Neidio i'r prif gynnwy

Vaughan Gething AC, Dirprwy Weinidog Iechyd

Cyhoeddwyd gyntaf:
24 Mawrth 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Mewn datganiad ysgrifenedig ar 29 Mehefin, cyhoeddais y byddai £1m yn cael ei ddyrannu i bob un o'r 10 o gynlluniau cyflawni Llywodraeth Cymru ar gyfer afiechydon difrifol. Mae'r datganiad hwn yn nodi sut y mae'r cyllid hwn wedi'i ddefnyddio i wella gwasanaethau i bobl Cymru.

Ers eu cyflwyno, mae'r cynlluniau cyflawni wedi helpu i wella gofal a thriniaeth pobl sy'n dioddef o afiechydon difrifol yng Nghymru:

  • Mae'r nifer sy'n goroesi strôc yn gwella – bu cynnydd o bron 500 yn y nifer sy'n goroesi strôc dros y pum mlynedd diwethaf
  • Rhwng 2004 a 2014, bu gostyngiad o 10% yn y nifer sy'n marw o ganser. Am y tro cyntaf, mae'r nifer sy'n goroesi am bum mlynedd wedi cyrraedd 50%, a'r nifer sy'n goroesi am flwyddyn wedi cyrraedd 70%
  • Mae nifer y marwolaethau sy'n ymwneud â diabetes yn gostwng a gwelwyd lleihad yn nifer y derbyniadau brys sy'n ymwneud â diabetes
  • Mae dros 8,000 yn llai o gleifion wedi'u trin am glefyd coronaidd y galon dros y pum mlynedd diwethaf wrth i gyfraddau'r achosion leihau
  • Mae'r cyfraddau goroesi ar gyfer pobl sy'n cael eu trin mewn unedau gofal critigol yn gwella – roedd 83% o gleifion wedi'u rhyddhau i fynd i ward arall yn 2014-15, sy'n uwch o'i gymharu â'r 79% a gafodd eu rhyddhau yn 2011-12
  • Mae nifer y bobl sy'n smygu wedi gostwng dros y 10 mlynedd diwethaf – o 28% yn 2004-05 i 20% yn 2014
  • Mae nifer y marwolaethau o ganlyniad i gyflyrau niwrolegol yn gymharol isel (664 yn 2013). Os yw'r gyfradd o ran yr holl farwolaethau ledled y DU wedi'i safoni yn ôl oedran, mae'r gyfradd yng Nghymru'n is na gwledydd eraill y DU
  • Roedd 93% o'r bobl a ymatebodd i'r arolwg adborth iWantGreatCare (2014-15) am ofal lliniarol arbenigol yng Nghymru yn gadarnhaol. Y sgôr gyfartalog ar gyfer Cymru oedd 9.5 allan o 10
  • Mae dros 88,000 o bobl wedi’u hasesu ac mae bron 48,000 wedi dechrau cael ymyrraeth therapiwtig yn y gwasanaethau cymorth iechyd meddwl gofal sylfaenol lleol newydd rhwng mis Ebrill 2013 a mis Rhagfyr 2015.

Mae gan bob un o'r cynlluniau cyflawni grŵp gweithredu sy'n cynnwys clinigwyr, byrddau iechyd a chynrychiolwyr o'r trydydd sector. Mae'r grwpiau hyn wedi gosod y blaenoriaethau ar gyfer y gwaith i'w wneud yn y flwyddyn sydd i ddod, ac maent wedi penderfynu sut y bydd y £1m yn cael ei wario i wella gwasanaethau a gofal cleifion. Er enghraifft:

Mae'r grŵp gweithredu ar gyfer strôc wedi comisiynu'r gwaith o ddarparu cwrs hyfforddiant unigryw. Crëwyd y cwrs gan glinigwyr i wella gwasanaethau clinigol cyn-ysbyty ar gyfer canlyniadau gwell i gleifion gan 1,500 o barafeddygon. Bydd hyfforddi yr holl barafeddygon brys ledled Cymru yn sicrhau y bydd mwy o gleifion yr amheuir eu bod wedi cael strôc yn cael eu derbyn yn gynt i'r llwybr strôc acíwt, gan wella'r gwaith o ganfod strôc yn gynnar a thrin cleifion yn gyflym. Mae'r grŵp hefyd yn treialu dull gyda gofal sylfaenol a chymunedol i adnabod y rheini sydd mewn risg o ddatblygu ffibriliad atrïaidd a sicrhau bod y driniaeth briodol ar gael. Bydd hyn yn lleihau nifer y bobl sy'n cael strôc yn ogystal â chefnogi pobl i ddeall a rheoli'u risg.

Mae chwarter o'r £1m sydd wedi'i ddyrannu i'r cynllun cyflawni ar gyfer diabetes yn cael ei fuddsoddi mewn swyddi newydd i helpu byrddau iechyd i wella gwasanaethau. Mae'r swyddi hyn, sy'n cynnwys darparu pympiau inswlin, gofal traed mewn diabetes a gofal trosiannol yn helpu i leihau cymhlethdodau sy'n ymwneud â diabetes a gwella canlyniadau cleifion.

Mae grŵp gweithredu ar gyfer clefyd y galon wedi blaenoriaethu a buddsoddi £850,000 ar gyfer datblygu gwasanaethau cardioleg cymunedol. Bydd hyn yn arwain at fynediad gwell at wasanaethau cardioleg yn agosach at y cartref, yn cyflymu mynediad at wasanaethau a symud gofal o ysbytai i gymunedau lleol.

Mae'r grŵp gweithredu ar gyfer y rhai sy’n ddifrifol wael yn ymchwilio i’r posibilrwydd o ddefnyddio'i gyllid i dreialu system rheoli cleifion a system e-Uned Gofal Dwys i wella gwasanaethau gofal critigol trwy ryngweithio mewn amser real â chleifion a rhoi cymorth i glinigwyr i wneud penderfyniadau, darparu rheolaeth well o ddata a gwybodaeth a chaniatáu mynediad at hwb rhwydwaith Cymru gyfan. Os bydd y system yn llwyddiannus o ran gwella ansawdd a chynaliadwyedd gwasanaethau, byddwn yn rhoi ar waith y rhaglen yn llawn.

Mae’r £1m i gefnogi’r cynllun cyflawni ar gyfer iechyd meddwl wedi’i ddefnyddio i gynyddu argaeledd therapïau seicolegol – bydd yn cyfrannu at recriwtio i 46 o swyddi clinigol newydd ar gyfer therapïau seicolegol ledled Cymru. Wrth recriwtio i’r swyddi hyn, bydd yn helpu i leihau’r amserau aros a hyfforddi staff presennol.

Lansiwyd cynllun cyflawni ar gyfer clefyd yr afu y llynedd, sef y cynllun cyflawni diweddaraf, mewn ymateb i ddyblu nifer y marwolaethau sy'n ymwneud â chlefyd yr afu dros yr 20 mlynedd diwethaf. Ei nod yw rhoi terfyn ar y cynnydd yn y nifer sy'n marw o'i herwydd erbyn 2020. Mae'r grŵp gweithredu wedi cytuno mai ei brif brosiect fydd ariannu timau gofal alcohol ym mhob bwrdd iechyd. Bydd yn defnyddio ei ran o'r cyllid i ddatblygu gwasanaeth craidd ym mhob bwrdd iechyd. Bydd y gwasanaeth yn gweithio i leihau nifer y cleifion sy'n cael eu hail dderbyn i'r ysbyty oherwydd alcohol, gwella'r gwaith o reoli pobl sy'n cael eu derbyn gyda phroblemau sy'n ymwneud ag alcohol a lleihau lefel clefyd yr afu sy'n ymwneud ag alcohol yn y tymor hwy.

Mae cynnydd wedi'i wneud ym mhob un o'r cynlluniau cyflawni a hoffwn ddiolch i bob aelod o'r grwpiau gweithredu sydd wedi gosod y blaenoriaethau a datblygu'r gwaith pwysig hwn. Mae cynlluniau cyflawni yn parhau’n rhan bwysig o’n hymrwymiad i barhau i geisio ffyrdd newydd o wella canlyniadau i gleifion. Rydym yn ymrwymo o hyd i sicrhau bod gwella ansawdd yn parhau’n ganolog i’n ffordd o weithredu ar gyfer dyfodol GIG Cymru.