Neidio i'r prif gynnwy

Daeth yr ymgynghoriad i ben 21 Mehefin 2018.

Cyfnod ymgynghori:
10 Mai 2018 i 21 Mehefin 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Crynodeb o’r canlyniad

Mae'r crynodeb o ymatebion bellach ar gael. 

Manylion am y canlyniad

Crynodeb o ymatebion , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 457 KB

PDF
457 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Ymgynghoriad gwreiddiol

Hoffem glywed eich barn ar ba un a ddylid datgymhwyso dros dro baragraff 6.2 o TAN 1.

Disgrifiad o'r ymgynghoriad

Mae ein polisi cynllunio yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau cynllunio lleol gynnal cyflenwad pum mlynedd o dir y gellid ei ddarparu ar gyfer tai, yn seiliedig ar fodloni’r gofynion tai a nodwyd mewn Cynlluniau Datblygu Lleol (Polisi Cynllunio Cymru, paragraff 9.2.3). Mae awdurdodau cynllunio heb gyflenwad pum mlynedd o dir ar gyfer tai yn agored i dderbyn ceisiadau cynllunio tybiannol ar gyfer tai.

Rydym yn cynnig datgymhwyso paragraff 6.2 o TAN 1.  Bydd hyn yn cael gwared ar y cyfeiriad i roi pwysoliad “sylweddol” i’r diffyg cyflenwad pum mlynedd o dir ar gyfer tai fel ystyriaeth o bwys wrth benderfynu ar geisiadau cynllunio ar gyfer tai.

 

Dogfennau ymgynghori

Dogfen ymgynghori , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 354 KB

PDF
354 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.