Neidio i'r prif gynnwy

Gweithiwr ffatri’n elwa ar gwrs prifysgol rhan-amser ac yn cefnogi’r pecyn cymorth newydd i fyfyrwyr gan Lywodraeth Cymru

Gweithiwr llawr mewn ffatri platio crôm oedd Paul Mahoney, 50 oed o Ferthyr Tudful, pan soniodd ei reolwr wrtho am y Brifysgol Agored. Doedd Paul, a oedd yn 30 oed ar y pryd, yn briod ac yn dad i dri, erioed wedi ystyried prifysgol cyn hynny.

Meddai Paul:

“Y tro cyntaf i’r rheolwr awgrymu prifysgol i mi, meddyliais, ‘w, na dim diolch’. Cefais fy magu ar stad gyngor ym Merthyr. Glöwr oedd fy nhad, a mam yn gweithio mewn tafarn. Dyna’r oll oedd bobl rownd ffor’hyn yn ei wneud. Dim ond mathau arbennig o bobl oedd yn mynd i brifysgol pan oeddwn i yn yr ysgol. Doedd pethau ddim fel maen nhw heddiw, lle mae pobl o bob cefndir yn mynd i brifysgol..”

Ond aeth Paul amdani, gan astudio mathemateg a chemeg ym mlwyddyn gyntaf ei radd rhan-amser. Ar ôl newid i swydd TG yn y ffatri platio crôm, penderfynodd newid cwrs hefyd, ac wedi chwe blynedd o astudio rhan-amser, graddiodd mewn Technoleg Gwybodaeth yn y diwedd.

Helpodd ei radd Prifysgol Agored i sicrhau swydd datblygwr meddalwedd gyda NoteMachine, y rhwydwaith peiriannau twll yn y wal. Yna, diolch i astudiaeth bellach – gradd Meistr mewn rhwydweithio uwch – cafodd Paul ddyrchafiad i’w rôl bresennol fel Pennaeth Diogelwch a Chydnerthedd Rhwydwaith NoteMachine.

Meddai Paul:

“Os gallwch chi fynd ymlaen i wneud rhywbeth yn y brifysgol, yna fe allai weddnewid eich bywyd chi. Dyna ’mhrofiad i beth bynnag.

Teimlais ’mod i wedi cyflawni rhywbeth arbennig ar ôl derbyn y radd gyntaf honno, ac mae’r cyfan wedi sbarduno fy ngyrfa a rhoi hwb aruthrol i’m hincwm i.”

Os mai arian yw’r unig beth sy’n eich atal chi rhag mynd i brifysgol, yna mae cynllun fel pecyn cymorth newydd Llywodraeth Cymru i fyfyrwyr yn amhrisiadwy.””

Paid â gadael i arian dy atal rhag mynd i Brifysgol

O fis Medi 2018 bydd israddedigion cymwys sy’n fyfyrwyr am y tro cyntaf (llawn-amser a rhan-amser) yn derbyn cymorth cynhwysfawr tuag at gostau byw bob dydd yn ystod y tymor, lle bynnag yn y DU y dewisant astudio