Neidio i'r prif gynnwy

Lesley Griffiths, Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
18 Gorffennaf 2012
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016


Hoffwn hysbysu Aelodau'r Cynulliad bod y fersiwn ddrafft o Gynllun Cenedlaethol Cymru ar gyfer Iechyd y Geg wedi'i chyhoeddi heddiw er mwyn ymgynghori arni.
Mae'r Cynllun arfaethedig, sy'n cydweddu â'n gweledigaeth ar gyfer y GIG yng Nghymru a amlinellir yn Law yn Llaw at Iechyd, yn amlinellu agenda ar gyfer gwella iechyd y geg a lleihau anghydraddoldebau o ran iechyd y geg yng Nghymru  dros y pum mlynedd nesaf ac wedi hynny.
Mae iechyd y geg yn rhan annatod o iechyd cyffredinol. Mae cyfrifoldeb ar bawb sy'n darparu gwasanaethau iechyd i helpu i sicrhau'r gwelliannau mewn iechyd y geg y mae arnom ni angen eu gweld.
Yr hyn sy'n greiddiol i'r Cynllun hwn yw atal afiechyd. Dim ond os yw'r gwasanaethau deintyddol a'r rhaglenni gwella iechyd y geg yn canolbwyntio ar ofal iechyd sylfaenol ac atal afiechyd y gellir osgoi'r ffactorau risg sy'n arwain at afiechyd y geg.  Mae ein Rhaglen Lywodraethu yn pennu, fel amcanion allweddol, ei gwneud yn haws cael gafael ar ddeintyddion lle ceir problemau yn lleol, atal afiechyd y geg, a lleihau anghydraddoldebau drwy barhau i weithredu Cynllun Gwên i wella iechyd deintyddol plant. Hefyd, mae angen i bobl fod yn ymwybodol bod iechyd y geg yr un mor bwysig â’u hiechyd a'u lles yn gyffredinol. Mae'r Cynllun drafft yn amlinellu sut y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cwrdd â'r ymrwymiadau hyn. Mae'n ystyried y materion sy'n gysylltiedig ag iechyd y geg, gan ganolbwyntio ar:

  • yr anghydraddoldebau o ran iechyd y geg, a phwy sy'n wynebu'r risg mwyaf; 
  • sut y gallwn wneud ein gwasanaethau'n fwy effeithiol ac effeithlon; a 
  • sut y gallwn wella ansawdd gwasanaethau deintyddol fel eu bod yn hyrwyddo mynediad a chanlyniadau iechyd, yn ogystal â darparu triniaeth ragorol.

Mae'r Cynllun yn nodi'r camau y mae gofyn i Lywodraeth Cymru, y Byrddau Iechyd Lleol, yr Adran Addysg Ddeintyddol i Raddedigion a rhanddeiliaid eraill eu cymryd er mwyn ymdrin â'r heriau yr ydym yn eu hwynebu o dan dair prif thema Gwella Iechyd y Geg; Datblygu a Darparu Gwasanaethau; ac Ansawdd a Diogelwch.

Wedi i'r Cynllun terfynol gael ei gyhoeddi, bydd gofyn i'r Byrddau Iechyd ddatblygu Cynlluniau Iechyd y Geg Lleol ar gyfer 2012-16, gan gydweithio'n strategol gyda'r Byrddau Iechyd eraill, a'r nod cyffredinol yw sicrhau bod gwella iechyd y geg a datblygu'r gwasanaethau deintyddol yn dod yn rhan ganolog o gynlluniau cyflenwi'r Byrddau Iechyd. 

Bydd yr ymgynghoriad yn parhau hyd 12 Hydref 2012, ac fe gaiff Cynllun terfynol ei gyhoeddi yn dilyn hynny.