hun
Joanne o Gaerdydd
Mam o Bontardawe ar y ffordd i fod yn athrawes drwy radd ran-amser gyda’r Brifysgol Agored
Paul o Ferthyr Tudful
Arbenigwr diogelwch TG yn elwa o fanteision astudio’n rhan amser yn y brifysgol.
Ilan o’r Bala
Myfyriwr â dyslecsia wedi cael gradd dosbarth cyntaf mewn Peirianneg Electronig ym Mhrifysgol Bangor.
Y teulu Humphreys o Drefaldwyn
Rhieni yn cefnogi penderfyniad eu plant i fynd i’r brifysgol a gwireddu eu breuddwyd.

Paid â gadael i arian dy atal rhag mynd i Brifysgol

O fis Medi 2018 bydd israddedigion cymwys sy’n fyfyrwyr am y tro cyntaf (amser llawn a rhan-amser) yn derbyn cymorth cynhwysfawr tuag at gostau byw bob dydd yn ystod y tymor, lle bynnag yn y DU y dewisant astudio.