Neidio i'r prif gynnwy

Lesley Griffiths, Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
3 Medi 2012
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Hoffwn roi gwybod i Aelodau am hynt y gwaith o Ddiogelu ac Amddiffyn Plant o fewn GIG Cymru.

Mae hyn yn flaenoriaeth bwysig i Lywodraeth Cymru, ac felly rwyf wedi ymrwymo i gyhoeddi datganiad blynyddol.  Rhaid i ddiogelu plant o fewn GIG Cymru barhau i gael lle amlwg yng ngwaith pob un ohonom ac rwy’n falch fod llawer o waith wedi’i wneud hyd yn hyn.  Wrth gwrs, mae llawer mwy i’w wneud ac ni allwn fyth orffwys ar ein rhwyfau. Dyma’r cyntaf o’m datganiadau blynyddol i’r Cynulliad Cenedlaethol ar ddiogelu plant o fewn GIG Cymru.

Mae’r adolygiad o strwythurau, swyddogaethau, atebolrwydd a rhyngwynebau Gwasanaeth Diogelu Plant Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi’i gwblhau.

Trefnwyd digwyddiad ar gyfer rhanddeiliaid ym mis Mai 2012 i helpu gyda’r gwaith o sicrhau bod y cytundeb lefel rhaglen ar gyfer Gwasanaeth Diogelu Plant Iechyd Cyhoeddus Cymru yn adlewyrchu ei swyddogaeth barhaus o ran cefnogi gweithgareddau diogelu ac amddiffyn plant o fewn GIG Cymru.  Mae’r gwaith o adolygu’r cytundeb lefel rhaglen ar y gweill yn awr.  Sefydlodd y digwyddiad hwn gylch gorchwyl drafft Rhwydwaith Diogelu Plant GIG Cymru hefyd.  Rhagwelir y bydd y Rhwydwaith yn helpu i sicrhau bod GIG  Cymru yn sefydliad diogel i blant, ac yn gweithredu fel dolen hanfodol rhwng strategaethau a threfniadau lleol a datblygiadau cenedlaethol ym maes polisi.  Bydd hefyd yn datblygu swyddogaeth yr hyrwyddwyr ac yn annog y prif sefydliadau i gysylltu â’i gilydd.  Mae gwaith Rhwydwaith Diogelu Plant GIG Cymru yn cynnwys:

  • Egluro natur, swyddogaethau a chyfrifoldebau Gweithwyr Proffesiynol Dynodedig ac Enwebedig yn sgil ad-drefnu a diwygio GIG Cymru.
  • Gwerthuso effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd trefniadau ac ymyriadau diogelu ac amddiffyn plant o fewn GIG Cymru.
  • Galluogi Byrddau Iechyd Lleol, Ymddiriedolaethau a sefydliadau eraill i rannu arferion gorau.

Mae proses ar waith erbyn hyn i sicrhau bod aelodau Bwrdd y GIG wedi derbyn yr hyfforddiant priodol ar ddiogelu ac amddiffyn plant. Mae diogelu plant yn rhan o brosesau monitro perfformiad Llywodraeth Cymru ac mae bellach yn eitem bwysig ar agenda cyd-gyfarfod y Tîm Gweithredol.

Mae fy swyddogion wedi sefydlu grŵp cyfeirio arbenigol sydd wedi adolygu’r trefniadau ar gyfer hyfforddi staff a gyflogir gan y GIG, contractwyr annibynnol, gwirfoddolwyr a mudiadau’r trydydd sector yng Nghymru.  Canlyniad y gwaith hwn fydd fframwaith safonol sy’n argymell lefelau hyfforddiant ar ddiogelu plant ledled GIG Cymru, ac sy’n nodi lefel gwybodaeth a sgiliau pob swydd broffesiynol, gan gynnwys uwch reolwyr a staff meddygol.  Bydd hyn yn sicrhau bod pawb drwy Gymru yn gweithredu yn yr un ffordd.  Mae fy swyddogion yn ymgynghori ag adrannau perthnasol y Llywodraeth ar ganlyniadau’r grŵp cyfeirio arbenigol.

Rydym wastad wedi bod yn gwbl bendant fod diogelu yn fater i bawb, ac mae gan y GIG swyddogaeth gwbl allweddol yn y trefniadau hyn, ochr yn ochr â phartneriaid eraill.  Mae’r Dirprwy Weinidog Plant a Gwasanaethau Cymdeithasol eisoes wedi cyflwyno datganiadau ysgrifenedig i’r Cynulliad ar y dull o ddiogelu ac amddiffyn pobl Cymru sy’n dod i’r amlwg, ac a gynhwysir ym Mil Gwasanaethau Cymdeithasol (Cymru).  Mae’r Comisiwn Annibynnol, y Grŵp Amddiffyn Oedolion Agored i Niwed, Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru ac Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru i gyd wedi dweud bod systemau cadarn ar waith i amddiffyn pobl mewn perygl.  Er hynny mae modd gwella pethau ac mae angen inni symud ymlaen a chyflawni ein hymrwymiad i gryfhau trefniadau diogelu ac amddiffyn yng Nghymru.  

Daeth yr ymgynghoriad ar ddarpariaethau Bil Gwasanaethau Cymdeithasol (Cymru) i ben yn ddiweddar ac mae ein trefniadau ar gyfer diogelu ac amddiffyn yn agwedd allweddol ohono.  Rhaid i Lywodraeth Cymru sicrhau bod fframwaith statudol cadarn a chydlynol yn bodoli i ddiogelu ac amddiffyn plant, yn ogystal ag oedolion mewn perygl.  Byddwn yn dangos y ffordd yn glir ac yn bendant i’n rhanddeiliaid, fel y gall hyn ddigwydd.  Bydd ein hymrwymiad i sefydlu Bwrdd Diogelu Annibynnol Cenedlaethol a Byrddau Diogelu newydd yn helpu i gefnogi fframwaith hollgynhwysol i wella trefniadau diogelu ac amddiffyn, ac yn sicrhau hefyd bod mwy o gysondeb rhwng arferion asiantaethau statudol ac ymarferwyr, gan gynnwys y rhai sydd o fewn y GIG.

Sylweddolwn fod llawer o waith o’n blaenau.  Cyn llunio’r ddeddfwriaeth, mae’r Dirprwy Weinidog wedi gofyn i’r Byrddau Lleol Diogelu Plant ddechrau cynllunio ar gyfer y newid drwy fynd ati i weithio mewn ffordd fwy cydweithredol sy’n gyson â’r trefniadau sy’n cael eu sefydlu ar sail patrwm cydweithredu’r Gwasanaethau Cyhoeddus.  Mae pob un o’r Byrddau Lleol Diogelu Plant wedi cyflwyno adroddiadau ar hynt y gwaith ac mae’r wybodaeth yn dangos fod llawer o waith adeiladol wedi’i wneud.  Byddwn yn parhau i gysylltu’n adeiladol â’r rhanddeiliaid allweddol – gan gynnwys y GIG – ynglŷn â datblygu’r cynigion fydd yn ymddangos yn y ddeddfwriaeth bwysig hon.  

Mae’r gwaith o ymgynghori ar fframwaith newydd ar gyfer Adolygiadau Ymarfer Plant yn lle’r Adolygiadau Achos Difrifol, wedi dod i ben.  Bydd y fframwaith newydd yn creu system adolygu fwy effeithiol ac yn gwella’r diwylliant o ddysgu yn sgil achosion diogelu plant er mwyn cefnogi arferion rhyngasiantaethol.  Mae ymarferwyr yn ymwneud yn agos â’r gwaith o ddatblygu’r fframwaith newydd, a chynhaliwyd treialon ledled Cymru, rhai ohonynt dan arweiniad y GIG, i brofi’r cynigion.  Mae rheoliadau wedi cael eu gwneud i gefnogi’r fframwaith newydd ac mae trefniadau yn cael eu hystyried i gefnogi’r broses o’i gyflwyno.  Mae swyddogion wedi ysgrifennu at y Byrddau Lleol Diogelu Plant a’r prif asiantaethau statudol i roi gwybod iddynt ein bod yn bwriadu cyflwyno’r fframwaith newydd ddechrau 2013.

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymgynghori â Grŵp Cynghori Arbenigol Cenedlaethol yr Ymarferwyr Cyffredinol a’r Pwyllgor Meddygon Teulu yng ngoleuni canllawiau newydd y Cyngor Meddygol Cyffredinol ar gyfrifoldebau pob meddyg o ran diogelu plant, ac mae wedi cytuno ar fframwaith diogelu Sicrhau Ansawdd Gofal Sylfaenol ar gyfer adrodd ar y broses drwy Rwydwaith Clinigol GIG Cymru Gyfan ar gyfer Diogelu.

Mae’r Bwrdd Rhaglen Rhannu Gwybodaeth Bersonol wedi cytuno y dylid cynnal ymchwil sy’n ystyried rhannu gwybodaeth yng nghyd-destun diogelu’n benodol. Darperir tystiolaeth o arferion o ran defnyddio fframwaith Cytundeb Rhannu Gwybodaeth Bersonol Cymru (WASPI) i ddatblygu Protocolau Rhannu Gwybodaeth yng nghyd-destun diogelu a chyflwynir astudiaethau achos sy’n hybu’r defnydd ohono drwy Gymru gyfan.  Bydd y canfyddiadau yn dod i law ym mis Mawrth 2013.

Mae Diogelu ac Amddiffyn Plant o fewn GIG Cymru yn parhau i fod yn flaenoriaeth bwysig i’r Llywodraeth hon.  Yn wir, byddwn yn sicrhau ein bod yn gweithio law yn llaw ag asiantaethau allweddol eraill i sicrhau bod plant Cymru yn cael eu diogelu a’u hamddiffyn yn briodol.

Cyhoeddir y datganiad hwn yn ystod y toriad er mwyn sicrhau bod Aelodau’r Cynulliad yn cael yr wybodaeth ddiweddaraf.  Os yw’r Aelodau’n dymuno hynny, byddwn yn hapus i wneud datganiad arall neu i ateb cwestiynau am y datganiad hwn pan fydd y Cynulliad yn ailymgynnull.