Neidio i'r prif gynnwy
Tola o Gaerffili

Myfyriwr coleg yn edrych ymlaen at fynd i’r brifysgol i hyfforddi fel ffisiotherapydd gyda phecyn cymorth myfyrwyr newydd gan Lywodraeth Cymru.

Bydd Tola Rotibi, 17 oed, o Gaerffili, yn un o’r cyntaf i elwa ar y pecyn cymorth ariannol newydd ar gyfer myfyrwyr o Gymru sy’n mynd i’r brifysgol o fis Medi 2018

Mae Tola, sydd wrth ei bodd yn chwarae pêl-fasged a phêl-rwyd, yn astudio bioleg, seicoleg ac addysg gorfforol Safon Uwch yng ngholeg chweched dosbarth Dewi Sant ym Mhenylan, Caerdydd. Mae wedi cael cynnig lle i astudio ffisiotherapi yn King’s College yn Llundain.

Meddai:

“Mae’r pecyn cymorth newydd i fyfyrwyr yn golygu y bydd gen i hawl i o leiaf £1,000 mewn grant felly rydw i’n lwcus iawn. Rydw i’n teimlo llai o bwysau i weithio yn ystod y tymor a galla i ganolbwyntio ar fy nghwrs a gweithio dros yr haf yn hytrach nag yn ystod y tymor.

“Gwelais yn y newyddion hefyd fod y trothwy ar gyfer ad-dalu benthyciadau myfyrwyr yn cael ei godi o £21,000 i £25,000, sy’n beth da. Mae ambell ffrind wedi bod yn poeni am dalu eu benthyciadau myfyrwyr yn ôl, ond rwy’n ceisio dweud wrthyn nhw i feddwl am y darlun mawr - eich bod yn talu yn ôl ychydig ar y tro pan fyddwch chi’n ennill dros swm penodol, felly dyw e ddim yn llawer mewn gwirionedd.  

Tola yw’r ieuengaf o dair chwaer. Mae ei dwy chwaer fawr yn dal yn y brifysgol.

Meddai ei mam, Adenya: “Dim arian oedd ein prif ystyriaeth - dim oherwydd bod gennym ni bocedi diwaelod a ddim yn gorfod poeni am arian, ond gan nad oedden ni am i arian chwalu eu breuddwydion. O ystyried profiad y merched hynaf, mae cyllid myfyrwyr yn system dda sy’n gwella gan y bydd mwy o gymorth ariannol ar gyfer Tola.”

Mae Tola yn meddwl ymlaen tra’n parhau i astudio.

Meddai:

“Ddylai arian ddim fod yn ystyriaeth wrth benderfynu ar eich dyfodol gan mai dim ond un darn o’r jig-so yw hynny. Mae ffactorau eraill fel pa mor dda yw’r brifysgol, ansawdd yr addysgu, boddhad myfyrwyr a hyd yn oed y bywyd cymdeithasol yr un mor bwysig hefyd. Ar ôl y brifysgol, hoffwn fynd dramor a gweithio am dipyn. Hoffwn agor fy nghlinig fy hun ar ôl dod yn ôl. Dyna’r bwriad.”

Paid â gadael i arian dy atal rhag mynd i Brifysgol

O fis Medi 2018 bydd israddedigion cymwys sy’n fyfyrwyr am y tro cyntaf (llawn-amser a rhan-amser) yn derbyn cymorth cynhwysfawr tuag at gostau byw bob dydd yn ystod y tymor, lle bynnag yn y DU y dewisant astudio